Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolwyr troseddwyr - sut y gallant eich cefnogi

Os ydych ar brawf, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfarfod yn rheolaidd â rheolwr troseddwyr. Bydd hyn yn rhan o'ch gorchymyn cymunedol, gorchymyn dedfryd ataliedig neu os byddwch ar drwydded o'r carchar. Mynnwch wybod am yr hyn i'w ddisgwyl gan eich rheolwr troseddwyr a'ch cyfrifoldebau tra byddwch ar brawf.

Sut y gall eich rheolwr troseddwyr eich helpu

Mae eich rheolwr troseddwyr yn eich helpu i gwblhau eich dedfryd a'ch atal rhag troseddu eto. Gall eich helpu i:

  • nodi problemau yn eich bywyd a'ch helpu i'w goresgyn
  • dilyn y rheolau a bennwyd fel rhan o'ch dedfryd
  • peidio â mynd i drafferth

Gallai hyn olygu eich helpu i:

  • gwblhau cwrs addysg neu gwrs hyfforddi
  • cael triniaeth am unrhyw ddibyniaeth sydd gennych - fel cyffuriau
  • cael help gydag unrhyw broblemau o ran eich ymddygiad

Cael cyfarfodydd â'ch rheolwr troseddwyr

Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn eich swyddfa brawf leol fel arfer

Os oes gennych ddedfryd gymunedol, neu os cewch eich rhyddhau o'r carchar o dan drwydded neu ar barôl, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfarfod yn rheolaidd â rheolwr troseddwyr. Gelwir hyn yn gyfarfodydd 'goruchwylio'.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i'r cyfarfodydd hyn.

Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn eich swyddfa brawf leol fel arfer.

Beth sy’n digwydd yn y cyfarfodydd

Yn y cyfarfod cyntaf, dylai eich rheolwr troseddwyr esbonio:

  • telerau (rheolau) eich cyfnod ar brawf
  • dyddiadau ac amseroedd y cyfarfodydd
  • unrhyw apwyntiadau y mae'n rhaid i chi fynd iddynt - fel cwrs hyfforddi neu driniaeth
  • y cyfle sydd gennych i newid eich bywyd er gwell
  • beth fydd yn digwydd os na wnewch yr hyn y mae gofyn i chi ei wneud

Eich cynllun dedfrydu

Bydd eich rheolwr troseddwyr yn gofyn i chi ddarllen 'cynllun dedfrydu' a chytuno arno. Bydd hyn yn nodi'r rheolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn tra byddwch ar brawf - a'ch cyfrifoldebau.

Caiff eich cynnydd ei adolygu yn ddiweddarach mewn cyfarfodydd â'ch rheolwr troseddwyr.

Eich cyfrifoldebau tra byddwch ar brawf

Rhoi gwybod i'ch rheolwr troseddwyr os byddwch am newid eich cyfeiriad neu'ch rhif ffôn

P'un ai'n gyfarfod â'ch rheolwr troseddwyr neu'n apwyntiad, mae'n bwysig eich bod yn:

  • gwrando'n ofalus ar yr hyn mae eich rheolwr troseddwyr yn ei ddweud a gwneud yr hyn mae'n gofyn amdano
  • cyrraedd mewn pryd ar gyfer cyfarfodydd neu apwyntiadau
  • peidio â chyrraedd cyfarfodydd neu apwyntiadau yn feddw neu ar ôl cymryd cyffuriau
  • dangos parch at y rheolwr troseddwyr a'r bobl eraill rydych yn cwrdd â nhw yn ystod eich dedfryd
  • gadael i'ch rheolwr troseddwyr ddod i'ch gweld gartref os bydd angen

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr troseddwyr ar unwaith os ydych yn bwriadu newid eich cyfeiriad neu'ch rhif ffôn.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr troseddwyr hefyd os ydych yn cael unrhyw broblemau yn dilyn rheolau eich gorchymyn neu'ch trwydded.

Os byddwch yn methu cyfarfod neu apwyntiad

Os byddwch yn methu cyfarfod neu apwyntiad, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch rheolwr troseddwyr a rhoi gwybod iddo pam y gwnaethoch ei fethu. Bydd angen prawf arnoch hefyd - fel nodyn gan y meddyg neu lythyr gan eich cyflogwr.

Os byddwch yn torri'r rheolau yn ystod eich cyfnod ar brawf

Gallech fynd yn ôl i'r llys (neu'r carchar) os byddwch yn torri'r rheolau. Er enghraifft, os byddwch yn:

  • gwneud rhywbeth mae eich dedfryd yn eich gwahardd rhag ei wneud
  • cyflawni trosedd arall
  • methu cyfarfodydd ac apwyntiadau
  • ymddwyn mewn ffordd ymosodol, hiliol neu unrhyw ffordd annerbyniol arall mewn cyfarfod neu apwyntiad

Beth fydd yn rhaid i'ch rheolwr troseddwyr ei wneud

Os cewch gyfarfodydd yn rheolaidd â'ch rheolwr troseddwyr, mae gennych yr hawl i:

  • gael eich gweld ar amser
  • cael pethau wedi'u hesbonio i chi mewn ffordd rydych yn ei deall
  • lleisio barn ar rai agweddau ar eich cynllun dedfrydu
  • cael eich trin â pharch
  • cael mynd i ddigwyddiadau crefyddol neu ddigwyddiadau pwysig eraill pan fyddwch yn rhoi gwybod i'ch rheolwr troseddau ymlaen llaw

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU