Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dedfrydau annheg o ysgafn: sut i gwyno

Pan ddyfernir rhywun yn euog o drosedd, bydd barnwr yn rhoi dedfryd iddo. Os nad yw'r ddedfryd yn ddigon llym yn eich barn chi, mewn rhai achosion gallwch ofyn i'r Twrnai Cyffredinol weld a ellir ei newid. Mynnwch wybod pa achosion y gellir eu hadolygu a sut y gallwch ofyn am adolygiad.

Pryd mae dedfryd yn rhy drugarog?

Er mwyn iddi gael ei hystyried eto, rhaid bod dedfryd yn 'rhy drugarog'. Mae'r term cyfreithiol hwn yn golygu mwy na dedfryd ysgafn yn unig; mae'n golygu bod dedfryd yn llawer rhy ysgafn. Gallwch ofyn i'r dedfrydau hyn gael eu hadolygu.

Gall y Llys Apêl newid y dedfrydau hynny. Er mwyn i hynny ddigwydd, yn gyntaf bydd yn rhaid i Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol ofyn i'r llys wirio'r dedfrydau a roddwyd.

Pa achosion y gellir eu hadolygu?

Mae'r Senedd wedi pennu terfynau llym ar y mathau o achosion y gellir eu hystyried eto. Dim ond y rheini sy'n ymwneud â'r troseddau mwyaf difrifol y gellir eu hadolygu a rhaid bod y ddedfryd wedi cael ei rhoi yn llys y goron.

Ymhlith yr achosion y gellid eu hadolygu mae:

  • troseddau treisgar difrifol, megis llofruddiaeth, trais a lladrad
  • rhai troseddau rhyw, yn enwedig rhai sy'n ymwneud â phlant, ond hefyd ymosodiadau rhywiol
  • creulondeb i blant
  • bygythiadau i ladd
  • twyll difrifol
  • troseddau difrifol yn ymwneud â chyffuriau
  • troseddau a waethygir oherwydd hil neu grefydd
  • ceisio cyflawni un o'r troseddau hyn neu annog rhywun arall i'w cyflawni

Os yw dyfarniad yn rhy drugarog, yn eich barn chi

Os ydych yn credu bod dedfryd mor ysgafn fel ei bod yn rhy drugarog, cysylltwch â Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol. Gallwch ofyn i Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol ystyried y ddedfryd eto. Rhaid i chi wneud hynny o fewn 28 diwrnod i'r barnwr roi'r ddedfryd.

Ni chaiff unrhyw achosion eu hystyried ar ôl y cyfnod hwnnw.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol a sut i gysylltu â'r swyddfa drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Pwy all ofyn am i ddedfryd gael ei hadolygu?

Gall unrhyw un ofyn am i ddedfryd gael ei hadolygu. Mae gan ddioddefwyr, eu teuluoedd ac aelodau o'r cyhoedd hawl i ofyn am adolygiad.

Nid oes angen i chi gyflogi cyfreithiwr er mwyn gofyn am i ddedfryd gael ei hystyried eto. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol eich hun, os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â'ch Gwasanaeth Erlyn y Goron lleol am y ddedfryd yn gyntaf. Gallwch hefyd ofyn i'ch Aelod Seneddol eich helpu.

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei gwybod er mwyn gofyn am adolygiad

Os ydych yn gofyn am i ddedfryd gael ei hystyried, bydd angen i chi roi ychydig o wybodaeth sylfaenol i Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys:

  • enw'r unigolyn a gafodd ei ddedfrydu (os ydych yn ei wybod)
  • enw'r llys lle y cyhoeddwyd y ddedfryd
  • y troseddau a gyflawnwyd
  • dyddiad y ddedfryd (rhaid iddo fod o fewn y 28 diwrnod diwethaf er mwyn i'r ddedfryd gael ei hadolygu)

Os daethoch i wybod am yr achos mewn papur newydd neu adroddiad ar y teledu, bydd angen i chi wybod:

  • dyddiad yr adroddiad
  • enw'r papur newydd neu'r orsaf deledu

Pwy y dylech gysylltu ag ef i ofyn am i ddedfryd gael ei newid

Er mwyn gofyn am i ddedfryd gael ei hystyried, dylech gysylltu â Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol.

Beth fydd Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol yn ei wneud

Bydd y Twrnai Cyffredinol neu'r Cyfreithiwr Cyffredinol yn penderfynu a ddylid anfon yr achos i'r Llys Apêl.

Er mwyn gwneud hynny, byddant yn ystyried y gyfraith a chanllawiau cyfreithiol yr achos. Byddant hefyd yn ystyried safbwyntiau'r dioddefwyr a'u teuluoedd.

Gallant gael cyngor gan:

  • gyfreithwyr yr erlyniad
  • cyfreithiwr nad oedd yn ymwneud â'r achos
  • cyfreithwyr yn Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol

Os anfonir yr achos i'r Llys Apêl

Hyd yn oed os caiff achos ei drosglwyddo i'r Llys Apêl, efallai na fydd yn newid y ddedfryd. Os bydd y Llys Apêl yn penderfynu nad yw dedfryd yn 'rhy drugarog', bydd y ddedfryd wreiddiol yn parhau.

Os bydd y Llys Apêl yn penderfynu bod dedfryd yn rhy ysgafn, gall roi cyngor i farnwyr ac efallai y caiff y ddedfryd ei chynyddu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU