Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad Digolledu am Anafiadau Troseddol

Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad digolledu a wnaed gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol, gallwch wneud hynny drwy'r ‘Tribiwnlys Haen Gyntaf (Digolledu am Anafiadau Troseddol)'. Bydd rhaid i chi gwblhau 'Hysbysiad am Apêl', y mae'n rhaid i'r Tribiwnlys ei gael o fewn 90 diwrnod i ddyddiad eich llythyr sy'n nodi penderfyniad yr adolygiad.

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad digolledu'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol

Gall y Tribiwnlys gynyddu neu leihau swm yr iawndal

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad digolledu a wnaed gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol, gallwch apelio drwy gysylltu â'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Digolledu am Anafiadau Troseddol). Maent yn gwbl annibynnol ar yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol. Gall y Tribiwnlys gadarnhau'r penderfyniad, lleihau neu gynyddu'r swm a ddyfernir, neu hyd yn oed benderfynu nad ydych yn cael unrhyw iawndal. Hen enw'r Tribiwnlys oedd y Panel Digolledu am Anafiadau Troseddol.

Anfonir ffurflen apêl atoch yn awtomatig gyda'ch llythyr sy'n nodi'r dyfarniad a bennwyd. Gallwch hefyd gael copi drwy ddilyn y ddolen isod.

Yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gyflwyno eich apêl

Bydd angen y manylion canlynol arnoch i gyflwyno eich apêl:

  • eich sail (rhesymau) dros apelio
  • rhif cyfeirnod yr achos - nodir hwn ar eich llythyr sy'n nodi penderfyniad yr adolygiad
  • eich cyfeiriad presennol ac, os oes un gennych, rhif ffôn y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â chi yn ystod y dydd
  • enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeirnod eich cynrychiolydd (cyfreithiwr, er enghraifft) os oes gennych un - os ydych yn darparu'r manylion hyn, anfonir pob llythyr a dogfen am eich apêl atynt nes i chi roi gwybod i'r Tribiwnlys, yn ysgrifenedig, eich bod wedi newid eich cynrychiolydd neu nad oes cynrychiolydd gennych fwyach
  • rhestr o unrhyw ddogfennau rydych yn bwriadu eu hanfon i ategu eich Hysbysiad am Apêl - gallai hyn gynnwys, er enghraifft, adroddiadau neu luniau

Os ydych yn dal i aros i dderbyn dogfennau gan rywun arall, dylech nodi ar eich ffurflen pryd rydych yn disgwyl y byddwch yn gallu eu hanfon. Oni bai bod angen y dogfennau hyn arnoch i'ch helpu i benderfynu p'un ai i apelio ai peidio, ni ddylech aros nes i chi eu derbyn cyn anfon eich ffurflen apêl.

Rhaid i chi lofnodi'r ffurflen eich hun oni bai bod gennych gynrychiolydd sy'n meddu ar gymwysterau cyfreithiol. Dim ond cynrychiolydd sy'n meddu ar gymwysterau cyfreithiol sy'n gallu llofnodi'r ffurflen ar eich rhan. Rhaid i chi hefyd atodi copi o lythyr penderfyniad adolygiad yr Awdurdod ac unrhyw ddogfennau ategol i'ch ffurflen apêl.

Anfonwch eich ffurflenni a dogfennau i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Digolledu am Anafiadau Troseddol). Dilynwch y ddolen isod i gael y manylion cyswllt.

Pryd i gyflwyno eich apêl

Rhaid i'ch Hysbysiad am Apêl wedi'i gwblhau gyrraedd y Tribiwnlys o fewn 90 diwrnod i ddyddiad eich llythyr sy'n nodi penderfyniad yr adolygiad. O dan amgylchiadau eithriadol gall fod rhesymau da pam na fyddwch yn gallu anfon eich Hysbysiad am Apêl o fewn y terfyn amser o 90 diwrnod, er enghraifft, os ydych yn aros am adroddiadau meddygol pellach y mae'n rhaid i chi eu gweld cyn penderfynu a ydych am apelio ai peidio.

Os nad yw'r 90 diwrnod wedi bod eto

Gallwch wneud cais am estyniad i'r terfyn amser o 90 diwrnod am gyflwyno apêl drwy ysgrifennu i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Rhaid i chi egluro pam fod angen mwy o amser arnoch a faint yn fwy o amser y bydd ei angen arnoch yn eich barn chi.

Nod y Tribiwnlys yw ystyried eich cais o fewn pum diwrnod. O dan rai amgylchiadau, caiff eich cais ei gyfeirio at Farnwr neu Aelod Tribiwnlys i'w ystyried. Os bydd hyn yn digwydd gyda'ch cais, bydd y Tribiwnlys yn ysgrifennu atoch er mwyn rhoi gwybod i chi. Nod y Tribiwnlys yw gwneud y penderfyniadau hyn o fewn tair wythnos.

Os rhoddir estyniad i chi, cewch lythyr yn nodi'r terfyn amser newydd ar gyfer cyflwyno eich apêl i'r Tribiwnlys. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhoddir estyniadau pellach.

Os yw'r 90 diwrnod wedi bod eisoes

Rhaid i chi egluro ar eich ffurflen apêl pam nad oeddech yn gallu anfon eich ffurflen yn gynharach a pham y byddai'n deg i dderbyn yr apêl nawr. Bydd angen i chi anfon unrhyw ddogfennau sy'n ategu eich rhesymau hefyd.

Pethau i'w hystyried cyn i chi apelio

Mae angen i chi gofio pethau penodol os ydych yn ystyried cyflwyno apêl.

Mae'r Tribiwnlys yn annibynnol ar yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol ac ar wahân iddo, felly bydd Beirniaid y Tribiwnlys a fydd yn penderfynu ar eich apêl yn ystyried yr achos o'r newydd. Golyga hyn nad ydynt yn rhwym wrth unrhyw benderfyniad blaenorol a wnaed gan yr Awdurdod - gallent leihau'r swm a ddyfernir i chi, gwneud yn union yr un penderfyniad â'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol neu hyd yn oed benderfynu na chewch unrhyw iawndal.

Unwaith i chi gyflwyno'ch apêl gallwch wneud cais am daliad interim tra byddwch yn aros am benderfyniad. Bydd Barnwr neu Aelod Tribiwnlys yn penderfynu p'un a ddylech gael y taliad interim hwn, a faint y dylid ei dalu. Caiff unrhyw daliad interim ei ddidynnu o gyfanswm y dyfarniad terfynol ar ôl terfynu'r apêl.

Os ydych yn apelio ac yna'n newid eich meddwl ac yn penderfynu tynnu eich apêl yn ôl, ni fydd gennych hawl awtomatig i unrhyw symiau a ddyfarnwyd i chi'n flaenorol gan yr Awdurdod. Bydd caniatâd i dynnu apêl yn ôl yn aml yn dibynnu ar p'un a oes unrhyw dystiolaeth newydd neu newid mewn amgylchiadau ers penderfyniad adolygu'r Awdurdod. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn cael y dyfarniad llawn, neu unrhyw ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod os cewch eich collfarnu o drosedd wedi hynny.

Os nad ydych yn sicr p'un ai i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan yr Awdurdod ai peidio, gall fod yn ddefnyddiol i chi siarad â rhywun yn Cymorth i Ddioddefwyr, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu Cyngor Cyfreithiol Cymunedol - dilynwch y dolenni isod am fanylion cyswllt y sefydliadau hyn.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU