Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf

Os ydych ar brawf, rhaid i chi ddilyn rheolau llym - fel cyfarfod yn rheolaidd â rheolwr troseddwyr. Os byddwch yn torri unrhyw reolau, efallai y bydd angen i chi ddychwelyd i'r llys neu gael eich anfon yn ôl i'r carchar. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf.

Mathau o reolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn tra byddwch ar brawf

Os oes gennych ddedfryd gymunedol, neu eich bod yn cael eich rhyddhau o'r carchar o dan drwydded neu ar barôl, mae'n rhaid i chi ddilyn rhai rheolau.

Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:

  • dilyn cwrs i'ch helpu i roi'r gorau i gyflawni troseddau
  • cael triniaeth am ddibyniaeth ar rywbeth - fel cyffuriau
  • aros yn eich cartref rhwng oriau penodol

Os ydych wedi cael dedfryd gymunedol

Os byddwch yn cyflawni trosedd arall gallech gael eich anfon i'r carchar

Os byddwch yn torri rheolau eich dedfryd gymunedol

- drwy beidio â mynd i gyfarfodydd neu drwy gyflawni trosedd arall, er enghraifft - efallai bydd un o'r canlynol yn digwydd:

  • byddwch yn cael rhybudd
  • byddwch yn cael eich anfon yn ôl i'r llys

Os byddwch yn gwneud rhywbeth difrifol, fel cyflawni trosedd arall, efallai y byddwch yn mynd i'r llys ar unwaith. Efallai na fyddwch yn cael dirwy na rhybudd - mae'r canlynol yn bosibl:

  • gallech gael dedfryd fwy llym
  • gallech gael mwy o reolau i'w dilyn tra byddwch ar brawf
  • gallech gael eich anfon i'r carchar

Os ydych ar drwydded neu ar barôl o'r carchar

Os ydych ar drwydded neu ar barôl o'r carchar pan fyddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf, gallwch gael eich 'ail-alw'. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich anfon yn ôl i'r carchar.

Sut rydych yn cael gwybod eich bod yn cael eich ail-alw

Bydd y rheolwr troseddwyr yn gwneud un o'r canlynol:

  • ysgrifennu atoch i ddweud eich bod yn cael eich ail-alw (ar ôl cael rhybudd terfynol)
  • trefnu i chi gael eich arestio gan yr heddlu am eich bod wedi gwneud rhywbeth (fel cyflawni trosedd ddifrifol), neu eich bod yn peri risg i'r cyhoedd

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn dychwelyd i'r carchar

Pan fyddwch yn dychwelyd i'r carchar, byddwch yn cael copi o adroddiad sy'n egluro pam eich bod wedi cael eich anfon yn ôl. Gallwch hefyd weld copi o adroddiad wedi'i ysgrifennu amdanoch gan eich rheolwr troseddwyr.

Gofyn am gael eich rhyddhau eto - 'cyflwyno sylwadau'

Mae gennych yr hawl i ofyn i'r Bwrdd Parôl eich rhyddhau eto, sef cyflwyno sylwadau.

Rydych yn llofnodi ffurflen sy'n dweud p'un a ydych am wneud hyn ai peidio.

Gellir cyflwyno sylwadau yn y ffyrdd canlynol:

  • ei wneud eich hun
  • gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu ei wneud
  • gofyn i gynghorydd cyfreithiol ei wneud

Rydych yn dweud wrth y Bwrdd Parôl pam eich bod yn credu ei bod yn ddiogel i chi gael eich rhyddhau yn ôl i'r gymuned. Rhaid gwneud hyn o fewn pythefnos i gael gwybod y rhesymau dros eich ail-alw i'r carchar.

Bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar eich achos ac yn penderfynu a allwch gael eich rhyddhau ai peidio.

Gall staff carchardai egluro'r broses yn fanylach.

Mathau o drefniant ail-alw

Mae tri math o drefniant ail-alw.

Ailalw tymor penodol

Mewn achos o ail-alw tymor penodol, byddwch yn cael eich rhyddhau 28 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r carchar. Ar ôl i chi gael eich rhyddhau, rydych yn mynd ar drwydded eto tan ddiwedd eich dedfryd.

Gallwch gyflwyno sylwadau os byddwch am wneud hynny. Efallai y bydd y Bwrdd Parôl yn cytuno i'ch rhyddhau ar drwydded ar unwaith.

Ailalw safonol

Mewn achos o ail-alw safonol, efallai y byddwch yn aros yn y carchar tan ddiwedd eich dedfryd. Dim ond os bydd y Bwrdd Parôl yn credu'r canlynol y gallwch gael eich rhyddhau ynghynt:

  • ni fyddwch yn cyflawni mwy o droseddau
  • nid ydych yn peri risg i'r cyhoedd

Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno unrhyw sylwadau, caiff eich achos ei anfon i'r Bwrdd Parôl ar ôl 28 diwrnod. Gall y Bwrdd Parôl wneud un o'r canlynol:

  • eich rhyddhau ar unwaith
  • nodi dyddiad (o fewn blwyddyn) i'ch rhyddhau ar drwydded

Dedfrydau estynedig

Os ydych ar ddedfryd estynedig caiff eich achos ei anfon i'r Bwrdd Parôl o fewn 14 diwrnod i chi gael eich ail-alw. Byddwch yn cael gwybod pryd bydd y gwrandawiad. Bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu a allwch gael eich rhyddhau ac, os felly, pryd.

Bydd y Bwrdd Parôl yn ystyried eich achos ac yn gallu gwneud un o'r canlynol:

  • eich rhyddhau ar unwaith
  • nodi dyddiad (o fewn blwyddyn) i'ch rhyddhau ar drwydded

Gallwch gyflwyno sylwadau os byddwch am wneud hynny.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU