Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallech gael iawndal os ydych wedi dioddef trosedd. Gall iawndal eich helpu os ydych wedi cael eich anafu, neu wedi dioddef colled ariannol neu ddifrod i'ch eiddo. Mynnwch wybod sut y gallech gael iawndal.
Mae'n bosibl y gallwch gael iawndal yn y ffyrdd canlynol, yn dibynnu ar y math o drosedd a'r sefyllfa:
Dywedwch wrth swyddog yr heddlu sy'n delio â'ch achos sut mae'r drosedd wedi effeithio arnoch
Efallai y gallwch gael iawndal gan y troseddwr drwy lys troseddol (llys ynadon neu Lys y Goron). Ni allwch gael iawndal gan y troseddwr os yw wedi'i anfon i'r carchar.
Gall llysoedd orchymyn i'r troseddwr dalu arian i chi os ydych wedi cael eich anafu, wedi dioddef colled ariannol neu fod eich eiddo wedi'i ddifrodi.
Bydd angen i chi siarad â swyddog yr heddlu sy'n delio â'ch achos. Rhowch fanylion cywir iddo am y ffordd rydych wedi dioddef neu sut mae wedi effeithio arnoch.
Mae'n syniad da cadw cofnod o:
Bydd yr heddlu yn dweud wrth Wasanaeth Erlyn y Goron, a fydd yn gofyn i'r llys am iawndal. Nid oes angen i chi wneud cais i'r llys am iawndal.
Os bydd y barnwr neu'r ynadon yn penderfynu rhoi gorchymyn iawndal, mae'n rhaid iddynt wneud penderfyniad yn seiliedig ar yr hyn y gall y troseddwr ei fforddio.
Gallech fynd â rhywun i'r llys sirol i hawlio iawndal. Gallech wneud hyn hyd yn oed os na chaiff yr unigolyn ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd.
Bydd yn costio arian i chi 'siwio' yr unigolyn a mynd i'r llys fel hyn. Bydd angen i chi gyfrifo faint y bydd hyn yn ei gostio, ac a yw'n werth gwneud hynny. Efallai na fyddwch yn ennill yr achos.
Mae'n werth cael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried mynd â rhywun i'r llys.
Os ydych wedi dioddef trosedd dreisgar, efallai y gallwch gael iawndal gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA).
Gallwch gael iawndal am resymau gwahanol, gan gynnwys:
Apelio yn erbyn penderfyniad am iawndal am drosedd dreisgar
Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad a wneir gan y CICA, gallwch apelio i dribiwnlys.
Gall y CICA roi ffurflen apelio i chi, ynghyd â chanllaw i'r broses apelio.
Os ydych yn byw yn y DU ac wedi cael eich brifo o ganlyniad i drosedd dreisgar mewn gwlad arall yn yr UE, gallwch wneud cais am iawndal.
Gall Tîm Cymorth Iawndal yr UE (EUCAT) yn y CICA eich helpu i wneud cais am iawndal mewn gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd.
Gallwch ffonio EUCAT ar 0800 358 3601 rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, heblaw am ddydd Mercher pan allwch ffonio rhwng 10.00 am a 5.00 pm.
Gallwch hefyd e-bostio'r tîm:
Os cawsoch eich anafu o ganlyniad i drosedd dreisgar mewn gwlad y tu allan i'r UE, gallwch wneud cais i'r wlad honno am iawndal.
Mae gan wefan Swyddfa'r Unol Daleithiau ar gyfer Dioddefwyr Troseddau gyfeiriadur o raglenni iawndal rhyngwladol gyda manylion am y mathau o iawndal a gynigir gan wledydd gwahanol.