Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o wahanol broblemau: cymdogion swnllyd, ceir sydd wedi'u dympio, fandaliaeth, graffiti, sbwriel a chriwiau bygythiol. Mae'n creu amgylchedd lle gall troseddu wreiddio ac effeithio ar fywyd beunyddiol pobl. Ond mae ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem.
Os yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn broblem yn eich ardal, gallwch wneud y canlynol:
Mewn rhai achosion, does dim rhaid datgelu pwy yw'r tystion.
Contract ysgrifenedig yw CYD a wneir rhwng rhywun sy'n ymddwyn yn wrth-gymdeithasol a'u hawdurdod lleol, eu Panel Cefnogi Cynnwys Pobl Ifanc, eu landlord neu'r heddlu. Pwrpas CYDau yw cael unigolion i gydnabod eu hymddygiad gwrth-gymdeithasol a'r effaith a gaiff hynny ar bobl eraill, gyda'r nod o atal yr ymddygiad hwnnw'n fuan. Mae CYDau yn nodi'r mathau o weithredoedd gwrth-gymdeithasol y mae'r unigolyn yn cytuno i roi'r gorau iddynt ac yn amlinellu'r canlyniadau os torrir y contract.
Er bod CYDau wedi'u bwriadu ar gyfer pobl ifanc, fe ellir eu defnyddio i droseddwyr o bob oed. Mae CYDau yn anffurfiol ac yn hyblyg ac felly gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Nid yw CYDau'n rhwymo pobl yn gyfreithiol, ond mae'n bosib cyfeirio atynt yn y llys fel tystiolaeth mewn ceisiadau am Orchymyn Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol neu mewn achos troi allan o eiddo neu geisio meddiant.
Cosbau untro yw Hysbysiad Cosb Benodedig a Hysbysiad Cosb am Anrhefn a roddir i bobl sy'n ymddwyn yn wrth-gymdeithasol.
Fel arfer, bydd Hysbysiadau Cosb Benodedig yn delio â throseddau amgylcheddol megis gollwng sbwriel, mân droseddau graffiti, peidio â chodi baw ci neu niwsans sŵn o gartref rhywun yn ystod y nos. Gall swyddogion cynghorau lleol, swyddogion cymorth cymuned yr heddlu a phobl eraill sydd wedi'u hachredu roi'r cosbau hyn. Mae'n bosib eu rhoi i unrhyw un dros ddeg oed. Mae cosbau penodol ar gyfer y troseddau hyn - a'r rheiny'n uwch ar gyfer troseddau sy'n ymwneud â sŵn.
Rhoddir Hysbysiadau Cosb am Anhrefn ar gyfer troseddau mwy difrifol, megis taflu tân gwyllt neu fod yn feddw ac yn afreolus. Gall yr heddlu, swyddogion cymorth cymunedol a phobl eraill sydd wedi'u harchredu roi'r cosbau hyn.
Gall unrhyw un dros 16 oed gael cosb fel hyn - a bydd swm y ddirwy'n dibynnu ar ddifrifoldeb yr ymddygiad. Dyma ambell enghraifft o'r math hwn o ymddygiad - ymddwyn mewn ffordd sy'n debygol o aflonyddu, dychryn neu beri pryder i rywun arall, bod yn feddw ac yn afreolus mewn man cyhoeddus, gwerthu alcohol i rywun dan 18 oed neu dorri cyrffyw tân gwyllt.
I gael gwybod mwy am yr Hysbysiadau Cosb, dilynwch y ddolen isod.
Gorchmynion llys y gwneir cais amdanynt gan awdurdodau lleol, heddluoedd (gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain) a chan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (sef landlordiaid sy'n darparu tai cymdeithasol) yw Gorchmynion Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Ni chaiff aelodau'r cyhoedd wneud cais amdanynt, ond mae pobl yn dod yn gysylltiedig trwy gasglu tystiolaeth a helpu i fonitro unrhyw amodau sy'n cael eu torri.
Nod Gorchymynion fel hyn yw gwarchod y cyhoedd rhag rhagor o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yn hytrach na chosbi'r unigolyn. Maen nhw'n gwahardd yr unigolyn rhag ailadrodd yr ymddygiad dan sylw neu rhag mynd i ardaloedd penodedig ac maen nhw'n para am ddwy flynedd o leiaf.
Nod y Gorchmynion hyn yw cael cymunedau i gymryd rhan drwy annog pobl i riportio troseddau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn eu cymdogaeth. Nid cosbau troseddol mohonynt, felly ni fydd y rhain yn ymddangos ar gofnodion yr heddlu. Fodd bynnag, mae torri amod Gorchymyn Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol yn drosedd ac fe all hynny arwain at gosb, dirwy neu hyd yn oed garchar.
Mae Teledu Cylch Cyfyng yn gyfrwng hynod o effeithiol o ran atal pobl rhag ymddwyn mewn ffordd wrth-gymdeithasol ac o ddarparu tystiolaeth am droseddau.
Gellir gwasgaru grwpiau os byddan nhw'n ymddwyn mewn ffordd wrth-gymdeithasol mewn lleoliadau penodol. Gall ardal a bennir yn ardal wasgaru amrywio o ran maint o beiriant twll yn y wal i ardal awdurdod lleol gyfan, cyn belled â bod tystiolaeth o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Rhaid i'r awdurdod lleol gytuno a rhaid cyhoeddi'r penderfyniad mewn papur newydd lleol neu drwy roi hysbysiad yn yr ardal leol.