Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae mathau gwahanol o ddedfrydau o garchar yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r drosedd a gyflawnwyd. Bydd rhai am gyfnod penodol o amser a bydd eraill yn cynnwys y cyfnod lleiaf cyn y gellir rhyddhau unigolyn. Mynnwch wybod am y mathau gwahanol o ddedfrydau.
Gallech gael dedfryd o garchar:
Os ydych eisoes wedi treulio amser ar remánd yn y carchar (yn y carchar tra'n aros am y treial), caiff yr amser a dreuliwyd ar remánd yn y carchar ei dynnu oddi ar eich dedfryd o garchar.
Os cewch eich collfarnu am gyflawni mwy nag un drosedd, fel arfer byddwch yn cael dedfryd am bob un. Er enghraifft, os byddwch yn cyflawni trosedd yrru a bod yr heddlu hefyd yn dod o hyd i gyffuriau anghyfreithlon yn eich meddiant, byddwch yn cael dedfryd am y ddwy drosedd.
Dedfrydau cydamserol ac olynol
Gellir bwrw (cyflawni) dedfrydau am fwy nag un drosedd yn gydamserol neu'n olynol.
Caiff dedfrydau cydamserol eu bwrw ar yr un pryd. Caiff dedfrydau olynol eu bwrw un ar ôl y llall - er enghraifft, dedfryd o chwe mis wedi'i dilyn gan ddedfryd o dri mis.
Bydd y barnwr (neu'r ynad) yn dweud wrthych pa fath o ddyfarniad y byddwch yn ei chael a faint ohoni y bydd yn rhaid i chi ei bwrw.
Os byddwch yn cael dedfryd ataliedig, gallwch gael eich anfon i'r carchar o hyd
Os byddwch yn cael dedfryd 'ataliedig' o garchar
ni fyddwch yn mynd i'r carchar ar unwaith, ond byddwch yn bwrw eich dedfryd yn y gymuned. Mae'n rhaid i chi gyflawni amodau penodol, a allai gynnwys:
Os byddwch yn torri unrhyw amodau, neu'n cyflawni trosedd arall, byddwch yn mynd i'r carchar i fwrw eich dedfryd oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Mae dedfryd ‘penodol’ yn ddedfryd o garchar am gyfnod penodol o amser.
Os yw eich dedfryd am 12 mis neu fwy
Os yw eich dedfryd am 12 mis neu fwy, treulir hanner cyntaf y ddedfryd yn y carchar. Treulir ail hanner eich dedfryd yn y gymuned 'ar drwydded'.
Mae bod ar drwydded yn golygu bod yn rhaid i chi gyflawni amodau penodol. Gallai hyn gynnwys gorfod aros i ffwrdd oddi wrth ddioddefwr eich trosedd.
Os byddwch yn torri unrhyw amodau, neu'n cyflawni trosedd arall, mae'n bosibl y gallech fynd yn ôl i'r carchar i fwrw eich dedfryd.
Os ydych ar drwydded, cewch eich goruchwylio (rheoli) gan y Gwasanaeth Prawf.
Os yw eich dedfryd am lai na 12 mis
Os yw eich dedfryd am lai na 12 mis, cewch ei rhyddhau hanner ffordd drwyddi'n awtomatig.
Ni chewch eich goruchwylio (rheoli) gan y Gwasanaeth Prawf, ond gallwch gael eich anfon yn ôl i'r carchar o hyd - er enghraifft, os byddwch yn cyflawni trosedd arall.
Mae'r Bwrdd Parôl yn gyfrifol am ryddhau troseddwyr o'r carchar
Gelwir dedfryd o garchar nad oes iddi gyfnod penodol o amser yn ddedfryd 'amhenodol'. Mae hyn yn golygu:
Mae'r Bwrdd Parôl yn gyfrifol am ryddhau troseddwyr o'r carchar.
Caiff dedfrydau amhenodol eu rhoi os bydd llys o'r farn bod troseddwr yn peri risg i'r cyhoedd. Fel arfer cânt eu rhoi am droseddau treisgar neu rywiol.
Enghraifft o ddedfryd amhenodol
Rydych yn cyflawni trosedd ddifrifol ac yn cael eich dedfrydu i ddeng mlynedd yn y carchar o leiaf. Ar ôl deng mlynedd, gall y Bwrdd Parôl benderfynu:
Mynnwch wybod mwy am sut mae'r Bwrdd Parôl a'r Gwasanaeth Prawf yn gweithio drwy ddilyn y dolenni isod.
Os byddwch yn cael dedfryd am oes, bydd yn para am weddill eich bywyd - hyd yn oed os cewch eich rhyddhau o'r carchar.
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o lofruddiaeth, rhaid i'r llys roi dedfryd am oes i chi. Gall y llys hefyd ddewis rhoi dedfryd am oes am droseddau difrifol megis:
Rhaid i chi dreulio cyfnod gofynnol yn y carchar cyn yr ystyrir eich rhyddhau o'r carchar ar drwydded.
Os na fyddwch yn cyflawni amodau eich trwydded - er enghraifft, os byddwch yn cyflawni trosedd arall - mae'n debygol y byddwch yn mynd yn ôl i'r carchar.
Oes gyfan
Mewn rhai achosion difrifol iawn, gall y barnwr roi 'dedfryd oes gyfan' i chi. Mae hyn yn golygu nad oes cyfnod gofynnol wedi'i bennu gan y barnwr, ac nad ystyrir eich rhyddhau byth.