Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dirwyon llys

Rhoddir dirwyon gan y llysoedd am amrywiaeth o droseddau 'lefel isel'. Bydd maint y ddirwy'n dibynnu ar y drosedd a faint y gall y troseddwr ei dalu. Mynnwch wybod pa ddirwyon y gall llys eu rhoi a beth sy'n digwydd os na chaiff dirwy ei thalu.

Pam y rhoddir dirwyon gan y llys

Gan mai ar gyfer troseddau lefel isel y mae'r mwyafrif o achosion a gaiff eu gwrando gan y llysoedd - megis goryrru - dirwyon yw'r ddedfryd fwyaf cyffredin a roddir am droseddau.

Rhoddir dirwyon i gosbi troseddwyr yn ariannol drwy gyfyngu ar faint o arian sydd ganddynt i'w wario.

Pa droseddau a all arwain at ddirwy gan y llys

Fel arfer rhoddir dirwyon am droseddau llai difrifol nad ydynt yn haeddu dedfryd gymunedol na dedfryd o garchar. Weithiau rhoddir dirwy ynghyd â dedfryd gymunedol neu ddedfryd o garchar.

Pryd y rhoddir dirwyon gan y llys

Fel arfer rhoddir dirwyon am droseddau llai difrifol nad ydynt yn haeddu dedfryd gymunedol na dedfryd o garchar

Gellir rhoi dirwyon am lawer o droseddau, gan gynnwys:

  • goryrru
  • mân ladrad
  • bod heb drwydded deledu
  • ymddygiad meddw ac afreolus

Maint dirwyon llys

Bydd llys yn penderfynu faint y dylai troseddwr ei dalu yn seiliedig ar:

  • y drosedd
  • gallu'r troseddwr i dalu, er enghraifft os yw'r troseddwr yn cael budd-daliadau

Cyn cael dirwy, rhaid i droseddwr lenwi 'ffurflen modd' er mwyn i'r llys wybod beth yw sefyllfa ariannol y troseddwr a faint o ddirwy y gall ei fforddio. Bydd y ffurflen modd yn gofyn am fanylion:

  • incwm
  • gwariant
  • cynilion

Os yw'r drosedd yn peri niwed i'r dioddefwr, bydd yn rhaid i'r troseddwr dalu iawndal. Bydd yn rhaid iddo hefyd gyfrannu at gost y gwrandawiad llys.

Gellir hefyd ychwanegu taliad o £15 a elwir yn 'ordal dioddefwyr'.

Sut i dalu dirwy llys

Bydd troseddwr sy'n cael dirwy'n cael hysbysiad sy'n nodi:

  • faint sy'n rhaid ei dalu
  • sut i'w dalu
  • y terfyn amser ar gyfer ei dalu

Gellir talu dirwyon ar-lein neu dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Os na ellir talu dirwy llys

Os na all rhywun dalu dirwy llys, dylai gysylltu â'r llys i ddweud pam na all ei thalu gan gynnwys tystiolaeth o'i amgylchiadau ariannol.

Os bydd rhywun yn dweud na all dalu dirwy ar unwaith, gall ofyn i'r llys a allai dalu mewn rhandaliadau. Gall y llys gytuno neu anghytuno â hyn.

Os na chaiff dirwy llys ei thalu

Os bydd troseddwr yn cael anawsterau i dalu dirwy, dylai gysylltu â'r llys. Mae'n bwysig bod troseddwr yn rhoi gwybod i'r llys am unrhyw newidiadau i'w amgylchiadau ariannol. Dylai siarad â chyfreithiwr hefyd.

Os na fydd rhywun yn talu dirwy, gall y llys geisio cael y taliad mewn ffyrdd eraill. Ymhlith y rhain mae:

  • gwrandawiadau llys eraill
  • clampio neu werthu car y troseddwr o bosibl
  • cymryd arian o gyflog neu fudd-daliadau troseddwr
  • beilïaid yn dod i dŷ'r troseddwr i gymryd eiddo

Mewn achosion eithriadol lle mae unigolyn yn parhau i beidio â thalu, gallai gael dedfryd o garchar.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU