Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhaglenni trin a hyfforddi ar ddedfryd gymunedol

Fel rhan o ddedfryd gymunedol, gallech gael cynnig triniaeth ar gyfer problemau â chyffuriau, problemau alcohol neu broblemau iechyd meddwl. Efallai y cewch gwrs hyfforddi i'w gwblhau hefyd er mwyn gwella sgiliau fel darllen ac ysgrifennu. Mynnwch wybod beth sydd ar gael i'ch helpu i beidio â throseddu.

Mathau o gymorth tra byddwch yn bwrw dedfryd gymunedol

Nod y cymorth a gewch tra byddwch yn bwrw eich dedfryd gymunedol yw helpu gyda'r problemau a wnaeth beri i chi gyflawni trosedd yn y lle cyntaf a hefyd eich atal rhag troseddu yn y dyfodol.

Gallai cymorth a thriniaeth olygu help gyda:

  • unrhyw ddibyniaethau sydd gennych - fel cyffuriau
  • cyflwr iechyd meddwl
  • problem gyda'ch ymddygiad - er enghraifft, os ydych yn dreisgar yn aml
  • deall sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar bobl eraill
  • ennill sgiliau a chymwysterau newydd - er enghraifft, help i ddod o hyd i swydd

Weithiau gelwir cael cymorth fel hyn yn 'ailsefydlu'.

Cwblhau triniaeth neu hyfforddiant

Mae'n rhaid i chi gwblhau unrhyw raglenni a drefnir ar eich cyfer neu gallech fynd yn ôl i'r llys

Os cewch eich anfon ar raglen drin a hyfforddi fel rhan o ddedfryd gymunedol, mae'n rhaid i chi ei chwblhau. Os na wnewch hynny, gallech gael eich anfon yn ôl i'r llys. Os bydd hyn yn digwydd, gallai eich cosb gael ei chynyddu.

Mae'n rhaid i chi fynd ar unrhyw gyrsiau y mae'r llys yn penderfynu arnynt hefyd.

Triniaeth cyffuriau ac alcohol

Gall llys orchymyn i chi gael triniaeth cyffuriau neu alcohol, gyda'ch cytundeb chi. Gwneir hyn er mwyn eich helpu i drechu unrhyw ddibyniaethau (rhywbeth rydych yn dibynnu arno).

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gwblhau triniaeth am nifer benodol o wythnosau (neu fisoedd) cyn y gall eich dedfryd ddod i ben.

Yn dibynnu ar y driniaeth, gallai olygu:

  • sesiynau cwnsela - lle cewch gymorth gan weithiwr meddygol proffesiynol
  • profion cyffuriau - i gadarnhau nad ydych yn cymryd cyffuriau
  • triniaeth i'ch helpu i roi'r gorau i gymryd cyffuriau neu alcohol

Triniaeth iechyd meddwl

Gall llys orchymyn i chi gael triniaeth iechyd meddwl, gyda'ch cytundeb chi, os mai dyma'r rheswm i chi gyflawni'r trosedd.

Bydd meddyg neu seicolegydd yn ymdrin â'r driniaeth. Yn dibynnu ar y driniaeth, efallai y bydd angen i chi gael cyfres o apwyntiadau, neu fynd i'r ysbyty.

Addysg a hyfforddiant swyddi

Gall llys orchymyn i chi wella eich addysg a'ch sgiliau dysgu - er enghraifft, i wella eich siawns o ddod o hyd i swydd.

Gall hyn gynnwys:

  • dysgu darllen ac ysgrifennu'n well
  • datrys problemau
  • ysgrifennu cais da am swydd
  • dysgu sgiliau cyfweld

Gall arbenigwr addysg neu hyfforddiant:

  • siarad â chi am eich swyddi yn y gorffennol
  • pa sgiliau sydd gennych
  • eich helpu i fynd ar gwrs addysgol neu hyfforddi

Caiff dosbarthiadau eu cynnal mewn grwpiau neu fel sesiynau 'un-i-un'. Mae dosbarthiadau yn para sawl wythnos fel arfer yn dibynnu ar eich anghenion a sut y caiff dosbarthiadau eu rhedeg yn yr ardal.

Pan fyddwch yn cwblhau cwrs, cewch dystysgrif a allai wella eich siawns o ddod o hyd i swydd.

Rhaglenni sy'n ymwneud ag ymddygiad

Gall llys orchymyn i chi gyflawni 'rhaglen achrededig'. Nod y rhaglenni hyn yw:

  • eich annog i feddwl am y pethau a wnaeth beri i chi fynd i drafferth yn y lle cyntaf
  • delio â sefyllfaoedd anodd
  • newid eich ymddygiad er gwell

Cynhelir y rhan fwyaf o'r rhaglenni hyn mewn grŵp.

Ymhlith y rhaglenni mae:

  • cyrsiau rheoli dicter - os ydych yn ei chael yn anodd rheoli eich dicter weithiau
  • sgiliau meddwl - cwrs sy'n eich dysgu i stopio a meddwl cyn gwneud rhywbeth
  • rhaglen ar gyfer gyrwyr fu'n yfed - cwrs sy'n eich helpu i weld canlyniadau eich camau (a sut i ddelio ag alcohol)

Mae'r rhan fwyaf o'r cyrsiau yn para 20 sesiwn.

Additional links

Talu'n Ôl i'r Gymuned

Awgrymu gwaith di-dâl ar gyfer troseddwyr i wneud yn eich cymuned

Allweddumynediad llywodraeth y DU