Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yn unig y mae sbwriel ar draffyrdd a ffyrdd yn salw, ond gall fod yn beryglus i yrwyr ac yn niweidiol i fywyd gwyllt a'r amgylchedd. Yma, cewch wybod pwy sy’n gyfrifol am glirio sbwriel a malurion a beth allwch chi ei wneud i helpu.
Gall sbwriel ar y ffyrdd fod yn broblem ddifrifol. Gall wneud y canlynol:
Os byddwch yn taflu sbwriel o gar, gallai achosi damwain drwy:
Gall clirio sbwriel oddi ar draffyrdd a ffyrdd prysur fod yn waith peryglus. Mae hefyd yn costio arian y gallai fod yn cael ei wario ar gynnal a chadw arwyneb y ffordd ac ar waith trwsio strwythurol.
Cyfrifoldeb yr Asiantaeth Priffyrdd yw casglu sbwriel ar draffyrdd yn Lloegr. Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am glirio sbwriel ar y rhan fwyaf o gefnffyrdd o bob math.
Yng Nghymru, cyfrifoldeb Cyfarwyddiaeth Trafnidiaeth Cynulliad Cymru yw hyn. Transport Scotland sy'n gwneud hyn yn yr Alban.
Ar ffordd breifat neu ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir yw'r sbwriel.
Os byddwch chi’n sylwi ar sbwriel sy’n salw neu a allai beri perygl ar eich strydoedd lleol, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol. Mae’r ddolen isod yn eich galluogi i roi gwybod am broblem sbwriel i'ch awdurdod lleol, ar sail y cyfeiriad y byddwch yn ei roi.
Cadwch fag papur yn y car i storio pecynnau bwyd a sbwriel cyffredinol nes eich bod yn dod o hyd i fin addas
Gall sbwriel neu falurion fod yn arbennig o beryglus ar y ffyrdd hyn gan fod gyrwyr yn debygol o fod yn gyrru’n gyflym ac y byddai’n rhaid iddynt, o bosib, sgidio neu wyro i’w osgoi. Os byddwch yn gweld sbwriel rydych chi’n meddwl y gallai beri perygl, dylech roi gwybod amdano i’r awdurdod priffyrdd perthnasol gan ddefnyddio’r rhifau isod:
Mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd.
Cofiwch beidio â defnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru. Gofynnwch i deithiwr ffonio, neu arhoswch nes y gallwch stopio mewn man diogel.