Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth i ddioddefwyr troseddau ar ôl y treial

Fel dioddefwr trosedd, efallai y byddwch yn teimlo'n agored i niwed o hyd ar ôl y treial, hyd yn oed os bydd y troseddwr wedi'i gollfarnu. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd ar ôl treial, sut i gael gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd i'r troseddwr, a ble i gael help.

Cael help ar ôl y treial

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn helpu pobl y mae troseddau wedi effeithio arnynt

Dylai swyddog gofal tystion ddweud wrthych beth yw canlyniad y treial o fewn diwrnod i gael y canlyniad. Dylai hefyd egluro beth mae'r canlyniad yn ei olygu.

Gall effeithiau trosedd bara am amser hir ar ôl treial. Efallai y bydd angen help a chymorth arnoch gan Cymorth i Ddioddefwyr o hyd. Dysgwch sut i gael help ychwanegol drwy ddilyn y ddolen isod.

Os bydd troseddwr yn ceisio cysylltu â chi o'r carchar

Os byddwch yn cael llythyrau neu alwadau ffôn digroeso gan y carcharor, gallwch ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr i ddioddefwyr ar 0845 7585 112.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhif hwn os ydych yn poeni y bydd y troseddwr yn cysylltu â chi.

Bydd staff y llinell gymorth yn rhoi gwybod i lywodraethwr y carchar am eich galwad. Bydd llywodraethwr y carchar yn ymchwilio i'ch pryderon ac yn penderfynu a oes angen iddo gymryd unrhyw gamau yn erbyn y carcharor. Gallai hyn gynnwys monitro llythyrau a galwadau ffôn carcharor.

Pan gaiff y troseddwr ei ryddhau o'r carchar

Ffoniwch yr heddlu os bydd y troseddwr yn cysylltu â chi

Caiff troseddwyr sy'n treulio rhan o'u dedfryd yn y gymuned ar 'drwydded' ar ôl dod allan o'r carchar eu goruchwylio gan swyddogion prawf. Bydd y drwydded yn cynnwys amodau o ran eu hymddygiad.

Os bydd y troseddwr yn ceisio cysylltu â chi, efallai y bydd yn torri'r telerau dros ei ryddhau ac yn cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Ffoniwch yr heddlu os bydd y troseddwr yn cysylltu â chi.

Diogelwch os ydych wedi dioddef trosedd dreisgar neu rywiol

Os ydych wedi dioddef trosedd dreisgar neu rywiol, gallwch gael diogelwch:

  • os yw'r troseddwr yn bwrw dedfryd o flwyddyn neu fwy
  • os yw'r troseddwr wedi'i gadw fel claf iechyd meddwl

Ar ôl y treial cewch eich rhoi mewn cysylltiad â swyddog cyswllt dioddefwyr yn y Gwasanaeth Prawf. Bydd y swyddog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddedfryd y troseddwr. Bydd hefyd yn dweud wrthych ym mha fis y caiff y troseddwr ei ryddhau.

Bydd y swyddog cyswllt dioddefwyr yn gofyn i chi a oes gennych unrhyw bryderon am y ffaith y gallai'r troseddwr gael ei ryddhau. Gallwch gyflwyno eich pryderon ar ffurf datganiad gan ddioddefwr a gaiff ei roi i'r Bwrdd Parôl. Y sefydliad hwn sy'n penderfynu a yw'n ddiogel rhyddhau carcharorion peryglus.

Bydd y Bwrdd Parôl yn ystyried eich pryderon wrth wneud penderfyniad. Bydd hefyd yn ystyried y perygl i chi os caiff y carcharor ei ryddhau.

Gallwch ofyn i'r swyddog cyswllt dioddefwyr eich helpu i lunio datganiad gan ddioddefwr. Yn y datganiad, gallwch ofyn am i amodau gael eu hychwanegu at ryddhad y troseddwr, i'ch diogelu chi a'ch teulu. Gallai'r rhain gynnwys:

  • parth eithrio o amgylch eich cartref
  • amod yn gwahardd y troseddwr rhag cysylltu â chi

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU