Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnod ar brawf - beth ydyw

Yn hytrach na'ch anfon i'r carchar (neu wneud i chi aros yn y carchar), efallai y bydd y llys yn eich rhoi 'ar brawf'. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud pethau fel gwaith di-dâl a chadw mewn cysylltiad â rheolwr troseddwyr yn rheolaidd hefyd. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd pan fyddwch ar brawf.

Sut mae cyfnod ar brawf yn gweithio

Mae rheolwyr troseddwyr yn goruchwylio pobl sydd ar brawf

Tra byddwch ar brawf, bydd yn rhaid i chi ddilyn cyfres o reolau fel rhan o'ch dedfryd llys. Er enghraifft, efallai y bydd llys yn gorchymyn i chi gael cyfarfodydd rheolaidd â 'rheolwr troseddwyr'.

Mae rheolwyr troseddwyr yn goruchwylio (rheoli) pobl sydd ar brawf. Maent yn gwneud hyn drwy helpu'r bobl maent yn eu goruchwylio i wneud y canlynol:

  • nodi problemau yn eu bywydau a'u goresgyn
  • dilyn y rheolau a bennwyd fel rhan o'u dedfryd
  • peidio â mynd i drafferth

Gallai hyn olygu eu helpu i wneud y canlynol:

  • cwblhau cwrs addysg neu gwrs hyfforddi
  • cael triniaeth am unrhyw ddibyniaeth sydd ganddynt - fel cyffuriau neu alcohol
  • cael help gydag unrhyw broblemau o ran ymddygiad

Gall rheolau eraill gynnwys pethau fel gorfod cwblhau cwrs i wella sgiliau.

Gweler 'Rheolwyr troseddau - sut y gallant eich cefnogi' i gael mwy o wybodaeth am sut maent yn gweithio gyda chi.

Y Gwasanaeth Prawf

Mae'r Gwasanaeth Prawf yn gyfrifol am oruchwylio pobl ar brawf ac mae'n cynnwys o 35 ymddiriedolaethau prawf lleol yng Nghymru a Lloegr.

Rhesymau dros eich rhoi ar brawf

Gallwch gael eich rhoi ar brawf am un o dri rheswm:

Fel rhan o ddedfryd gymunedol

Efallai y byddwch yn cael dedfryd llys i'w bwrw yn y gymuned, yn hytrach na mynd i'r carchar. Gweler 'Dedfrydau cymunedol - trosolwg' am fwy o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu.

Os byddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar 'ar drwydded'

Os bydd eich dedfryd o garchar yn fwy na blwyddyn, dim ond 'ar drwydded' y byddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar.

Os byddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar ar barôl

Os byddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar ar barôl (cael eich rhyddhau'n gynnar) byddwch ar brawf.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf

Efallai y byddwch yn cael eich anfon yn ôl i'r llys os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf

Os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf - er enghraifft, drwy beidio â mynd i gyfarfodydd neu drwy gyflawni trosedd arall - bydd un o'r canlynol yn digwydd:

  • byddwch yn cael rhybudd
  • byddwch yn cael eich anfon yn ôl i'r llys

Bydd eich rheolwr troseddwyr yn gadael i'r llys wybod os na fyddwch yn cadw at reolau eich cyfnod ar brawf.

I gael mwy o wybodaeth am beth all ddigwydd os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf, dilynwch y ddolen isod.

Beth mae'r Gwasanaeth Prawf yn ei wneud gyda'r wybodaeth sydd ganddo

Gall y Gwasanaeth Prawf rannu'r wybodaeth bersonol sydd ganddo amdanoch gyda rhai sefydliadau eraill a rhai dioddefwyr troseddau. Gall hyn gynnwys:

  • y Bwrdd Parôl (os gwnaethoch adael y carchar ar brawf)
  • ymddiriedolaethau prawf eraill - er enghraifft, os byddwch yn symud i ardal newydd
  • dioddefwr trosedd ddifrifol, os bydd y dioddefwr yn gofyn i'r Gwasanaeth Prawf roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr achos

Gall gwybodaeth gael ei rhoi i sefydliadau eraill hefyd - fel iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Os byddwch yn cael eich collfarnu o drosedd dreisgar neu rywiol

Os byddwch yn cael eich collfarnu o drosedd dreisgar neu rywiol ac yn cael eich rhyddhau, efallai y cewch eich rhoi o dan Drefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA).

Mae'r rhain yn dod â'r heddlu, y gwasanaeth prawf a'r gwasanaeth charchardai at ei gilydd i oruchwylio (rheoli) pobl pan fyddant yn y gymuned.

Os byddwch yn cael eich rhyddhau o dan MAPPA, gall gwybodaeth amdanoch gael ei rhannu gyda sefydliadau gwahanol fel y canlynol:

  • gwasanaethau plant
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion
  • gwasanaethau addysg lleol
  • ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd
  • y Ganolfan Byd Gwaith

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU