Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Iawndal i ddioddefwyr trosedd

Os oes rhywun wedi cyflawni trosedd treisgar yn eich erbyn, fe allech fod yn gymwys i gael iawndal gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol. Un o sefydliadau'r llywodraeth yw'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol ac fe all dalu arian i unrhyw ddioddefwr diniwed sydd wedi cael anaf corfforol neu feddyliol yn sgil trosedd treisgar.

Sut y gall yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol eich helpu chi

Mae'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, yn prosesu ceisiadau ac yn gwneud dyfarniadau sy'n amrywio o £1000 i £500,000.

Os ydych am wneud cais, gallwch wneud hyn eich hun, neu fe allwch gael help gan Cymorth i Ddioddefwyr neu'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth. Gallech hefyd dalu twrnai i'ch helpu, er y dylech gofio na all yr Awdurdod dalu costau hyn i chi.

Gweld a ydych yn gymwys i gael iawndal

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych wedi cael eich anafu'n ddigon difrifol i fod yn gymwys i gael y dyfarniad sylfaenol (£1000) – dilynwch y ddolen gyntaf isod at 'Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol 2008' i weld y swm a geir am bob math o anaf
  • os cawsoch eich anafu mewn gweithred o drais yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban – nid yw'n ofynnol bod y troseddwr wedi ei gael yn euog, na hyd yn oed wedi'i gyhuddo o gyflawni'r trosedd
  • os ydych yn gwneud eich cais o fewn dwy flynedd i'r digwyddiad a achosodd eich anaf – fodd bynnag, mae'n bosib y derbynnir ceisiadau ar ôl dwy flynedd os, yn eich achos penodol chi, nad oedd yn rhesymol disgwyl i chi wneud cais yn y cyfnod hwn

Os ydych chi'n breswylydd yn y DU, ond y cawsoch eich anafu oddi allan i Gymru, Lloegr a'r Alban, defnyddiwch y dolenni isod i wneud cais am iawndal:

  • os cawsoch eich anafu yn un o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, defnyddiwch yr ail ddolen
  • os cawsoch eich anafu mewn gwlad nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r wlad honno - defnyddiwch y drydedd ddolen isod i weld rhestr o wledydd sydd â chynllun digolledu am anafiadau troseddol

Gellir gwrthod eich rhesymau dros gael iawndal neu roi llai o iawndal i chi

Gall yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol benderfynu rhoi llai o iawndal i chi neu wrthod rhoi iawndal i chi'n gyfan gwbl am y rhesymau canlynol:

  • eich ymddygiad cyn, yn ystod neu ar ôl y digwyddiad lle cawsoch eich anafu
  • eich cofnod troseddol
  • os na wnaethoch gydymffurfio â'r heddlu nac â'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
  • y ffaith i chi oedi cyn rhoi gwybod i'r heddlu, neu i sefydliad neu unigolyn am y digwyddiad

Sut mae gwneud cais

Llinell gymorth yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol

Rhadffôn 0800 358 3601

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn

Gallwch gael y ffurflenni y bydd eu hangen arnoch i wneud cais drwy:

  • ffonio rhif rhadffôn yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol - 0800 358 3601; byddant wedyn yn anfon y ffurflenni cywir atoch (mae galwadau am ddim o linellau tir y DU; maent hefyd yn cael eu monitro at ddibenion hyfforddi)
  • eu hargraffu oddi ar wefan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol - dilynwch y ddolen isod i wneud hyn

Mathau o iawndal y gallwch wneud cais amdano

Ceir pedwar math o iawndal:

Iawndal am anafiadau (gan gynnwys troseddau rhyw)

Mae'r iawndal hwn yn syml yn cydnabod i chi ddioddef yr anaf. Mae'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol yn galw hyn yn 'iawndal sylfaenol'. Yn ogystal â hyn, gall hefyd eich digolledu am enillion a gollwyd a chostau arbennig. Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn gymwys i gael yr iawndal sylfaenol er mwyn cael hyn.

Iawndal gan fod rhywun sy'n annwyl i chi wedi marw yn sgil trosedd treisgar

Os yw'ch rhiant, eich plentyn, eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner (gan gynnwys partner o'r un rhyw) wedi marw yn sgil trosedd treisgar, fe allech gael y math hwn o iawndal. Ar hyn o bryd, £11,000 yw'r swm sydd ar gael os un person sy'n hawlio, neu £5,500 yr un os oes mwy nag un person yn hawlio. Os oeddech chi'n dibynnu'n ariannol ar y person sydd wedi marw, mae'n bosib y gallech hawlio iawndal am hyn hefyd. Gall yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol hefyd ad-dalu costau'r angladd i'r person a dalodd am yr angladd – ond ni allant dalu costau'r angladd cyn i'r hawliad gael ei asesu.

Iawndal am golli enillion

Os ydych wedi colli enillion, neu'r gallu i ennill, am fwy nag 28 wythnos o ganlyniad uniongyrchol i'r anaf, fe allwch hawlio am hyn. Os ydych chi'n gymwys i gael dyfarniad am golli enillion, bydd yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol yn talu iawndal i chi, gan ddechrau o'r 29ain wythnos na allwch weithio. Os ydych am wneud cais am iawndal am golli enillion yn ogystal â'r iawndal sylfaenol, dylech roi gwybod i'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol oherwydd y bydd angen iddo anfon ffurflen a chanllaw gwahanol i chi ar gyfer hyn.

Iawndal ar gyfer costau arbennig

Ceir manylion y costau eraill y gallwch wneud hawliad amdanynt yn y Cynllun. Gallant gynnwys y canlynol:

  • triniaeth feddygol na ellir ei darparu gan y GIG
  • gofal a ddarperir gan gartref neu sefydliad preswyl
  • addasiadau i'ch cartref yn dilyn yr anaf

Sut mae'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol yn gwneud penderfyniad

Mae'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol yn gwneud ei holl benderfyniadau ar sail cymhwysedd a swm y taliad y caiff ei wneud drwy ddilyn cyfres o reolau, sef y Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol. Cyflwynwyd y cynllun cyfredol ar 3 Tachwedd 2008 ac mae'n berthnasol i geisiadau a wnaed ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny. Dilynwch y ddolen gyntaf isod i gael manylion y Cynllun cyfredol.

Os gwnaethoch gais cyn 3 Tachwedd 2008, dilynwch y ddolen berthnasol isod i gael manylion Cynlluniau blaenorol.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol, gallwch apelio wrth y Panel Digolledu am Anafiadau Troseddol (y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Digolledu am Anafiadau Troseddol) sy'n annibynnol ar yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol. Gall yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol ddarparu ffurflen apeliadau i chi, yn ogystal â chanllaw i'r broses apelio.

Trefniadau arbennig ar gyfer talu dyfarniadau

Weithiau mae'n bosib y bydd angen i'r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol wneud trefniadau arbennig i dalu dyfarniad, i gymryd i ystyriaeth amgylchiadau'r dioddefwr neu faterion perthnasol eraill. Er enghraifft, os yw'r dioddefwr yn blentyn, bydd y dyfarniad yn cael ei gadw mewn cyfrif banc sy'n ennill llog nes bydd y plentyn yn 18 oed. Mae'n bosib y bydd dyfarniadau oedolion nad ydynt, yn ôl y gyfraith, yn meddu ar y gallu i ymdrin â'u trefniadau eu hunain, yn cael eu talu i ymddiriedolaethau er budd yr ymgeisydd.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU