Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a Phrif Gwnstabliaid wedi llunio crynodeb o'r hyn y gall pobl ei wneud pan fydd rhywun yn torri i mewn a'r cymorth a gynigir gan y gyfraith pan fydd deiliaid tai yn amddiffyn eu hunain. Daw'r canlynol o'r datganiad hwnnw.
Gall unrhyw un defnyddio 'grym rhesymol' er mwyn amddiffyn eu hunain a phobl eraill, neu arestio rhywun neu atal trosedd. Ni ddisgwylir i chi wneud penderfyniadau manwl dros lefel y grym rydych yn ei defnyddio yn y fan a'r lle. Cyn belled â'ch bod ond yn cymryd y camau rydych wir yn teimlo sydd eu hangen ac sy'n reddfol ar y pryd, dyma fyddai'r dystiolaeth gryfaf eich bod wedi gweithredu'n gyfreithlon ac er mwyn amddiffyn eich hun. Mae hyn hefyd yn wir os byddwch yn defnyddio rhywbeth sydd wrth law fel arf.
Fel rheol, po fwyaf eithriadol fo'r amgylchiadau a'r ofn a deimlwch, y mwyaf o rym y gallwch ei ddefnyddio'n gyfreithlon i amddiffyn eich hun.
Mae hon yn sefyllfa wahanol oherwydd na fyddwch yn cymryd camau i amddiffyn eich hun mwyach ac felly mae'n bosibl na fyddai'r un lefel o rym yn rhesymol. Fodd bynnag, cewch ddefnyddio grym rhesymol o hyd er mwyn adfer eich eiddo ac arestio rhywun eich hun. Dylech ystyried eich diogelwch eich hun ac, er enghraifft, a yw'r heddlu wedi cael ei alw. Byddai tacl rygbi neu un ergyd yn enghraifft o rym rhesymol, fwy na thebyg. Ni fyddai cymryd camau oherwydd malais a dial gyda'r bwriad o anafu neu achosi marwolaeth yn enghraifft o rym rhesymol.
Mae'r heddlu yn ystyried yr holl ffeithiau wrth ymchwilio i ddigwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y ffaith bod yr unigolyn sydd wedi torri i mewn yn gyfrifol yn y lle cyntaf am greu'r sefyllfa. Mae dyletswydd ar yr heddlu i ymchwilio i ddigwyddiadau yn achos marwolaeth neu anaf. Nid yw'r sefyllfa bob amser fel yr ymddengys - er enghraifft, ar brydiau mae pobl yn ffugio bod bwrgleriaeth wedi digwydd er mwyn cuddio troseddau eraill, fel brwydr rhwng gwerthwyr cyffuriau.
Nid oes rhaid i chi aros hyd nes bod rhywun yn ymosod arnoch cyn i chi amddiffyn eich hun os byddwch yn eich cartref eich hun ac ag ofn am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch pobl eraill. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i chi aros hyd nes bod rhywun yn ymosod arnoch cyn i chi ddefnyddio grym amddiffynnol.
Os byddwch wedi cymryd camau rhesymol i amddiffyn eich hun, fel y nodir uchod, a bod yr unigolyn sydd wedi torri i mewn wedi marw, byddwch wedi gweithredu'n gyfreithlon o hyd. Yn wir, mae sawl achos wedi bod lle nad yw deiliad y tŷ wedi cael ei erlyn.
Fodd bynnag, er enghraifft:
neu
yna, byddwch yn gweithredu gyda grym gormodol a direswm a gallech gael eich erlyn.
Mae Prif Gwnstabliaid a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddiadau (Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron) wedi pennu bod yn rhaid ymchwilio i'r achosion hyn a'u hadolygu mor gyflym â phosibl ac yn y ffordd fwyaf sensitif bosibl. Mewn rhai achosion, er enghraifft lle bo'r ffeithiau yn glir iawn, neu pan fo pobl wedi cael eu hanafu'n llai difrifol, bydd yr ymchwiliad yn dod i ben yn gyflym iawn, heb unrhyw angen i arestio rhywun. Mewn achosion sy'n fwy cymhleth, er enghraifft yn achos marwolaeth neu anaf difrifol, bydd angen gwneud ymholiadau manylach. Efallai y bydd angen i'r heddlu gynnal archwiliad fforensig a/neu gael gwybodaeth gennych am y digwyddiad.
Er mwyn sicrhau yr ymdrinnir ag achosion o'r fath mor gyflym â phosibl ac yn y ffordd fwyaf sensitif bosibl, bydd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd mesurau arbennig, sef:
ac
Anaml iawn y mae deiliaid tai wedi'u herlyn am achosion sy'n deillio o ddefnyddio grym yn erbyn rhywun sy'n torri i mewn.
Mae 'Deiliaid tai a'r defnydd o rym yn erbyn rhywun sy'n torri i mewn' ar gael fel taflen ac mewn gwahanol fformatau - cysylltwch â:
CPS Communications Branch
50 Ludgate Hill
London CC4M 7EX
Ffôn: 020 7796 8442
Ffacs: 020 7796 8030