Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall llys roi dedfryd gymunedol i chi yn lle eich dirwyo neu eich anfon i'r carchar. Gall dedfryd gymunedol gynnwys pethau fel gwneud gwaith 'Talu'n ôl i'r Gymuned' neu orfod cwblhau cwrs hyfforddi. Mynnwch wybod sut mae dedfrydau cymunedol yn gweithio.
Bwriedir i ddedfryd gymunedol roi budd i'r gymuned leol
Rhoddir dedfrydau cymunedol i bobl a gaiff eu collfarnu am drosedd ond nad ydynt yn mynd i'r carchar. Mae dedfryd gymunedol yn:
Efallai y cewch ddedfryd gymunedol os byddwch yn cyflawni trosedd fel:
Bydd llys yn ystyried sawl peth wrth benderfynu pa ddedfryd i'w rhoi. Y ffactor pwysicaf yw pa mor ddifrifol oedd y drosedd.
Caiff dedfryd gymunedol ei hystyried o dan yr amgylchiadau canlynol:
Gellid gorchymyn i chi wneud unrhyw rai o'r canlynol fel rhan o ddedfryd gymunedol, sef 'gofynion'.
Talu'n ôl i'r Gymuned - gwaith di-dâl
Gellid gorchymyn i chi wneud gwaith di-dâl fel cael gwared ar graffiti a chlirio llwybrau sydd wedi gordyfu. Gweler 'Talu'n Ôl i'r Gymuned' i gael mwy o wybodaeth.
Swydd a hyfforddiant addysgol
Gall cyrsiau hyfforddi wella sgiliau fel darllen ac ysgrifennu. Gall cyrsiau eraill helpu wrth wneud cais am swyddi a meithrin sgiliau newydd.
Gweler 'Rhaglenni trin a hyfforddi ar ddedfryd gymunedol' i gael mwy o wybodaeth.
Rhaglenni trin
Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau rhaglen drin - er enghraifft, i ddelio ag achosion o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu gyflwr iechyd meddwl.
Gweler 'Rhaglenni trin a hyfforddi ar ddedfryd gymunedol' am fwy o wybodaeth.
Cyfyngiadau - beth y gallwch ac na allwch ei wneud
Gall fod cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud. Er enghraifft, gorfod dilyn 'cyrffyw' (gorfod bod mewn man penodol ar adegau penodol) neu gael eich monitro'n electronig (cael eich 'tagio').
Gweler 'Beth y gallwch ac na allwch ei wneud ar ddedfryd gymunedol' am fwy o wybodaeth.
Efallai y cewch 'ofyniad goruchwylio' hefyd. Er enghraifft, efallai y gorchmynnir i chi gael cyfarfodydd rheolaidd â rheolwr troseddwyr.
Bydd eich rheolwr troseddwyr yn eich helpu i gwblhau eich dedfryd a'ch atal rhag troseddu eto.
Gweler 'Rheolwyr troseddau' - sut y gallant eich cefnogi' am fwy o wybodaeth.
Os byddwch yn torri telerau eich dedfryd gymunedol
Os byddwch yn torri telerau eich dedfryd gymunedol, er enghraifft, drwy beidio â chyfarfod â'ch rheolwr troseddwyr, gallech gael eich anfon yn ôl i'r llys. Gallech gael cosb arall a hyd yn oed gael eich anfon i'r carchar.
Mae dedfrydau cymunedol yn amrywio o ran hyd yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r drosedd. Bydd y barnwr (neu'r ynad) yn penderfynu yn ystod y gwrandawiad llys.
Er enghraifft, os cewch eich dedfrydu i wneud gwaith Talu'n Ôl i'r Gymuned, gallwch ddisgwyl cwblhau unrhyw beth o 40 awr i 300 awr o waith cymunedol di-dâl.
Os cewch eich dedfrydu i gyrffyw, gallai bara am hyd at chwe mis.
Gall cyfnod o oruchwyliaeth gyda rheolwr troseddau bara am hyd at dair blynedd.
Gweler 'Sut y pennir dedfrydau' am fwy o wybodaeth am y ffordd y mae'r llys yn gwneud penderfyniadau.