Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall dynion a menywod, o unrhyw oed ac ymddangosiad, fod yn gyfrifol am wneud galwadau ffug. Byddant yn mynd ati i geisio'ch twyllo neu eich poeni i adael eich cartref neu adael iddynt ddod i mewn i'ch cartref drwy ddyfeisio storïau.
Gall y bobl sy'n gwneud galwadau ffug honni eu bod yn gweithio i'r bwrdd dŵr, y bwrdd trydan neu'r bwrdd nwy, eu bod yn weithwyr cyngor neu'n aelodau o'r heddlu, er mwyn gallu dwyn arian neu eiddo o'ch cartref. Gallwch gymryd rhai camau i atal y math hwn o droseddu.
Er mwyn lleihau'r risg i chi o ddioddef y trosedd hwn, cofiwch y tri cham canlynol:
Stopiwch cyn agor y drws
Bachwch - rhowch y gadwyn yn ei lle
Holwch - y sawl sy'n galw am ei gerdyn adnabod - ac edrychwch arno'n fanwl - cyn ei adael i mewn. Defnyddiwch y rhif ffôn yn y llyfr ffôn, nid y rhif sydd ar gerdyn adnabod
Mae'r Llywodraeth wedi llunio cyngor sydd ar gael gan eich cyngor lleol, yn eich gorsaf heddlu leol a chan eich grŵp Gwarchod y Gymdogaeth lleol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i leihau troseddu ar y wefan Lleihau Troseddu hefyd.
Gallwch ffonio Uned Atal Troseddau Gweithrediaeth yr Alban i gael gwybodaeth gyffredinol am atal troseddu a diogelwch cymunedol ar 0131 244 3995. Mae'r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9.00 am tan 5.00 pm.
Mae'n bosib hefyd y gall y swyddog atal troseddu yn eich swyddfa heddlu leol, neu reolwr diogelwch cymunedol eich cyngor lleol helpu. Cewch eu cyfeiriadau a'u rhifau yn y llyfr ffôn.