Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mynnwch wybod beth y gallwch ei wneud os ydych yn credu bod gwrych sy'n creu ffin i ardd yn rhy uchel. Hefyd, os oes gennych wrych, neu eich bod yn ystyried tyfu un, dysgwch am eich cyfrifoldebau a pha fath o wrych a allai fod yn addas i'ch gardd.
Ni fydd eich cyngor yn ystyried bod yn rhan o anghydfod am wrych hyd nes y byddwch wedi rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys y broblem yn gyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys siarad â'ch cymydog am y broblem a defnyddio gwasanaeth cyfryngu.
Mae ‘Datrys anghydfod gyda chymydog: cyflwyniad' yn egluro'r holl gamau y dylech eu cymryd cyn cysylltu â'ch cyngor, gan gynnwys cyfryngu.
Cofiwch gadw cofnod o'r hyn rydych wedi'i wneud, fel copïau o lythyrau neu ddyddiadur.
Os na fydd unrhyw un o'r camau a nodir yn 'Datrys anghydfod gyda chymydog' yn gweithio, dywedwch wrth eich cymydog eich bod yn bwriadu gwneud cwyn ddifrifol i'r cyngor.
Dim ond fel cam olaf y dylech gysylltu â'r cyngor.
Sut i gwyno i'ch cyngor
Yn ôl y gyfraith, dim ond ar gwynion sy'n bodloni meini prawf penodol y gall eich cyngor weithredu. Er enghraifft, rhaid i'r gwrych rydych yn cwyno amdano:
Os ydych yn bodloni'r meini prawf, gallwch ofyn i'ch cyngor am ffurflen gwyno. I gael cyngor ar lenwi'r ffurflen hon, a rhestr lawn o'r meini prawf, darllenwch ‘High hedges: complaining to the council’.
Efallai y bydd gan eich cyngor wybodaeth am wrychoedd uchel ar ei wefan hefyd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi, a gaiff ei phennu gan eich cyngor. Gall eich cyngor gadarnhau'r swm a ph'un a allwch gael gostyngiad - er enghraifft, am eich bod ar incwm isel.
Mae ffi yn daladwy am y rhesymau canlynol:
Os bydd y cyngor yn cadarnhau eich cwyn, gall orchymyn i'ch cymdogion dorri'r gwrych i uchder a fydd yn:
Nid oes unrhyw uchder penodol, yn ôl y gyfraith, y mae'n rhaid torri'r gwrych iddo. Gwneir penderfyniadau ar sail yr hyn sy'n rhesymol, ac mae'r terfyn yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau,. Ni fydd eich cyngor yn torri'r gwrych i uchder o lai na dau fetr nac yn ei dynnu'n gyfan gwbl.
Os na fydd eich cymdogion yn torri eu gwrych yn yr amser a nodwyd, gallent gael eu herlyn a gallent gael dirwy o hyd at £1,000.
Mae ‘High hedges complaints: prevention and cure’ (o bennod tri ymlaen) yn ymdrîn â'r gyfraith ar wrychoedd uchel a'r broses gwyno.
Mae ‘Hedge height and light loss’ yn cynnwys gwybodaeth dechnegol am sut mae cynghorau yn penderfynu beth yw uchder rhesymol i wrych.
Gallwch chi a'ch cymydog apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor. I gael rhagor o wybodaeth am apelio a'r terfynau amser dan sylw, lawrlwythwch ‘A guide for appellants (high hedges)’.
Os na wnaeth y cyngor ymdrin â'ch cwyn yn briodol yn eich barn chi, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Mae hawl gennych i docio canghennau neu wreiddiau sy'n croesi i mewn i'ch eiddo hyd at ffin yr eiddo. Os byddwch yn gwneud mwy na hyn, gallai eich cymydog ddwyn achos llys yn eich erbyn am ddifrodi ei eiddo.
Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, neu os yw'r coed yn y gwrych wedi'u diogelu gan 'orchymyn cadw coed', efallai y bydd angen caniatâd y cyngor arnoch i'w tocio.
Am ragor o wybodaeth, gweler y daflen 'Protected trees: a guide to tree preservation procedures’.
Os bydd gwrych yn difrodi eiddo rhywun arall, gall ei berchennog fod yn atebol am y difrod hwnnw.
Gallwch ganfod a yw gwrych neu goed yn achosi difrod drwy gyflogi ymgynghorydd coedyddiaeth neu syrfëwr adeiladu. Gallant roi cyngor arbenigol i chi hefyd. Efallai y bydd eich yswiriwr adeiladau yn ymchwilio ymhellach i'r mater ac yn gweithredu ar eich rhan.
Ni all y cyngor ymdrîn â chwynion am goed uchel unigol na gwrychoedd collddail (nad ydynt yn fytholwyrdd). Dilynwch y camau yn y daflen 'Over the garden hedge' i geisio datrys eich anghydfod.
Mae gennych gyfrifoldebau penodol os ydych yn berchen ar wrych, felly meddyliwch yn ofalus cyn dewis pa fath i'w dyfu.
Eich cyfrifoldebau os ydych yn berchen ar wrych
Rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw eich gwrychoedd fel na fyddant, er enghraifft, yn difrodi eiddo eich cymydog nac yn tyfu'n rhy uchel.
I gael rhagor o wybodaeth am wrychoedd, y gyfraith a'ch cyfrifoldebau, gweler adran 3 ymlaen o'r ddogfen 'Over the garden hedge'.
Dewis y gwrych cywir
Cyn dewis gwrych, ystyriwch bethau fel pa mor fawr y gall dyfu a pha mor aml y bydd angen i chi ei docio. Efallai y bydd unrhyw amodau cynllunio neu 'gyfamodau' (rheolau) ar gyfer eich eiddo yn effeithio ar y math o wrych y byddwch yn ei ddewis hefyd. Bwriwch olwg dros weithredoedd eich tŷ neu cysylltwch â'ch cyngor i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gyfyngiadau.
I gael rhagor o gyngor ar ddewis y gwrych cywir, siaradwch â'ch canolfan arddio leol neu gweler y dolenni isod.