Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd i'r llys fel dioddefwr neu dyst

Mae rhoi tystiolaeth yn y llys fel dioddefwr neu dyst yn rhan bwysig o'r system cyfiawnder. Mynnwch wybod beth i'w wneud pan fyddwch yn mynd i'r llys, sut mae treialon yn gweithio a pha gymorth sydd ar gael.

Cael help wrth fynd i'r llys

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst i drosedd, efallai y bydd gofyn i chi roi tystiolaeth yn y llys.

Byddwch yn cael llythyr gan yr heddlu, swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yn dweud wrthych os oes rhaid i chi fynd i'r llys.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad, bydd y swyddog gofal tystion yn cadarnhau a fydd angen unrhyw help arnoch ar ddiwrnod y treial. Er enghraifft, gallai hyn ymwneud â gofal plant neu help gyda thrafnidiaeth.

Dylech hefyd gael copi o daflen ar fynd i'r llys fel tyst. Gallwch lawrlwytho copi gan ddefnyddio'r adnodd chwilio am lys isod, ynghyd â chael gwybodaeth am y llys gan gynnwys manylion cyswllt, cyfleusterau a mapiau.

Help a chymorth i ddioddefwyr a thystion yn y llys

Gall swyddog gofal tystion neu'r cyfreithwyr a ofynnodd i chi fynd i'r llys eich rhoi mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Tystion.

Mae'r Gwasanaeth Tystion wedi'i leoli yn y llys, ac mae'n helpu:

  • unrhyw dystion sy'n rhoi tystiolaeth
  • dioddefwyr a'u teuluoedd a'u ffrindiau sy'n mynd i'r llys

Gall y Gwasanaeth Tystion drefnu i rywun fynd gyda chi i gynnig cefnogaeth bersonol ar ddiwrnod y treial.

Os oes unrhyw bryderon gennych am y treial, siaradwch â'ch swyddog gofal tystion neu rywun o'r Gwasanaeth Tystion yn eich llys lleol.

Cyrraedd y llys

Ewch i'r llys o leiaf 30 munud cyn i'r treial ddechrau

Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd y llys o leiaf 30 munud cyn y disgwylir i'r treial ddechrau. Rhaid i chi gael prawf diogelwch ac yna mynd i'r dderbynfa. Rhowch y llythyr a gawsoch yn gofyn i chi ddod i'r llys i'r derbynnydd.

Fel arfer, bydd rhywun o’r Gwasanaeth Tystion a rhywun o’r erlyniad neu’r amddiffyniad yn cwrdd â chi.

Ystafelloedd aros a threfniadau eistedd

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad, dylai bod ystafell ar wahân lle gallwch aros yn y llys. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi gyfarfod â'r diffynnydd na'i deulu na'i ffrindiau cyn y treial.

Os nad oes ystafell ar wahân, gall y llys gymryd camau eraill i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr amddiffyniad, bydd y llys yn ceisio sicrhau eich bod yn aros mewn man wahanol i bobl eraill sy'n ymwneud â'r achos, os mai dyna rydych yn ei ddymuno.

Mae bygylu (bygwth neu fwlio) tyst yn drosedd. Os bydd unrhyw un yn ceisio eich bygylu, dywedwch wrth eich cyfreithiwr neu swyddog yn y llys, a fydd yn rhoi gwybod i'r heddlu.

Bydd yn rhaid i chi aros nes y cewch eich galw fel tyst. Pan fydd eich angen, bydd y llys yn anfon tywysydd i'ch nôl a'ch tywys i ystafell y llys.

Rhoi tystiolaeth

Cewch eich tywys i flwch y tyst yn ystafell y llys. Yna bydd gofyn i chi dyngu llw i ddweud y gwir. Gallwch dyngu llw ar lyfr sanctaidd, fel y Beibl, neu gallwch 'gadarnhau' (addo dweud y gwir).

Bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad a chyfreithiwr yr erlyniad yn gofyn cwestiynau i chi am y digwyddiadau o'ch safbwynt chi er mwyn gwneud yn siŵr bod y ffeithiau'n gywir.

Dywedwch wrth y llys os na fyddwch yn deall y cwestiwn neu os byddwch yn ansicr am ateb. Gofynnwch am i'r cwestiwn gael ei ailadrodd os byddwch yn ei chael yn anodd clywed y cyfreithiwr.

Pan fyddwch yn ateb:

  • cymerwch eich amser
  • siaradwch yn glir
  • ceisiwch gynnwys pob manylyn

Os oes angen help ychwanegol arnoch i roi tystiolaeth, gall y llys ddarparu 'cyfryngwr'. Rhywun fydd yn egluro'r cwestiynau a gaiff eu gofyn i chi yn y llys yw hwn a bydd yn eich helpu i ymateb.

Os bydd y llys am i chi aros ar ôl i chi orffen rhoi tystiolaeth, bydd yn rhoi gwybod i chi.

Diogelwch arbennig i dystion sy'n agored i niwed neu sydd wedi'u bygylu

Efallai y bydd y llys yn gallu cymryd camau arbennig i ddiogelu tystion sy'n agored i niwed neu sydd wedi'u bygylu yn ystafell y llys, er enghraifft os ydych:

  • o dan 18 oed
  • yn anabl
  • ag ofn rhoi tystiolaeth
  • wedi dioddef trosedd rywiol

Gallai mesurau arbennig gynnwys:

  • sgriniau i'ch atal rhag gorfod gweld yr amddiffynnydd
  • rhoi tystiolaeth drwy gyswllt teledu byw
  • gofyn i'r cyhoedd adael ystafell y llys pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth, os yw'n achos sy'n ymwneud â throsedd rywiol

Os ydych yn credu bod angen diogelwch arbennig arnoch, siaradwch â swyddog yr heddlu, y swyddog gofal tystion neu'r cyfreithiwr a ofynnodd i chi ddod i'r llys.

Ar ôl i chi roi tystiolaeth

Pan fyddwch wedi gorffen rhoi tystiolaeth, weithiau bydd gofyn i chi aros. Os na fydd rhagor o gwestiynau, cewch adael. Mae hyn yn golygu y gallwch fynd adref neu gallwch aros i wrando ar weddill yr achos os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Efallai y bydd gennych hawl i adennill y gost o orfod mynd i'r llys. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr neu swyddog yn y llys am ffurflen.

Adennill y gost o fynd i'r llys

Efallai y gallech adennill y gost o orfod mynd i'r llys. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr neu swyddog yn y llys am ffurflen.

Clywed canlyniad y treial

Os caiff rhywun ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd, bydd yn cael dedfryd gan y llys.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu'n dyst dros yr erlyniad, dylai eich swyddog gofal tystion:

  • ddweud wrthych am y canlyniad o fewn diwrnod i benderfyniad y llys
  • esbonio unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall

Os ydych yn dyst dros yr amddiffyniad, dylai'r unigolyn a ofynnodd i chi ddod i'r llys ddweud wrthych am ganlyniad y treial.

Defnyddiwch y ddolen 'Cael eich dedfrydu gan y llys - trosolwg' i gael mwy o wybodaeth am y cosbau gwahanol y gallai rhywun eu cael.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU