Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Datrys anghydfod gyda chymydog: cyflwyniad

Gallai anghydfodau gyda chymdogion gynnwys dadleuon ynglŷn â phethau fel sŵn, caniatâd cynllunio, ffensys neu wrychoedd uchel. Mynnwch wybod am eich opsiynau er gyfer datrys anghydfod gyda chymydog, fel cyfryngu, a ble i gael help. Hefyd, dysgwch beth yw niwsans statudol a sut i ddelio ag ef.

Trafod y broblem gyda'ch cymydog

Cofiwch y bydd angen i chi fyw drws nesaf i'ch cymdogion, felly byddai dod i ddealltwriaeth yn fuddiol i bawb

Os byddwch yn rhan o anghydfod gyda chymydog, ceisiwch drafod y broblem ag ef cyn gwneud cwyn ffurfiol neu gysylltu ag eraill.

Os byddwch yn ansicr ynglŷn â siarad â'ch cymydog, ysgrifennwch lythyr ato, gan egluro'r broblem yn glir a chadw at y ffeithiau.

Gallwch gynnwys cymdogion eraill os yw'r broblem yn effeithio arnynt hefyd. Gall fod yn haws datrys anghydfod os bydd y gwyn wedi'i chyflwyno gan nifer o bobl. Os ydych yn perthyn i gymdeithas tenantiaid, efallai y bydd yn gallu helpu.

Cyfryngu os na fydd siarad â'ch cymydog yn gweithio


Gwyliwch fideo sy'n dangos sut y gall cyfryngu eich helpu i ddatrys anghydfod

Os na allwch ddatrys yr anghydfod drwy siarad â'ch cymydog, efallai y byddwch yn gallu cael help gan wasanaeth cyfryngu.

Sut mae cyfryngu ar gyfer cymdogion yn gweithio

Cyfryngu yw pan fo rhywun diduedd - sydd wedi'i hyfforddi i ddelio â thrafodaethau anodd rhwng dwy ochr sy'n anghytuno - yn siarad â'r ddwy ochr heb gymryd ochr.

Fel arfer, mae cyfryngu ar gyfer anghydfodau rhwng cymdogion am ddim. Os bydd ffi, bydd yn rhatach o hyd na chyflogi cyfreithiwr a chymryd camau cyfreithiol.

Trefnu apwyntiad cyfryngu

Bydd cyfryngwr yn siarad â phawb sy'n rhan o'r anghydfod ac yn trefnu cyfarfod ar y cyd gyda chi â'ch cymydog. Gall y cyfarfod hwn ddigwydd mewn lle niwtral, fel swyddfeydd eich cyfryngwr.

Mae cyfryngu'n gweithio orau wyneb i wyneb. Os byddwch yn ansicr ynglŷn â chyfarfod â'ch cymydog, gallwch fynd â rhywun gyda chi neu efallai y gall eich cyfryngwr siarad â'ch cymydog ar eich rhan.

Trafod â'ch cymydog

Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a'ch cymydog i ddeall eich safbwyntiau eich gilydd a dod i ddatrysiad drwy wneud y canlynol:

  • pennu rheolau sylfaenol ar gyfer y drafodaeth
  • sicrhau bod y ddwy ochr yn cael cyfle i leisio barn
  • awgrymu ffyrdd ymlaen

Gall cytundebau fod ar lafar neu'n ysgrifenedig. Ni fyddant yn gyfreithiol gyfrwymol, ond mae'n debygol y byddwch chi a'ch cymydog yn cadw at drefniant sydd wedi'i drafod a'i lofnodi'n rhydd gan y ddwy ochr.

Dod o hyd i wasanaeth cyfryngu

Yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch yr adnodd 'dod o hyd i ddarparwr cyfryngu sifil' i gael manylion darparwr cyfryngu yn eich ardal.

Yn yr Alban, defnyddiwch Rwydwaith Cyfryngu'r Alban.

Efallai bod eich cyngor neu'ch cymdeithas dai yn darparu gwasanaeth cyfryngu hefyd.

Ffynonellau help a gwybodaeth ar gyfer anghydfodau rhwng cymdogion

Os bydd yr anghydfod yn ymwneud a gwrych uchel neu sŵn, gweler y dolenni 'Delio ag anghydfod sy'n ymwneud â gwrych uchel’ a ‘Delio â niwsans sŵn’.

Gall Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) roi cyngor am ddim ar anghydfodau ynghylch ffiniau a 'waliau cydrannol' (y waliau rydych yn eu rhannu â'ch cymdogion).

Os yw eich cymydog yn denant, gallech wneud cwyn i'w landlord - er enghraifft, cymdeithas dai, y cyngor neu landlord preifat.

Yn achos anghydfodau sy'n ymwneud â gwaith adeiladu sy'n torri rheolau cynllunio, neu ymddygiad gwrthgymdeithasol (fel fandaliaeth ac ymddygiad bygythiol), dylech wneud cwyn i'ch cyngor neu'r heddlu.

Sut mae eich cyngor yn delio â niwsans

Os yw'r broblem rydych yn ei hwynebu yn niwsans statudol, mae dyletswydd ar eich cyngor lleol i ymchwilio iddi.

Beth yw niwsans statudol?

Niwsans neu weithgaredd sy'n niweidio iechyd pobl, neu un sy'n debygol o wneud hynny, yw niwsans statudol. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • sŵn o safle, cerbydau, peiriannau neu gyfarpar ar stryd
  • cŵn swnllyd
  • golau artiffisial (ac eithrio goleuadau stryd)
  • llwch, ager, arogleuon neu bryfed o safleoedd diwydiannol, masnachol neu fusnes
  • mwg, tarthau neu nwyon
  • pentwr o sbwriel a allai niweidio iechyd pobl

Sut i roi gwybod am niwsans statudol

Dylech geisio siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am y niwsans. Os na fydd hynny'n datrys y broblem, rhowch wybod am y niwsans:

  • os yw'n dod o ffatrïoedd mawr a safleoedd gwastraff, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd
  • os yw'n dod o unrhyw ffynhonnell arall, cysylltwch â swyddog iechyd yr amgylchedd eich cyngor

Sut mae eich cyngor yn penderfynu a yw'n niwsans statudol

Rhaid i'ch cyngor benderfynu a yw niwsans statudol yn bodoli, neu a yw'n debygol o ddigwydd neu ddigwydd eto. Bydd yn ystyried a yw gweithgaredd yn niweidio iechyd pobl neu'n niwsans, ac yn ystyried y canlynol:

  • y math o niwsans a'i leoliad
  • pryd ddigwyddodd y niwsans a pha mor hir a barodd
  • p'un a yw'r gweithgaredd sy'n achosi niwsans yn ddefnyddiol neu'n hanfodol

Beth fydd eich cyngor yn ei wneud ynghylch niwsans statudol

Os bydd eich cyngor yn penderfynu bod niwsans yn bodoli, rhaid iddo gyhoeddi 'hysbysiad atal'. Mynnwch wybod mwy am hysbysiadau atal yn ‘Delio â niwsans sŵn’. Os byddwch yn anfodlon ar ymateb eich cyngor, efallai y byddwch yn gallu gwneud cwyn.

Camau cyfreithiol ar gyfer anghydfodau rhwng cymdogion

Os bydd popeth arall yn methu, gallech ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cymydog. Dylai hyn fod yn ddewis olaf, oherwydd gall fod yn gostus iawn a gallai ei gwneud yn amhosibl cymodi â'ch cymydog.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith, canolfan cyngor neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU