Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwarchod y Gymdogaeth

Gallwch helpu’r Heddlu i gadw eich cymuned yn ddiogel drwy ymuno â Gwarchod y Gymdogaeth a chadw golwg wyliadwrus am droseddu ar eich stryd chi. Yma, cewch wybod sut i fod yn rhan o hyn.

Beth yw Gwarchod y Gymdogaeth?

Grwpiau bychain o drigolion yn gwirfoddoli mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad yw Gwarchod y Gymdogaeth.

Mae aelodau’n cadw llygad am arwyddion o droseddu yn eu cymdogaethau, ac yna’n rhannu’r wybodaeth gyda’i gilydd a gyda’r heddlu lleol.

Maent yn dilyn rheolau a chanllawiau sylfaenol sydd wedi cael eu gosod gan y mudiad cenedlaethol, ac maent yn gweithio'n agos â’u heddlu lleol.

Sut mae Gwarchod y Gymdogaeth yn gweithio?

Os ymunwch chi â Gwarchod y Gymdogaeth, fe ddowch chi i adnabod eich cymdogion. Fe fyddwch chi’n rhoi sylw i’r ceir sydd fel arfer yn parcio ar eich stryd chi, a pha un o’ch cymdogion chi sydd â gwaith yn cael ei wneud ar ei dŷ. Mae’n bosib y byddwch chi hyd yn oed yn gwybod pa un o’ch cymdogion sydd i ffwrdd am gyfnodau o amser.

Wrth ddefnyddio’r wybodaeth honno, rydych chi’n fwy tebygol o sylwi pan fo rhywbeth anghyffredin yn digwydd ar eich stryd, neu sylwi nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn.

Drwy gadw golwg wyliadwrus dros eich cymdogion, gallwch chi helpu’r Heddlu i atal troseddau rhag digwydd.

Gwarchod y Gymdogaeth – byddwch yn rhan ohono

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’ch tîm Gwarchod y Gymdogaeth lleol, ond nad ydych chi’n sicr lle i ddechrau, cysylltwch â’ch gorsaf heddlu leol neu eich tîm plismona cymdogaeth lleol. (Timau plismona cymdogaeth yw’r rhan o’ch heddlu lleol sy’n arbenigo mewn gweithio â thrigolion i atal troseddu).

Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â grŵp yn eich ardal chi.

Mae gan wefan Gwarchod y Gymdogaeth lawer o wybodaeth i’ch helpu os dymunwch ddechrau eich grŵp eich hun.

Oes arnoch eisiau gwneud mwy i atal troseddu?

Ar hyd a lled y wlad, mae trigolion yn helpu i wneud eu trefi'n well ac yn saffach.

Os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â'ch tîm plismona cymdogaeth lleol i gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi. Gallwch chi hefyd ffonio eich heddlu lleol i gael gwybod pryd ac ym mhle y cynhelir y cyfarfod tîm plismona cymdogaeth nesaf, a mynd i’r cyfarfod hwnnw.

Gallwch hefyd fod yn rhan o banel tîm plismona cymdogaeth. Maent yn gosod blaenoriaethau lleol ar gyfer yr Heddlu, ac mae ganddynt lais i benderfynu ar y mathau o waith sy’n cael ei wneud gan droseddwyr a gafwyd yn euog sydd wedi’u dedfrydu i wasanaeth cymunedol.

Os ydych chi’n mynychu cyfarfodydd tîm plismona cymdogaeth yn rheolaidd, fe wnânt esbonio sut y gallwch chi ymuno â phanel lleol.

Additional links

Yr Addewid Plismona

Addewidion gan eich tîm plismona lleol – cael gwybod mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU