Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd yn helpu i symud traffig yn ei flaen ac yn cynnig cefnogaeth i yrwyr ledled Lloegr. Yma, cewch wybod am yr hyn maent yn ei wneud ac am sut y gallant eich helpu os oes rhywbeth yn mynd o’i le ar eich taith.
Mae tua 1,500 o Swyddogion Traffig o’r Asiantaeth Priffyrdd yn sicrhau bod rhwydwaith traffyrdd Lloegr yn rhedeg yn esmwyth. Ceir Swyddogion Traffig ar ddyletswydd 24 awr y dydd, pob diwrnod o’r flwyddyn.
Mae Swyddogion Traffig yn gwneud nifer o’r swyddi yr oedd yr heddlu traffig yn arfer eu gwneud. Maent yn gweithio mewn patrolau ar y ffordd ac maent yn cael eu cefnogi gan staff canolfannau rheoli rhanbarthol yr Awdurdod Priffyrdd.
Mae eu rôl yn cynnwys y canlynol:
Mae’r heddlu’n gyfrifol am ddelio â digwyddiadau mawr ac ymddygiad troseddol, ond cyflawnir yr holl ddyletswyddau eraill yng nghyswllt y ffordd bron i gyd gan Swyddogion Traffig. Er enghraifft, pan caiff yr heddlu a gwasanaethau brys eu galw at wrthdrawiad mawr, y Swyddogion Traffig fydd yn rheoli’r traffig ac yn clirio’r malurion ar ôl y gwrthdrawiad.
Os bydd eich cerbyd yn torri lawr ar y draffordd, bydd Swyddog Traffig fel arfer yn gwneud y canlynol:
Ni all Swyddog Traffig eich arestio am oryrru nac am yrru’n beryglus (er y mae’n bosib y byddant yn riportio hyn i’r heddlu).
Gan fod Swyddogion Traffig yn gyfrifol am sicrhau bod y traffig yn symud yn ei flaen, weithiau mae'n rhaid iddynt gau ffyrdd ac ailgyfeirio traffig.
Mae peidio â dilyn cyfarwyddiadau Swyddog Traffig yn drosedd, a gallai arwain at y canlynol:
Mae Swyddogion Traffig ar y ffordd yn cael eu cydlynu a’u cefnogi gan gydweithwyr yn saith canolfan reoli ranbarthol yr Asiantaeth Priffyrdd. Mae’r staff hyn yn gwneud y canlynol:
Os hoffech ragor o wybodaeth am Swyddogion Traffig a'u rôl, gallwch lwytho taflen gan yr Asiantaeth Priffyrdd.
Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â bod yn Swyddog Traffig y Ffordd i'r Asiantaeth Priffyrdd, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.