Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel rhan o ddedfryd gymunedol, efallai y bydd y llys yn gorchymyn i chi 'Dalu'n Ôl i'r Gymuned'. Gall hyn gynnwys pethau fel glanhau graffiti, codi sbwriel neu glirio tir gwastraff. Mynnwch wybod pa fath o waith y gallech orfod ei wneud.
Gelwir gwneud gwaith di-dâl fel rhan o ddedfryd gymunedol yn 'Talu'n Ôl i'r Gymuned'. Mae'n ffordd o dalu'n ôl i'r gymuned am y difrod a achoswyd gan drosedd.
Bydd eich rheolwr troseddau yn trafod y math o waith a fydd orau i chi - yn ogystal â ble a phryd y caiff y gwaith ei wneud.
Gall Talu'n Ôl i'r Gymuned gynnwys gwaith fel:
Efallai y byddwch yn gweithio mewn tîm a reolir gan oruchwyliwr Talu'n Ôl i'r Gymuned.
Nod y gwaith yw eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a chyd-dynnu'n well â phobl o'ch cwmpas.
Caiff gwaith Talu'n Ôl i'r Gymuned ei wneud yn eich ardal leol
Mae'n debygol y caiff y gwaith ei wneud yn eich ardal leol. Mae'n rhaid i chi wisgo fest oren amlwg fel y gall pobl weld eich bod yn cael eich cosbi am eich trosedd.
Gall aelodau'r cyhoedd awgrymu prosiectau Talu'n Ôl i'r Gymuned a fyddai o fudd i'w hardal.
Gall y llys ddedfrydu rhwng 40 a 300 o oriau i chi. Yr isafswm y mae'n ofynnol i chi ei weithio yw chwe awr yr wythnos. Os ydych yn ddi-waith, efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio tri neu bedwar diwrnod yr wythnos.
Os ydych mewn gwaith â thâl, caiff y gwaith Talu'n Ôl i'r Gymuned ei drefnu y tu allan i'ch oriau gwaith, fel gyda'r nos neu ar y penwythnos.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod ar gael i gwblhau eich dedfryd Talu'n Ôl i'r Gymuned.
Os byddwch yn methu sesiwn waith, gallech gael eich anfon yn ôl i'r llys
Os byddwch yn methu sesiwn waith, mae'n rhaid i chi roi gwybod pam i'ch rheolwr troseddau. Os oes rheswm da dros beidio â throi i fyny i'r gwaith, mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth - fel llythyr gan eich meddyg neu'ch cyflogwr.
Os byddwch yn methu sesiwn waith heb reswm da, bydd eich rheolwr troseddau yn rhoi rhybudd i chi. Gall hefyd drefnu i chi gael eich anfon yn ôl i'r llys. Os bydd hyn yn digwydd, gallai eich cosb gael ei chynyddu.
Cewch fwy o wybodaeth am y cyfnod ar brawf o'r dolenni isod.