Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae rhoi gwybod am eich lleoliad mewn argyfwng

Mae arwyddion lleoliad i yrwyr yn cael eu gosod ar draffyrdd a phrif ffyrdd ledled Lloegr. Sicrhewch eich bod yn deall yr wybodaeth ar yr arwyddion hyn rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio atynt mewn argyfwng.

Pam mae arwyddion lleoliad i yrwyr wedi cael eu cyflwyno

Mae arwyddion lleoliad i yrwyr wedi’u cynllunio fel y gallwch eu gweld o’r ffordd wrth deithio. Bydd y llythrennau a’r rhifau ar yr arwydd yn golygu y gallwch roi gwybodaeth fanwl gywir am eich lleoliad heb orfod stopio. Gall y gwasanaethau brys, cwmnïau achub cerbydau a swyddogion traffig ddefnyddio’r wybodaeth i gyrraedd y man yn gyflym.

Mae gan nifer o ddefnyddwyr y ffordd ffonau symudol y gellir eu defnyddio i riportio digwyddiad ar unwaith heb orfod stopio. Cofiwch, dylech ond ffonio os oes gennych offer 'dim dwylo' neu os ydych chi'n deithiwr.

Ni ddylech fyth stopio ar y llain galed i ffonio, gan ei bod yn beryglus i chi stopio yno. Dylech barhau i yrru nes i chi gyrraedd ardal wasanaethau.

Sut mae arwyddion lleoliad i yrwyr yn edrych

Mae arwyddion lleoliad i yrwyr i gyd yn edrych yr un fath, ni waeth a ydynt ar draffordd neu ar ffordd A. Mae ganddynt lythrennau melyn ar gefndir glas gyda rhimyn gwyn.

Mae’r wybodaeth yn ymddangos mewn tair rhes:

  • mae’r rhes uchaf yn dangos y ffordd A neu rif y draffordd
  • mae’r rhes ganol yn dangos i ba gyfeiriad rydych chi’n teithio (er enghraifft, ar yr M25 mae ‘A’ yn golygu clocwedd, ac mae ‘B’ yn golygu gwrthglocwedd)
  • mae’r rhes waelod yn dangos y pellter mewn cilometrau, sy’n gywir i’r 20 metr agosaf, o’r fan cychwyn tybiannol o’r draffordd neu’r ffordd A

Pryd y dylech ddefnyddio arwyddion lleoliad i yrwyr

Bydd yr wybodaeth ar yr arwyddion yn ddefnyddiol os bydd angen i chi gysylltu â’r gwasanaethau brys neu’r Asiantaeth Priffyrdd. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth ar yr arwydd lleoliad i yrwyr agosaf os oes arnoch angen riportio un o’r canlynol:

  • digwyddiad ar y ffordd
  • malurion ar y ffordd

Ffoniwch 999 neu 112 i riportio gwrthdrawiad neu ddigwyddiad ar y ffordd.

Ffoniwch Llinell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 08457 50 40 30 i roi gwybod am falurion neu ddifrod.

Os bydd eich cerbyd yn torri lawr ar y draffordd

Os bydd eich car yn torri lawr a bod yn rhaid i chi stopio ar y llain galed, gallwch ddefnyddio’r ffonau argyfwng ar ochr y ffordd. Gallwch ddod o hyd i’r un argyfwng agosaf drwy ddilyn y marcwyr pellter. Mae’r marcwyr pellter yn llai nag arwyddion lleoliad i yrwyr ac nid ydynt wedi’u cynllunio i gael eu gweld o'r ffordd. Maent wedi’u lleoli bob 100 metr ac maent wedi cael eu defnyddio ar draffyrdd am nifer o flynyddoedd. I gael gwybodaeth fanylach gweler ‘Beth i’w wneud os bydd eich cerbyd yn torri lawr ar y draffordd’.

Ble mae arwyddion lleoliad i yrwyr wedi cael eu gosod

Mae'r arwyddion ar ymyl agosaf y draffordd neu'r ffordd, heb fwy na 500 metr rhyngddynt.

Mynd â’r wybodaeth hon gyda chi

Os hoffech fynd â’r wybodaeth hon gyda chi ar eich taith, gallwch lwytho taflen yr Asiantaeth Priffyrdd ynglŷn ag arwyddion lleoliad i yrwyr.

Additional links

Gyrrwch yn ofalus

Gallai’r tywydd ac amodau’r ffyrdd newid, felly gyrrwch yn ofalus

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Hyfforddiant achlysurol CPC i yrwyr

Os ydych chi’n yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, bydd angen i chi ddilyn 35 awr o hyfforddiant achlysurol

Allweddumynediad llywodraeth y DU