Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gyrru heb ofal drwy waith ffordd ar draffyrdd yn achosi damweiniau ac oedi ac yn rhoi gweithwyr y ffordd mewn perygl o gael eu hanafu neu eu lladd. Yma, cewch ddysgu beth i’w ddisgwyl, beth y mae’r arwyddion yn ei olygu a sut mae paratoi, fel na fyddwch yn achosi damwain.
Wrth yrru ar gyflymder o 70 mya, byddwch yn cyrraedd gwaith ffordd mewn 51 eiliad
Bob blwyddyn, caiff gweithwyr y ffordd eu lladd a'u hanafu wrth iddynt weithio i gynnal, cadw a gwella'r rhwydwaith traffyrdd. Gellid atal y marwolaethau a’r anafiadau hyn i gyd.
Mae fideo’r Asiantaeth Priffyrdd ‘Parchu gweithwyr y ffordd’ yn dangos effeithiau damweiniau ar waith ffordd. Gallwch weld y fideo mewn fformat o’ch dewis (gan gynnwys trawsgrifiad testun yn unig) drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae’r cyfyngiadau cyflymder ger gwaith ffordd yno i ddiogelu gyrwyr hefyd. Mae’n hanfodol ar gyfer eich diogelwch chi eich bod yn arafu eich cerbyd wrth i amgylchedd y ffordd newid, e.e. gyda maint lonydd llai a rhwystrau diogelwch.
Mae gwaith ffordd yn amrywio o waith tymor hir sy’n cynnwys cau lonydd ar gyfer gwaith atgyweirio rheolaidd cyflym. Gallai’r gwaith gael ei wneud ddydd a nos. Ym mhob achos, bydd arwyddion a fydd yn rhoi gwybod i yrwyr beth i'w ddisgwyl a phryd.
Ar gyfer gwaith ffordd a fydd wedi’i orffen yn gyflym, mae’n bosib y byddwch yn gweld arwyddion ar gefn cerbydau gwaith. Ar gyfer gwaith ffordd dros dro arferol, mae’n bosib y bydd yr arwyddion wedi’u gosod ar ochr y ffordd.
Ceir hefyd amrywiaeth o arwyddion electronig amlwg. Yn aml, bydd y rhain ar bont arwyddion uwchben y ffordd a gall y negeseuon newid gan ddibynnu ar yr amodau.
Gallwch lwytho dogfen PDF o arwyddion gwaith ffordd o Reolau'r Ffordd Fawr oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod.
Pan fyddwch yn gweld yr arwydd hwn yn fflachio o bont arwyddion uwchben y ffordd, mae’n golygu bod y ffordd o dan ar gau, a ni chewch yrru arni.
Gall gwaith ffordd wneud i draffig ymddwyn mewn ffyrdd anghyffredin. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi sylw i’r arwyddion ac yn rhoi amser i chi ymateb i’r canlynol:
Mae’r Asiantaeth Priffyrdd wedi cynhyrchu taflen fanwl ynghylch ‘Gyrru drwy waith ffordd’. Gallwch lwytho copi oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod. Gallwch hefyd ffonio Llinell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd (0300 123 5000) a gofyn i’r Asiantaeth anfon copi atoch.
Mae ymgyrch ddiogelwch PWYLLWCH! yn cynghori gyrwyr i gymryd gofal ychwanegol ger gwaith ffordd. Yn benodol, mae’n cynghori gyrwyr i wneud y canlynol:
Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!