Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwneud cwyn ar-lein am wasanaethau cynghorau ac awdurdodau lleol wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Er mwyn gwneud cwyn am eich cyngor lleol neu wasanaeth eich awdurdod lleol mae'n rhaid i chi ddweud y gwyn wrth y cyngor neu'r gwasanaeth o dan sylw yn gyntaf. Os na chaiff y mater ei ddatrys yn foddhaol yn eich barn chi gallwch fynd at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Drwy ddilyn y ddolen isod, fe fyddwch yn mynd i dudalen lle gallwch deipio'ch cod post er mwyn dod o hyd i'ch awdurdod lleol. Byddwch wedyn yn mynd i dudalen gwyno'ch cyngor lleol.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb a gewch gan eich cyngor lleol, gallwch fynd â'ch cwyn at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes