Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych o dan 18 oed ac wedi dioddef trosedd neu'n dyst i drosedd, efallai y gofynnir i chi roi tystiolaeth. Gall ymddangos mewn llys fod yn brofiad brawychus, felly gallwch roi tystiolaeth mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddefnyddio cyswllt fideo neu ar dâp fideo. Mynnwch wybod beth yw'r rhain.
Efallai y gallwch roi tystiolaeth yn breifat, yn ysgrifenedig neu drwy fideo
Rhoddir gofal ychwanegol i bobl ifanc sy'n ymddangos yn y llys. Os ydych o dan 18 oed ac wedi dioddef trosedd, neu wedi bod yn dyst i drosedd, efallai y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys.
Bydd yn rhaid i chi ymddangos ym mlwch y tyst a rhoi tystiolaeth i gyfreithwyr neu'r barnwr yn y llys.
Gall mynd i'r llys fod yn brofiad brawychus, yn arbennig os ydych yn ddioddefwr, felly gallwch roi tystiolaeth:
Dyma rai o'r 'mesurau arbennig' y mae llysoedd yn eu defnyddio gyda thystion sy'n agored i niwed. Ymdrinnir â'r rhain yn fanylach yn yr adran isod.
Pan nad oes yn rhaid i chi ymddangos yn y llys
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd y wybodaeth yn eich datganiad ysgrifenedig neu'ch datganiad wedi'i recordio ar fideo yn ddigon ac ni fydd yn rhaid i chi ymddangos yn y llys o gwbl.
Mae hyn yn digwydd gan amlaf pan fo'r diffynnydd wedi pledio'n euog.
Mae 'mesurau arbennig' ar gael yn y llys ar gyfer dioddefwyr a thystion sydd o dan 18 oed.
Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn gwneud popeth o fewn ei allu i dawelu eich meddwl fel y gallwch roi tystiolaeth heb fod ag ofn.
Gall mesurau arbennig gynnwys:
Os ydych yn teimlo y byddai rhoi tystiolaeth fel hyn yn eich helpu, gallwch siarad ag un o'r canlynol:
Cynhelir y rhan fwyaf o dreialon sy'n cynnwys diffynyddion rhwng deg a dwy ar bymtheg oed yn y llysoedd ieuenctid, sy'n fath arbennig o lys ynadon.
Nid yw llysoedd ieuenctid ar agor i'r cyhoedd, ac mae'r ynadon a'r barnwyr wedi cael hyfforddiant arbennig ar gyfer gwrandawiadau sy'n cynnwys plant a phobl ifanc.
Gall y sefydliadau isod roi help a chyngor i chi os ydych yn berson ifanc a bod yn rhaid i chi ymddangos yn y llys.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)
Mae gan yr NSPCC raglen Cymorth i Dystion Ifanc sy'n cynnig cyngor i blant sy'n ymddangos yn y llys.
Gallwch ei ffonio ar y rhif ffôn rhadffon, 0808 800 5000, sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd.
Efallai y cewch fideo o'r enw 'Giving Evidence - what's it really like?' cyn y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys. Caiff ei gynhyrchu gan yr NSPCC.
Nod y fideo yw eich helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth.
Cymorth i Ddioddefwyr
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr, tystion a'u teuluoedd.