Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel rhan o ddedfryd gymunedol, efallai y rhoddir sawl cyfyngiad ar yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud. Efallai y dywedir wrthych ble mae'n rhaid i chi fod ar adegau penodol ac y cewch eich monitro'n electronig (tagio). Mynnwch wybod mwy am ba gyfyngiadau y gallech eu hwynebu yn ystod dedfryd gymunedol.
Bydd y canlynol yn penderfynu ar yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn ystod dedfryd gymunedol:
Efallai y bydd yn rhaid i chi gael apwyntiadau rheolaidd â rheolwr troseddau i adolygu eich cynnydd. Mae'n rhaid i chi ddweud wrtho:
Os na fyddwch yn glynu at reolau eich dedfryd tra byddwch ar brawf, gallwch gael eich anfon yn ôl i'r llys. Gallai eich cosb gynyddu a gallech gael dedfryd o garchar.
Mae cyrffyw yn para rhwng dwy a 12 awr y dydd
Mae bod ar gyrffyw yn golygu bod yn rhaid i chi fod mewn man penodol ar adegau penodol o'r dydd neu'r nos. Eich cartref eich hun fydd hyn fel arfer.
Mae cyrffyw yn para rhwng dwy a 12 awr y dydd.
Os byddwch ar gyrffyw, mae'n debygol y cewch eich 'tagio' hefyd.
Os cewch eich tagio, gosodir strap (sef tag) o amgylch eich ffêr. Mae'r tag wedi'i gysylltu'n electronig â blwch a osodir yn y cyfeiriad y mae'n rhaid i chi aros ynddo. Mae'r ddyfais yn rhoi gwybod i'r bobl yn y cwmni tagio sy'n eich monitro eich bod yno.
Bydd aelod o staff o'r cwmni tagio yn egluro sut mae'r tag yn gweithio pan gaiff ei osod.
Mae faint o amser y bydd y tag wedi'i osod yn amrywio, ond gall bara am hyd at chwe mis.
Mae 'gofyniad gwahardd' yn eich atal rhag mynd i fan neu ardal benodol - ac mae'n debygol o fod yn gysylltiedig â'ch trosedd.
Er enghraifft, os cewch eich dyfarnu'n euog o ymddygiad bygythiol, gellid gorchymyn i chi aros draw o gartref a gweithle'r dioddefwr.
Bydd eich rheolwr troseddau yn egluro rheolau'r gofyniad gwahardd. Efallai y cewch fap yn nodi ble rydych wedi cael eich gwahardd ohono.
Bydd cyfnod gorchymyn gwahardd yn amrywio, ond gall bara am hyd at ddwy flynedd.
Os cewch 'ofyniad gweithgaredd gwaharddedig', mae'n golygu y bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i wneud rhywbeth a arweiniodd at eich trosedd.
Er enghraifft, os yw'r ffaith eich bod yn yfed wedi achosi problemau, yna gellid eich atal rhag mynd i unrhyw dafarndai neu glybiau nos.
Bydd rheolwr troseddau yn egluro rheolau'r gofyniad i chi.
Os cewch 'ofyniad preswylfa', mae'n golygu bod yn rhaid i chi fyw ble mae'r gwasanaeth prawf yn dweud wrthych.
Gallai hyn fod:
Ni chaniateir i chi fyw yn unrhyw le arall oni fydd eich rheolwr troseddau yn cytuno iddo.