Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help a chymorth i ddioddefwyr troseddau

Mae pobl a grwpiau a all eich helpu os ydych wedi dioddef trosedd. Gallant eich helpu pan fyddwch yn rhoi gwybod am drosedd, pan ewch i'r llys ac ar ôl y treial. Mynnwch wybod beth y gallant ei gynnig a sut i gysylltu â hwy.

Eich hawliau fel dioddefwr trosedd

Mae gennych yr hawl i gael help gan bobl sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol os ydych wedi dioddef trosedd. Mae hyn yn cynnwys help gan swyddogion yr heddlu, swyddogion gofal tystion, staff y llys a swyddogion prawf.

Er enghraifft, gallwch ddisgwyl:

  • cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd (o leiaf unwaith y mis) gan yr heddlu am eich achos
  • cael gwybod pan gaiff y troseddwr ei arestio, ei gyhuddo, ei fechnïo a'i ddedfrydu

Cymorth i Ddioddefwyr

Cymorth i Ddioddefwyr

Ffôn: 0845 30 30 900

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig help a chefnogaeth emosiynol am ddim i ddioddefwyr troseddau.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu:

  • cefnogaeth emosiynol - er enghraifft, ymdopi ag ôl-effeithiau troseddau
  • help ymarferol fel newid cloeon neu help i lenwi ffurflenni ar gyfer yswiriant ac iawndal
  • cyngor ar ddelio â'r heddlu
  • help i ddod o hyd i gwnselydd

Yn aml bydd yr heddlu yn eich rhoi mewn cysylltiad â Cymorth i Ddioddefwyr ar ôl i chi roi gwybod am drosedd.

Gallwch gysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr hyd yn oed os digwyddodd y drosedd amser hir yn ôl neu os nad ydych wedi rhoi gwybod i'r heddlu amdani.

Yng Nghymru a Lloegr, gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr ar 0845 30 30 900 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 am a 9.00 pm, dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.00 am a 7.00 pm).

Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i ddod o hyd i help gan eich swyddfa Cymorth i Ddioddefwyr agosaf yng Nghymru a Lloegr.

Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Yn yr Alban, gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr ar 0845 603 9213 (dydd Llun i ddydd Iau, 9.00 am i 4.30 pm, a 9.00 am i 4.00 pm ar ddydd Gwener).

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr ar 028 9024 4039.

Elusennau sy'n helpu dioddefwyr troseddau

Mae llawer o grwpiau a all gynnig help a chymorth i chi os ydych wedi dioddef trosedd.

Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i wasanaethau ar gyfer dioddefwyr yn eich ardal.

Cymorth os oes perthynas neu ffrind wedi'i ladd

Gall Cymorth i Ddioddefwyr roi help ychwanegol i chi gan wirfoddolwr sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig os oes perthynas neu ffrind wedi'i ladd.

Bydd swyddog yr heddlu yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all eich helpu. Gallwch ofyn i'r heddlu os na fyddwch yn cael cynnig yr help ar unwaith.

Gelwir yr unigolyn sy'n eich helpu yn weithiwr achos. Gall eich helpu gyda phethau fel:

  • diogelwch
  • gofal plant
  • trefnu angladd
  • hawlio budd-daliadau
  • dod o hyd i gynghorydd
  • cyngor ar y gyfraith
  • talu biliau

Bydd yn eich helpu tra bo'r heddlu yn ymchwilio i'r achos ac os bydd yn rhaid i chi fynd i unrhyw wrandawiadau llys. Bydd yn eich helpu hyd nes y byddwch yn penderfynu nad oes ei angen arnoch mwyach.

Mae sefydliadau eraill sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth os ydych chi wedi cael eich effeithio gan lofruddiaeth neu ddynladdiad.

Os ydych yn ddioddefwr trosedd ieuenctid

Os cyflawnwyd y drosedd gan rywun o dan 17 oed, gellid gofyn i chi a ydych am gymryd rhan mewn 'cyfiawnder adferol'.

Gall hyn roi'r cyfle i chi:

  • gyfarfod â'r troseddwr a dweud wrtho sut mae'r drosedd wedi effeithio arnoch
  • cael ymddiheuriad gan y troseddwr
  • cyfrannu at y modd y delir â'r drosedd

Bydd tîm troseddau ieuenctid (sy'n gweithio'n benodol gyda throseddwyr ifanc) yn gofyn a ydych am gymryd rhan os yw hynny'n briodol.

Gall cyfiawnder adferol eich helpu i ddygymod â'r hyn a ddigwyddodd, ond nid oes yn rhaid i chi gymryd rhan os nad ydych am wneud hynny.

Help gan yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y llys a staff carchar

Byddwch yn cael cynnig help yn ôl yr angen ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar beth sy'n digwydd gyda'ch achos. Gallwch gael mwy o wybodaeth gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU