Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dioddefwyr a thystion: paratoi i fynd i'r llys

Os byddwch yn mynd i'r llys fel dioddefwr neu dyst, gall gwybod beth i'w ddisgwyl a sut i baratoi eich helpu. Mynnwch wybod sut y gallwch gael help cyn y byddwch yn mynd i'r llys.

Canfod a fydd treial

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys os bydd yr unigolyn yn pledio'n ddieuog

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst i drosedd, efallai y bydd gofyn i chi roi tystiolaeth yn y llys. Efallai y bydd dipyn o amser yn mynd heibio cyn y byddwch yn gwybod a fydd angen i chi fynd i'r llys, gan fod achosion cyfreithiol yn gallu cymryd amser hir i'w paratoi.

Bydd yr unigolyn a gaiff ei gyhuddo o'r drosedd yn ymddangos gerbron llys ynadon i wneud ple, o fewn ychydig ddiwrnodau fel arfer. Mae hyn yn golygu y gofynnir iddo a yw am:

  • gyfaddef y drosedd, a phledio'n euog
  • ei gwadu, a phledio'n ddieuog

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys os bydd yr unigolyn yn pledio'n ddieuog. Mae hyn yn golygu y bydd treial i ganfod a yw'n euog. Ni fydd yn rhaid i chi fynd i'r llys os bydd yn pledio'n euog.

Canfod pryd y mae angen i chi fynd i'r llys

Dim ond pan fydd disgwyl i chi roi tystiolaeth y dylech orfod mynd i'r llys.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad, bydd swyddog gofal tystion yn cysylltu â chi. Mae swyddogion gofal tystion yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu.

Y swyddog gofal tystion fydd eich pwynt cyswllt o'r adeg y caiff rhywun ei gyhuddo hyd ddiwedd yr achos llys. Bydd yn rhoi arweiniad i chi ar fynd i'r llys, ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael unrhyw gymorth y bydd ei angen arnoch.

Gyda rhai troseddau, fel trais rhywiol, trais domestig neu droseddau yn erbyn plant, swyddog arbenigol yr heddlu fydd eich pwynt cyswllt ac a fydd yn eich helpu.

Bydd y swyddog gofal tystion neu swyddog yr heddlu yn anfon llythyr atoch yn eich hysbysu o ddyddiad y treial.

Os ydych yn dyst dros yr amddiffyniad

Os ydych yn dyst dros yr amddiffyniad, bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y bydd angen i chi fynd i'r llys.

Os nad yw dyddiad y treial yn gyfleus i chi

Os nad yw dyddiad y treial yn gyfleus i chi, dylech ddweud wrth eich swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad.

Dylech wneud hyn ar unwaith, fel y gallant benderfynu beth i'w wneud.

Adolygu eich datganiad

Gallwch ddarllen eich datganiad eto cyn mynd i'r llys

Os ydych wedi rhoi datganiad i'r heddlu, efallai bod dipyn o amser wedi bod ers i chi ei weld.

Gallwch ofyn am gael gweld y datganiad eto cyn i chi fynd i'r llys er mwyn procio'ch cof.

Os ydych wedi cael eich galw fel tyst dros yr erlyniad, gallwch ofyn i Wasanaeth Erlyn y Goron am gael gweld y datganiad.

Os ydych wedi cael eich galw fel tyst dros yr amddiffyniad, gallwch ofyn i gyfreithiwr yr amddiffyniad adael i chi weld y datganiad.

Gwybodaeth am y llys

Gellid cynnal y treial mewn llys ieuenctid (os yw'r amddiffynnydd yn 17 oed neu iau), llys ynadon neu Lys y Goron.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad, bydd y swyddog gofal tystion yn egluro sut mae'r llys yn gweithio ac yn eich helpu i baratoi fel eich bod yn gwybod beth fydd yn digwydd yn ystod y treial.

Siaradwch â'ch swyddog gofal tystion os ydych yn credu y bydd angen help arnoch gyda phethau megis:

  • dehonglydd
  • rhywun i'ch helpu i roi tystiolaeth yn y llys, a elwir yn 'gyfryngwr'
  • gofal plant
  • trafnidiaeth - cyrraedd y llys

Gofynnwch i'ch swyddog gofal tystion os ydych yn dymuno ymweld â'r llys cyn y treial. Gall drefnu i rywun fynd â chi i'r llys a dangos ystafell y llys i chi. Bydd hyn yn rhoi syniad cliriach i chi o'r hyn fydd yn digwydd yn ystod y treial.

Os ydych yn dyst dros yr amddiffyniad, gall gwasanaeth yn y llys, sef y Gwasanaeth Tystion, drefnu ymweliad cyn y treial. Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth lleol drwy gysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr. Gallwch hefyd ofyn i'r cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r amddiffynnydd.

Dylech hefyd gael copi o’r daflen am fod yn dyst. Gallwch lawrlwytho copi gan ddefnyddio'r adnodd chwilio am lys isod, ynghyd â chael gwybodaeth am y llys gan gynnwys manylion cyswllt, cyfleusterau a mapiau.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU