Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Riportio trosedd

If you've been the victim of a crime Os ydych chi wedi dioddef trosedd neu'n meddwl eich bod chi wedi gweld trosedd yn digwydd, dylech ei riportio i'r heddlu ar unwaith. Gall eich gwybodaeth chi gael ei defnyddio i atal troseddau eraill rhag digwydd ac i ddiogelu pobl eraill. Yma, cewch wybod am y ffyrdd gwahanol o riportio trosedd.

Ffonio 999

Os ydych chi wedi cael eich mygio, os oes rhywun wedi eich brifo yn ddrwg neu wedi ymosod arnoch mewn unrhyw ffordd, neu os ydych chi newydd weld trosedd difrifol yn digwydd, dylech ffonio 999 cyn gynted ag y bo modd.

Dylai eich galwad gael ei ateb o fewn 10 eiliad. Bydd aelod hyfforddedig o’r staff yn gofyn i chi ddisgrifio beth sydd wedi digwydd a dweud lle rydych chi. Mae’n bosib y byddant yn gofyn a oes arnoch angen unrhyw wasanaeth brys arall, megis ambiwlans.

Os yw’r sefyllfa yn un o argyfwng, bydd plismon yn dod yno i siarad â chi. Bydd yn gofyn i chi esbonio beth sydd wedi digwydd, a gall eich helpu chi i benderfynu beth i’w wneud nesaf.

Riportio troseddau nad ydynt yn argyfyngau

Os oes arnoch eisiau riportio mân drosedd, er enghraifft, os yw'ch ffôn symudol wedi cael ei ddwyn, dylech fynd i'ch gorsaf heddlu leol i'w riportio, neu ffonio eich heddlu lleol.

Wrth beidio â defnyddio 999 ar gyfer mân droseddau, rydych chi’n sicrhau bod yr heddlu bob amser ar gael i bobl sydd mewn sefyllfaoedd argyfyngus.

Gall troseddau nad ydynt yn argyfyngau gynnwys:

  • fandaliaeth
  • graffiti
  • ceir wedi’u gadael
  • lladrad pocedi

Rhoi datganiad

Os byddwch chi'n riportio argyfwng neu ddigwyddiad o fath arall, bydd rhaid i chi roi datganiad i'r heddlu. Golyga hyn y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth blismon beth ddigwyddodd i chi neu beth welsoch chi.

Mae’n bosib y bydd y plismon yn gofyn cwestiynau i chi neu'n gofyn i chi ailadrodd eich hun i sicrhau bod y datganiad mor gywir ac mor fanwl ag y bo modd.

Pan fyddwch wedi gorffen rhoi datganiad, bydd yr heddlu fel arfer yn ei ddarllen i chi er mwyn sicrhau bod yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu ganddyn nhw yn cyfateb i'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.

Os byddwch chi'n cytuno, byddwch yn llofnodi'r datganiad ac yn cael cyfeirnod y trosedd. Os bydd arnoch eisiau cysylltu â'r heddlu am yr un digwyddiad yn y dyfodol, bydd angen i chi gadw'r cyfeirnod hwn mewn man diogel.

Os ydych chi wedi dioddef lladrad, bydd angen i chi ddefnyddio'r cyfeirnod hwn hefyd pan fyddwch chi'n dweud wrth eich cwmni yswiriant.

Sut i riportio trosedd yn ddienw

Os oes arnoch eisiau riportio trosedd, ond nad oes arnoch eisiau i'r heddlu wybod pwy ydych chi, ffoniwch Taclo'r Taclau.

Bydd staff Taclo’r Taclau yn cofnodi eich gwybodaeth ac yn ei throsglwyddo i’r Heddlu fel y gellir ei defnyddio i ddatrys y trosedd.

Ni ddilynir trywydd eich galwad o gwbl, ac ni fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys na rhoi datganiad llawn, dim ots pa mor ddefnyddiol yw’r wybodaeth yn y pen draw.

Gallwch ffonio Taclo'r Taclau unrhyw bryd ar 0800 555 111.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU