Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi roi gwybod am drosedd a gyflawnwyd yn eich erbyn

Os ydych wedi dioddef trosedd ac wedi rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad, mae gennych yr hawl i wybod sut mae'r achos yn mynd rhagddo. Mynnwch wybod beth y gallwch ei ddisgwyl pan fydd yr heddlu'n ymchwilio i'r drosedd

Rhoi gwybod am drosedd

Os byddwch yn rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd, bydd yn helpu'r heddlu i ddal y troseddwr, a gallai atal pobl eraill rhag dioddef troseddau. Bydd yr heddlu'n gofyn i chi wneud datganiad yn nodi manylion y drosedd.

Gweler y dolenni isod am fanylion ynghylch sut i roi gwybod am drosedd a gyflawnwyd yn eich erbyn.

Canfod a all yr heddlu ymchwilio i'r drosedd

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod am drosedd, bydd yr heddlu'n penderfynu a allant ymchwilio i'r achos.

Os na allant ymchwilio i'r achos, bydd yr heddlu'n rhoi gwybod i chi o fewn pum diwrnod i chi roi gwybod am y drosedd, ac yn rhoi'r rhesymau dros hynny i chi.

Os byddant yn ymchwilio i'r achos, byddant yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr achos o leiaf unwaith y mis hyd nes y bydd wedi'i gau.

Cadw mewn cysylltiad â'r heddlu

Byddwch yn cael manylion cyswllt swyddog yr heddlu sy'n delio â'r digwyddiad

Byddwch yn cael rhif cyfeirnod ar gyfer y drosedd a manylion cyswllt swyddog yr heddlu sy'n delio â'r digwyddiad. Bydd angen y rhif cyfeirnod arnoch os byddwch yn cysylltu â'r heddlu eto neu os bydd angen i chi wneud hawliad yswiriant.

Mae gennych hawl i gael y wybodaeth ddiweddaraf, felly gallwch ofyn amdani pan fo'i hangen arnoch.

Ffoniwch yr heddlu os byddwch yn cofio unrhyw beth arall am y drosedd ar ôl i chi wneud eich datganiad.

Bydd yr heddlu'n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau eraill a all eich helpu, megis Cymorth i Ddioddefwyr.

Dweud wrth yr heddlu sut mae'r drosedd wedi effeithio arnoch

Gallwch ddweud wrth yr heddlu yn eich geiriau eich hun am y ffordd y mae'r drosedd wedi effeithio arnoch. Gelwir hyn yn 'ddatganiad personol gan ddioddefwr' a gall gynnwys pethau fel:

  • yr effaith ar eich iechyd, eich teulu neu ansawdd eich bywyd
  • os nad ydych yn teimlo’n ddiogel mwyach
  • os ydych am hawlio iawndal am anaf, colled neu ddifrod

Gall y wybodaeth o’r datganiad hwn gael ei defnyddio gan y llys wrth benderfynu sut i gosbi’r troseddwr.

Sut mae'r heddlu'n casglu tystiolaeth

Gall ymchwiliadau fod yn fanwl a chymryd amser hir, ac mae rhai achosion na chânt byth eu datrys

Gall ymchwiliadau fod yn fanwl a chymryd amser hir. Bydd yn rhaid i'r heddlu gasglu tystiolaeth i ddal y troseddwr neu brofi'r achos yn ei erbyn. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros am fisoedd cyn bod datblygiad yn yr achos.

Yn anffodus, mae rhai achosion na chânt byth eu datrys. Efallai na fydd yr heddlu'n gallu dal y troseddwr neu efallai na fydd digon o dystiolaeth i'w gyhuddo.

Gall yr heddlu:

  • gael datganiadau gan dystion
  • cyfweld â’r rhai a ddrwgdybir
  • casglu tystiolaeth o leoliad y drosedd, megis olion bysedd neu dystiolaeth fforensig arall

Gellid gofyn i chi edrych ar luniau neu res adnabod er mwyn adnabod y troseddwr. Mae gan lawer o orsafoedd heddlu ystafelloedd arbennig â sgriniau un ffordd fel y gallwch weld y rhes adnabod heb gael eich gweld.

Os ydych wedi cael eich anafu yn ystod ymosodiad, bydd yr heddlu'n gwneud yn siŵr eich bod yn cael help meddygol. Gall y profiad hwn beri gofid, ond cofiwch y gellid defnyddio tystiolaeth o archwiliad meddygol i ddod â'r ymosodwr o flaen ei well.

Diogelwch yn ystod yr ymchwiliad

Os ydych mewn perygl, neu wedi dioddef troseddau sawl gwaith, efallai y bydd yr heddlu yn gallu cymryd camau ychwanegol i'ch diogelu. Gallai hyn gynnwys:

  • larymau panig
  • mwy o batrolio gan yr heddlu
  • gwyliadwriaeth bob awr o'r dydd

Os byddwch yn wynebu aflonyddu neu'n cael eich bygwth ar unrhyw adeg, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith. Mae bygylu (dychryn neu fwlio) unrhyw un sy'n helpu'r heddlu gydag achos yn drosedd.

Efallai y bydd y llys yn gallu gwneud gorchymyn atal i rwystro rhywun rhag dod yn agos atoch - gofynnwch i'r heddlu os ydych yn credu eich bod mewn perygl.

Diogelu’ch preifatrwydd

Er mwyn helpu gydag ymchwiliad, efallai y bydd yr heddlu yn rhoi rhai manylion penodol am eich achos i'r cyfryngau. Gwneir hyn er mwyn canfod a oes tystion a allai eu helpu i ddatrys y drosedd. Fel arfer bydd yr heddlu yn gofyn am eich caniatâd cyn datgelu unrhyw wybodaeth.

Os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol, mae cyhoeddi eich enw, llun ohonoch neu fanylion eraill y gellid eu defnyddio i'ch adnabod yn drosedd.

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd yr ymchwiliad

Bydd yr heddlu'n rhoi gwybod i chi o fewn pum diwrnod os caiff rhywun:

  • ei arestio
  • ei gyhuddo
  • ei ryddhau
  • ei ryddhau ar fechnïaeth (ei ryddhau ag amodau)
  • rhybudd, cerydd, rhybudd terfynol neu hysbysiad cosb

Os caiff rhywun ei gyhuddo o'r drosedd

Pan fydd heddlu wedi gorffen ymchwiliad, byddant yn trosglwyddo'r achos i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a oes digon o dystiolaeth i gyhuddo rhywun a mynd â'r achos i'r llys. Bydd yn ystyried yr effaith y mae'r drosedd wedi'i chael arnoch wrth benderfynu a ddylai erlyn. Bydd yn dweud wrthych o fewn pum diwrnod os bydd yn penderfynu gollwng y cyhuddiad neu newid y cyhuddiad.

Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am fynd i'r llys.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU