Gyrru’n ddiogel mewn twneli ffordd
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae gyrru’n ddiogel drwy dwnnel ffordd. Dysgwch beth yw ystyr yr arwyddion, pa nodweddion diogelwch sydd ar waith a beth ddylech ei wneud mewn argyfwng. Gallwch hefyd gael gwybodaeth fanwl am dwneli penodol.
Twneli ar y rhwydwaith traffyrdd a ffyrdd
Ceir amryw o dwneli ffordd yn y DU. Maent yn amrywio yn ôl hyd, oedran a chynllun, ond ceir rhai nodweddion a chanllawiau diogelwch sylfaenol y dylai pob gyrrwr fod yn ymwybodol ohonynt. Ceir eglurhad o’r rhain yn yr adrannau canlynol.
Mae gwybodaeth am dwneli penodol ar gael ar y diwedd.
Nodweddion diogelwch mewn twneli
Mae gan dwneli ffordd amryw o nodweddion er mwyn sicrhau bod y traffig yn dal i symud yn ddiogel:
- goleuadau twnnel – er mwyn gweld yn well wrth fynedfa’r twnnel ac yn y twnnel (mae gan allanfeydd argyfwng a gorsafoedd argyfwng oleuadau di-dor sy’n gweithio hyd yn oed os bydd prif oleuadau’r twnnel yn diffodd)
- gorsafoedd argyfwng – mae'r rhain wedi’u lleoli’n gyson ar hyd y twnnel ac mae ganddynt ddiffoddwyr tân a ffonau argyfwng sydd wedi'u cysylltu ag ystafell reoli'r twnnel
- allanfeydd argyfwng – mae’r rhain wedi’u marcio’n glir ag arwyddion a goleuadau, ac mae ganddynt ddrysau sy’n gwrthsefyll tân a mwg (os bydd tân, gadewch eich cerbyd ar unwaith a dilyn llwybrau’r goleuadau argyfwng at allanfa argyfwng)
- system awyru – os bydd tân, bydd y system hon yn gwthio’r mwg o’r twnnel mewn un cyfeiriad (os bydd angen i chi gerdded at allanfa argyfwng yn ystod tân, dylech wynebu llif yr aer)
- camerâu traffig – os gwneir galwad argyfwng o ran o’r twnnel, bydd y monitor yn yr ystafell reoli’n dangos delweddau'r camera yn y rhan honno o’r twnnel yn awtomatig
Bydd y twneli ar gau o bryd i'w gilydd er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd hollbwysig. Pan fydd hyn yn digwydd, ceir arwyddion ar gyfer llwybrau gwyriad lleol.
Beth ddylech ei wneud wrth fynd i mewn i’r twnnel
Cofiwch wneud yn siŵr fod gennych ddigon o danwydd cyn mynd i mewn i dwnnel!
Gallwch gadw’n ddiogel drwy ddilyn ychydig o gamau syml:
- ufuddhau i arwyddion a goleuadau traffig
- gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o danwydd
- rhoi eich goleuadau blaen ymlaen (a thynnu eich sbectol haul)
- cadw pellter diogel rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen (dylai ceir adael bwlch o ddwy eiliad o leiaf, ac o leiaf pedair eiliad o fwlch i loriau)
- peidiwch â phasio cerbyd arall os dim ond un lôn sy'n teithio i bob cyfeiriad
- peidiwch â stopio, oni bai ei fod yn argyfwng
- peidiwch â throi na bacio
Beth i'w wneud y tu mewn i’r twnnel
Mae tân yn gallu lladd
Arbedwch eich bywyd, nid eich cerbyd!
Os bydd ciw
Os bydd y traffig yn stopio yn y twnnel am unrhyw reswm, dylech wneud y canlynol:
- rhoi eich goleuadau rhybuddio ymlaen
- cadw eich pellter – hyd yn oed os ydych yn symud yn araf neu wedi stopio
- diffodd yr injan os byddwch yn aros am fwy na munud
- gwrando ar y radio am unrhyw negeseuon
- dilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan swyddogion y twnnel neu ufuddhau i unrhyw arwyddion negeseuon electronig
Os cewch chi ddamwain neu os bydd eich car yn torri i lawr
Os bydd eich car yn torri i lawr yn y twnnel, dylech wneud y canlynol:
- rhoi eich goleuadau rhybuddio ymlaen
- ceisio symud eich cerbyd i’r llain galed (os nad oes llain galed, dylech symud draw i'r ochr)
- diffodd eich injan
- gadael eich cerbyd os yw'n ddiogel i chi wneud hynny
- helpu pobl sydd wedi'u hanafu os oes angen ac os yw hynny’n bosibl
- ffonio i ofyn am help gan orsaf argyfwng a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan swyddogion y twnnel
Os bydd cerbyd yn mynd ar dân
Os bydd tân yn y twnnel, gadewch eich cerbyd heb ei gloi a dilyn yr arwyddion at allanfa argyfwng cyn gynted â phosib. Defnyddiwch ffôn argyfwng i ffonio am help.
Beth i’w wneud os bydd eich cerbyd chi ar dân
Os yw’n ddiogel i chi wneud hynny, dylech yrru o’r twnnel. Os nad yw hyn yn bosib, dylech wneud y canlynol:
- symud draw i’r ochr
- diffodd yr injan
- gadael y cerbyd yn gyflym ac yn ofalus
- ffonio i ofyn am help
o orsaf argyfwng
- os gallwch, diffoddwch y tân drwy ddefnyddio diffoddwr tân yn yr orsaf argyfwng (dim ond os mai newydd ddechrau y mae'r tân y dylech geisio ei ddiffodd eich hun. Peidiwch ag agor y bonet gan y gallai’r injan fod yn boeth a gallai hynny ychwanegu at y tân)
- os gallwch, rhowch gymorth cyntaf i’r bobl sydd wedi’u hanafu
- dilynwch yr arwyddon at allanfa argyfwng a gadael y twnnel cyn gynted â phosib
Gwybodaeth am dwneli penodol
Mae gan rai twneli gynllun neu nodweddion diogelwch penodol. Gallwch lwytho taflenni neu ymweld â gwefannau twneli unigol drwy ddilyn y dolenni isod.
Twneli yng ngweddill Ewrop
Nid yw’r cyngor hwn yn ymdrin â thwneli ffordd ar dir mawr Ewrop, ond mae’r un rheolau diogelwch sylfaenol yn berthnasol. Os ydych chi’n gyrru dramor, efallai yr hoffech ddarllen y canlynol:
- cyngor gan yr AA, sy’n cynnwys sgôr diogelwch i dwneli ledled Ewrop
- taflen ‘Safe driving in road tunnels’ gan y Comisiwn Ewropeaidd