Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn dyst i drosedd, ni ddylech fod ag ofn mynd at yr heddlu na rhoi tystiolaeth yn y llys. Mae cyfreithiau a gwasanaethau i'ch diogelu. Mynnwch wybod beth ydynt a sut y gallant eich helpu.
Ffoniwch 999 os oes trosedd yn mynd rhagddi neu newydd ddigwydd
Os oes trosedd yn mynd rhagddi neu newydd ddigwydd, ffoniwch 999.
Mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys, fel arfer dylech gysylltu â'r heddlu lleol yn yr ardal lle y cyflawnwyd y drosedd. Gallwch fynd i'r orsaf heddlu agosaf sydd â swyddfa sy'n agored i'r cyhoedd neu ffonio'r heddlu lleol yn uniongyrchol.
Os nad ydych yn gwybod pa orsaf i fynd iddi neu i'w ffonio, ffoniwch eich heddlu lleol chi a gofynnwch iddynt bwy y dylech gysylltu â nhw.
Bydd angen i'r swyddog fydd yn ateb eich galwad wybod:
Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd, efallai eich bod yn bryderus neu'n ofidus. Efallai bod gennych amheuon ynghylch rhoi gwybod i'r heddlu am y drosedd neu roi tystiolaeth yn y llys.
Nid oes cyfraith sy'n dweud bod yn rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu am drosedd na rhoi tystiolaeth. Ond cofiwch, drwy roi gwybod am drosedd, gallech sicrhau bod troseddwr yn dod o flaen ei well. Gallech hefyd atal yr un peth rhag digwydd i eraill.
Gallwch gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr, sef elusen sy'n helpu dioddefwyr a thystion, neu sefydliadau eraill am gyngor.
Efallai y bydd yr heddlu yn gofyn i chi roi datganiad tyst. Adroddiad ysgrifenedig neu adroddiad a gaiff ei recordio ar fideo o'r hyn ddigwyddodd yw hwn. Gellid ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llys ond, fel arfer, bydd tystion sy'n rhoi tystiolaeth yn y llys yn mynd i'r llys ei hun i wneud hynny.
Gellir recordio datganiadau plant o dan 17 oed, tystion sy'n oedolion sy'n agored i niwed a thystion sydd wedi'u bygylu ar fideo. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd swyddog yr heddlu yn ysgrifennu adroddiad o'r hyn y gwnaethoch ei ddweud a bydd gofyn i chi ei lofnodi.
Os yw'r drosedd newydd ddigwydd, efallai y bydd swyddogion yn gofyn i chi fynd o amgylch yr ardal gyda nhw i helpu i adnabod yr un a gyflawnodd y drosedd, neu efallai y byddant yn gofyn i chi edrych ar luniau i weld a yw'r un a ddrwgdybir yn droseddwr hysbys.
Unwaith y byddwch wedi rhoi eich datganiad, cewch eich cyfeirio ar swyddog gofal tystion. Bydd y swyddog gofal tystion yn eich helpu os bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i roi tystiolaeth.
Bydd yr heddlu'n cadw eich manylion yn gyfrinachol. Os byddwch yn rhoi datganiad am drosedd i'r heddlu, byddant yn nodi eich cyfeiriad ar ei gefn. Dim ond copi o'r tu blaen a gaiff ei roi i'r amddiffynnydd neu ei gyfreithiwr, felly ni fydd yn gweld ble rydych yn byw.
Fel arfer ni fydd gofyn i dystion ddweud eu cyfeiriad yn uchel yn y llys.
Dywedwch wrth yr heddlu os ydych yn cael eich bygwth
Mae bygylu (bygwth neu fwlio) tyst neu unrhyw un arall sy'n helpu'r heddlu yn drosedd.
Os ydych yn teimlo dan fygythiad mewn unrhyw ffordd, ar unrhyw adeg, dywedwch wrth eich swyddog gofal tystion neu swyddog yr heddlu sy'n gyfrifol am yr achos. Os ydych yn cael eich bygwth yn ddifrifol, ffoniwch 999.
Gallwch gael help ychwanegol os yw'r troseddwr wedi cael ei ddal, ei roi yn y carchar, ei ryddhau ar fechnïaeth neu ei gollfarnu. Gall y llys wneud gorchymyn i'w atal rhag dod yn agos atoch, eich bygwth neu eich bygylu eto. Os byddant yn parhau i wneud hynny, gallent wynebu trosedd arall a hyd yn oed gyfnod yn y carchar.
Gall yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ddiogelu eich hunaniaeth yn ystod yr ymchwiliad a diwrnodau cynnar y treial. Mewn rhai achosion, gallant hyd yn oed ddiogelu eich hunaniaeth yn ystod y treial ei hun.
Os oes bygythiad difrifol iawn i chi, efallai y bydd yn bosibl eich adleoli (symud tŷ) i ardal arall lle y byddwch yn teimlo'n fwy diogel.
Caiff hyn ei drefnu gan yr heddlu. Dywedwch wrthynt os ydych yn credu eich bod mewn perygl.