Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w wneud os bydd eich car yn torri i lawr ar y draffordd

Cofiwch gynllunio eich taith a sicrhau bod gennych ddigon o danwydd cyn i chi ymuno â'r draffordd bob amser. Os bydd eich car yn torri i lawr, dilynwch y cyngor diogelwch hwn er mwyn lleihau'r risg i chi eich hun a gyrwyr eraill.

Peidiwch â stopio ar y draffordd oni bai bod yn rhaid i chi

Os oes angen i chi stopio mewn argyfwng dylech yrru'r car i'r llain galed.

Gall llain galed y draffordd fod yn lle peryglus ac mae'n anghyfreithlon stopio ac eithrio mewn argyfwng. Ni ddylech byth stopio yno i ddarllen map, mynd i'r toiled neu ateb y ffôn - dylech bob amser yrru i'r gwasanaethau neu'r ffordd ymadael nesaf.

Byddwch yn ofalus pan fyddwch ar y llain galed

Os bydd eich car yn torri i lawr neu os oes argyfwng arall yn eich gorfodi i stopio ar y draffordd, yna dilynwch bum cam cyngor diogelwch yr Asiantaeth Briffyrdd.

Trowch y car at yr ochr chwith

Stopiwch ar y llain galed a pharciwch mor bell i'r ochr chwith ag y gallwch, yn agos at ffôn argyfwng ar ochr y ffordd os yw'n bosibl. Cofiwch gynnau goleuadau rhybudd perygl eich cerbyd.

Gadewch eich car

Gadewch eich car ar unwaith drwy ddrws yr ochr chwith. Sicrhewch fod unrhyw un arall sy'n teithio yn y car yn gwneud yr un fath. Dylech adael unrhyw anifeiliaid yn y cerbyd, neu sicrhau eich bod yn eu cadw dan reolaeth ar lain ymyl y ffordd.

Cysylltwch â'r Asiantaeth Briffyrdd

Defnyddiwch y ffôn argyfwng agosaf ar ochr y ffordd yn hytrach na ffôn symudol os oes modd. Os byddwch yn defnyddio ffôn argyfwng ar ochr y ffordd bydd eich union leoliad yn ymddangos ar sgrîn y gweithredwr a bydd yn haws dod o hyd i chi. Ar draffyrdd ceir y ffonau hyn bob milltir.

Ceir marcwyr ochr y ffordd (gweler y llun isod) bob 10 metr ar y llain galed. Maent yn dangos pa mor bell rydych o ddechrau'r draffordd mewn cilometrau. Maent hefyd yn dangos ym mha gyfeiriad y mae'r ffôn argyfwng agosaf y gallwch ei ddefnyddio'n ddiogel.

Arhoswch i help gyrraedd

Cofiwch sicrhau eich bod yn aros yn bell i ffwrdd o'r lôn gerbydau a'r llain galed wrth i chi aros i help gyrraedd. Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i'r cerbyd a pheidiwch â cheisio trwsio eich car eich hun, hyd yn oed os ydych o'r farn mai tasg syml ydyw.

Os ydych yn teimlo bod rhywun arall yn peri risg i chi

Os ydych yn credu eich bod mewn perygl, dylech ddychwelyd i'ch cerbyd drwy'r drws ar yr ochr chwith, gwisgo eich gwregys diogelwch a chloi pob drws. Gadewch y cerbyd cyn gynted ag y teimlwch nad oes risg mwyach.

Os na allwch gyrraedd ffôn ar ochr y ffordd

Marcwyr ochr y ffordd

Mae marcwyr ochr y ffordd yn dangos eich lleoliad yn union ac ym mha gyfeiriad y mae'r ffôn argyfwng agosaf

Os gawsoch eich anafu neu fod gennych anabledd sy'n golygu na allwch gyrraedd ffôn ochr y ffordd, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn eich cynghori i wneud y canlynol:

  • aros yn y cerbyd yn gwisgo eich gwregys diogelwch
  • cynnau eich goleuadau rhybudd perygl

Os oes gennych ffôn symudol dylech ffonio 999 a dweud wrth y gwasanaethau brys ble rydych chi. Os gallwch weld marciwr ochr y ffordd neu arwydd lleoliad gyrwyr, dywedwch wrth y gweithredwr beth mae'n ei ddweud gan y bydd hyn yn ei helpu i ddod o hyd i chi.

Gallwch gael gwybodaeth fanwl am arwyddion lleoliad gyrwyr drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhagor o wybodaeth ar gyfer defnyddwyr ffyrdd anabl

Mae'r Asiantaeth Briffyrdd yn llunio cylchgrawn ar gyfer defnyddwyr ffyrdd anabl o'r enw 'My way'. Mae'n cynnwys cyngor cyffredinol ar yrru a gwybodaeth fanwl am beth i'w wneud mewn argyfwng. Gallwch lawrlwytho copi drwy ddilyn y ddolen isod. Gallwch hefyd archebu fersiwn wedi'i hargraffu drwy ffonio llinell wybodaeth yr Asiantaeth Briffyrdd ar 0300 123 5000.

Additional links

Gyrrwch yn ofalus

Gallai’r tywydd ac amodau’r ffyrdd newid, felly gyrrwch yn ofalus

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Hyfforddiant achlysurol CPC i yrwyr

Os ydych chi’n yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, bydd angen i chi ddilyn 35 awr o hyfforddiant achlysurol

Allweddumynediad llywodraeth y DU