Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog (eich collfarnu) o gyflawni trosedd, mae gan y llys ynadon neu Lys y Goron amrywiaeth o opsiynau dedfrydu y gallant ddewis o'u plith. Mae'r ddedfryd y byddwch yn ei chael yn dibynnu ar y math o drosedd, pa mor ddifrifol ydyw a'r amgylchiadau. Mynnwch wybod mwy am y ffordd y caiff dedfryd ei phennu.
Dedfryd yw'r gosb sydd ei hangen ym marn y llys yn seiliedig ar y drosedd rydych wedi'ch dyfarnu'n euog ohoni. Bydd barnwr (yn Llys y Goron) neu ynad (mewn llys ynadon) yn penderfynu ar y ddedfryd.
Ymhlith rhai o'r pethau y mae barnwr neu ynad yn eu hystyried wrth benderfynu ar eich dedfryd mae'r ffaith ei bod:
Gall y pethau canlynol effeithio ar y math o ddedfryd y byddwch yn ei chael a'i hyd.
P'un a oes cofnod troseddol gennych
Os oes gennych gofnod troseddol, gallech gael dedfryd hwy. Gall cofnod troseddol awgrymu bod gennych duedd i droseddu. Oherwydd hyn, efallai y bydd angen dedfryd hwy arnoch i'ch darbwyllo i beidio â chyflawni hyd yn oed fwy o droseddau yn y dyfodol.
Os ydych yn dweud eich bod wedi cyflawni'r drosedd
Os ydych yn dweud eich bod wedi cyflawni'r drosedd, efallai y caiff ei dedfryd ei lleihau.
Dedfrydau mwyaf posibl
Ar gyfer pob trosedd ceir y ddedfryd fwyaf posibl - dyma'r gosb fwyaf y gall barnwr ei rhoi i chi.
Os ewch i'r llys, mae'n debygol y byddwch yn clywed y termau ffactorau 'gwaethygol' a ffactorau 'lliniarol'. Mae'r ffactorau hyn hefyd yn effeithio ar y math o ddedfryd y byddwch yn ei chael a'i hyd.
Bydd barnwr (neu ynad) yn ystyried ffactorau gwaethygol a lliniarol eich achos cyn penderfynu ar ddedfryd.
Rhywbeth sy'n gwneud trosedd yn fwy difrifol yw ffactor gwaethygol.
Rhywbeth sy'n gwneud trosedd yn llai difrifol yw ffactor lliniarol.
Ffactor 'gwaethygol' - enghraifft
Mae byrgler yn torri i mewn i dŷ ac mae perchenogion yr eiddo yn y gwely. Mae'r llys yn debygol o ystyried y ffaith bod pobl yn y tŷ ar y pryd yn ffactor gwaethygol.
Mae'n gwneud y drosedd yn fwy difrifol na phe na bai'r perchenogion wedi bod yno ar y pryd.
'Ffactor lliniarol' - enghraifft
Mae byrgler yn torri i mewn i dŷ. Mae'r llys yn debygol o ystyried y ffaith nad oedd y bwrgleriaeth wedi'i chynllunio - ac na wnaed unrhyw ddifrod i'r eiddo - yn ffactorau lliniarol.
Efallai y caiff eich dedfryd ei lleihau hefyd os bydd y llys yn ystyried ffactorau lliniarol 'personol', er enghraifft:
Gallwch ddarllen mwy o enghreifftiau yn ymwneud â'r dedfrydau posibl y gellir eu rhoi o dan amgylchiadau gwahanol drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd barnwr (neu ynad) yn defnyddio canllawiau wrth benderfynu ar y ddedfryd gywir. Mae'r canllawiau'n helpu barnwyr ac ynadon i roi dedfrydau tebyg am fathau tebyg o droseddau, lle bynnag y cyflawnwyd y drosedd.
Cyhoeddir y canllawiau gan:
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Cyngor Dedfrydu drwy ddilyn y ddolen isod.
Adnodd ar-lein yw 'Chi yw'r Barnwr' sy'n eich galluogi i glywed ffeithiau am achos llys go iawn a phenderfynu pa ddedfryd y byddech yn ei rhoi. Byddwch yn clywed pa ddedfryd a gafodd ei rhoi mewn gwirionedd - a pham.