Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfiawnder cymunedol

Nod cyfiawnder cymunedol yw gwella safon bywyd yn lleol. Mae'n gadael i bobl gymryd rhan yn y gwaith o wella eu hardal, a hynny drwy helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol fel fandaliaeth, gwerthu cyffuriau a graffiti.

Cyfiawnder cymunedol yn eich cymuned

Mae cyfiawnder cymunedol hefyd yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yr effeithir arnynt gan ymddygiad drwg a throseddu yn cael dweud eu dweud o ran sut y gellir cael trefn ar bethau yn eu cymuned. Mae hyn yn golygu bod yn rhan o'r ‘broses gyfiawnder’ – fel helpu'r llysoedd a'r heddlu i ganolbwyntio ar y troseddau y mae preswylwyr lleol yn dweud sy'n achosi'r mwyaf o broblemau iddynt.

Gall pobl leol yn y gymuned feddwl am syniadau ynghylch lleihau troseddu – er enghraifft, drwy dynnu sylw at stryd leol sydd efallai'n arbennig o ddrwg o safbwynt gwerthu cyffuriau.

Pwy sy'n gweithio yn y 'tîm cyfiawnder cymunedol'?

Bydd gwaith y tîm cyfiawnder cymunedol yn cael ei gyflawni gan wahanol ‘asiantaethau’ a fydd yn cydweithio â phreswylwyr lleol, gan gynnwys y canlynol:

  • y llysoedd
  • yr heddlu
  • y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid (sy'n goruchwylio oedolion a phobl ifanc sy'n bwrw'u dedfryd ar ôl troseddu)
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron (sy'n gyfrifol am gyflwyno troseddau a mynd â hwy i'r llys)

a

  • phobl sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth am faterion yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol, tai, addysg ac yn y blaen

Er enghraifft, gallai barnwr neu ynad gwrdd ag aelodau o'r gymuned yn rheolaidd er mwyn cael gwybod am effaith troseddu ar eu cymdogaeth. Mae hyn yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o effaith troseddu'n lleol. Gall aelodau'r gymuned awgrymu tasgau y gellid eu cyflawni gan droseddwyr sydd wedi’u dedfrydu i wneud gwaith di-dâl.

Gall cyfiawnder cymunedol hefyd fod yn adnodd ar gyfer pethau nad ydynt yn ymwneud â mynd i'r llys, fel gwasanaethau cwnsela a chynghori.

Cymryd rhan

gallwch gymryd rhan mewn cyfiawnder cymunedol mewn nifer o ffyrdd

Gallwch gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, o fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, i fod yn aelod o grŵp cynghori neu fforwm cyfiawnder cymunedol. Gallech wneud y canlynol:

  • argymell prosiect gwaith di-dâl i droseddwyr ei wneud fel rhan o'u dedfryd yn y gymuned – fel glanhau graffiti, clirio darn o dir neu gamlas/afon
  • mynd yn ynad neu'n Gwnstabl Gwirfoddol, neu wirfoddoli i eistedd ar Banel Troseddwyr Ifanc
  • cynorthwyo gyda Chymorth i Ddioddefwyr neu'r Gwasanaeth Tystion

Os hoffech chi gynnig cymorth i dîm cyfiawnder cymunedol, cysylltwch â

community.justice@hmcourts-service.gsi.gov.uk

Ble mae’r prosiectau?

Bydd lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn amrywio o ardal i ardal. Mae'n fwyaf cyffredin mewn llefydd lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hallgáu neu'n ei chael yn anodd delio âphroblemau fel bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol, problem deuluol neu fod mewn dyled.

Oherwydd hynny, mae cynlluniau cyfiawnder cymunedol yn cael eu cynnal yn y llefydd canlynol ar hyn o bryd:

  • Halton, yng Nghaer
  • Middlesbrough
  • Manceinion, Rochdale a Salford
  • Kingston-upon-Hull a Gogledd Ddwyrain Sir Lincoln
  • Blackburn-with-Darwin a Blackpool
  • Llundain (Barking a Dagenham, Brent, Greenwich, Hackney, Haringey, Islington, Lambeth, Newham, Tower Hamlets a Waltham Forest)
  • Caerlŷr
  • Knowsley a Lerpwl
  • Nottingham
  • Stoke-on-Trent
  • Caerdydd
  • Doncaster
  • Birmingham, Sandwell, Walsall a Wolverhampton

Bydd ardaloedd eraill yn y DU yn cymryd rhan yn y cynllun maes o law.

Additional links

Yr Addewid Plismona

Addewidion gan eich tîm plismona lleol – cael gwybod mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU