Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhannu ceir a chlybiau ceir

Gyda mwy o geir ar y ffordd, mae cynlluniau rhannu car yn dod yn fwy poblogaidd. Gall rhannu ceir helpu i fynd i'r afael â thagfeydd a lleihau allyriadau CO2. Gall ymuno â chlwb ceir hefyd fod o fudd mawr i'r amgylchedd - a gallai arbed arian i chi.

Manteision rhannu car

Bydd cynlluniau rhannu ceir yn caniatáu i bobl rannu cerbydau ar gyfer rhai siwrneiau. Mae buddion rhannu ceir yn cynnwys:

  • ansawddd aer gwell a llai o allyriadau carbon o ganlyniad i lai o dagfeydd.
  • costau teithio llai i bob person
  • llai o dagfeydd a siwrneiau byrrach o ganlyniad i lai o geir ar y ffordd
  • gwell siawns o ddod o hyd i fan parcio, gan fod llai o geir yn golygu llai o gystadlu am lefydd parcio
  • gwell diogelwch personol i chi wrth fynd yn ôl ac ymlaen i'ch car os ydych yn cerdded gyda'r sawl sy'n rhannu'r car gyda chi

Sefydlu neu ddod o hyd i gynllun rhannu car

Mae amrywiaeth o gynlluniau ar gael:

  • cynlluniau wedi'u trefnu sydd ar gael i bawb ac yn gweithredu dros y rhyngrwyd
  • cynlluniau sydd wedi'u trefnu gan sefydliadau neu fusnesau ar gyfer eu gweithwyr
  • trefniadau llai ffurffiol rhwng teulu, ffrindiau a chyd-weithwyr

Tarwch olwg ar wefan eich cyngor lleol i gael gwybodaeth am y cynlluniau sydd wedi'u trefnu yn eich ardal. Neu, mae Carplus - elusen sy'n hyrwyddo defnyddio ceir mewn ffordd gyfrifol - yn rhestru cynlluniau lleol.

Clybiau ceir

Mae clybiau ceir yn gallu mynediad i bobl i gael gafael ar gar ar gyfer siwrneiau angenrheidiol heb orfod bod yn berchen ar gar eu hunain.

Mae bod yn rhan o glwb yn eich galluogi i logi cerbyd sydd wedi'i barcio mewn lle parcio wedi'i neilltuo, yn agos at eich cartref neu'ch gwaith. Gellir talu am y cerbydau a'u defnyddio fesul awr, fesul diwrnod neu fesul wythnos.

Gall defnyddio clwb car fod yn rhatach ac yn llai o drafferth na bod yn berchen ar eich car eich hun. Nid oes rhaid i chi brynu cerbyd na thalu am gostau megis cynnal a chadw car, MOT na threth car, ac mae'r system fel arfer yn syml:

  • gellir llogi car drwy gyfrwng swyddfa ganolog dros y ffôn neu'r rhyngrwyd
  • gellir llogi ceir 24 awr y dydd am gyn lleied ag awr ar y tro
  • gadewir y ceir mewn mannau parcio yn agos at eich cartref neu'ch gwaith
  • cedwir yr allweddi naill ai mewn blwch diogel gerllaw, neu yn y car, a bydd rhaid cael cerdyn call er mwyn ei ddefnyddio
  • fel arfer, bydd gyrwyr yn talu ffi'n fisol neu'n flynyddol ac yn cael bil am gyfanswm yr oriau y gwnaethant logi'r car a faint o filltiroedd a yrrwyd
  • nid chi fydd yn gyfrifol am roi gwasanaeth i'r car nac am ei gynnal a'i gadw

Lonydd rhannu car

Mae lonydd rhannu car wedi'u llunio ar gyfer cerbydau gyda mwy nag un un teithiwr ynddynt. Maent yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd gyda thagfeydd mawr, er mwyn annog rhannu ceir. Defnyddir camerau i sicrhau mai ond ceir â dau berson neu fwy ynddynt sy'n defnyddio'r lonydd. Mae lonydd rhannu car i'w cael yn Leeds a Swydd Gaerloyw. Agorwyd y lôn rhannu car cyntaf ar draffordd ym mis Mawrth 2008 - mae'n cysylltu'r M606 sy'n teithio tua'r de ger Bradford gyda'r M62 sy'n teithio tua'r dwyrain tuag at Leeds.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU