Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mechnïaeth a remánd i bobl ifanc

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, efallai na fyddwch yn mynd i'r llys ar unwaith. Tra byddwch yn aros, cewch eich 'rhoi ar remánd'. Mae hyn yn golygu y byddwch naill ai'n cael mynd adref - ar 'fechnïaeth' - neu'n cael eich cadw dan glo. Mynnwch wybod beth mae bod ar remánd yn ei olygu.

Beth yw 'mechnïaeth'

Os oes rhaid i chi ymddangos yn y llys cewch wybod ble, a byddwch yn cael dyddiad ac amser penodol i fod yno. Yn y cyfamser gall yr heddlu adael i chi fynd adref, a byddant yn disgwyl i chi fynd i'r gwrandawiad llys. Dyma beth yw cael eich rhyddhau a chael eich 'remandio ar fechnïaeth'.

Beth yw mechnïaeth amodol neu fechnïaeth wedi'i goruchwylio?

Cewch ddogfen o'r enw Hysbysiad o Fechnïaeth sy'n egluro'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud

Os yw'r heddlu o'r farn bod risg na fyddwch yn mynd i'r llys, gallant eich rhyddhau ond

o dan rai amodau. Dyma beth yw mechnïaeth amodol, neu fechnïaeth wedi'i goruchwylio.

Cewch ddogfen o'r enw Hysbysiad o Fechnïaeth. Mae'n dweud wrthych beth y gallwch ac na allwch ei wneud, felly sicrhewch eich bod yn deall popeth yn y ddogfen.

Gall yr amodau nodi bod yn rhaid i chi fynd i orsaf yr heddlu yn rheolaidd. Neu gallant fod yn fwy heriol, a bydd y tîm troseddau ieuenctid yn monitro eich ymddygiad. Os yw'r heddlu o'r farn ei bod yn bosibl y byddwch yn cyflawni trosedd arall, gallant eich rhoi ar raglen fonitro a all gynnwys tagio electronig.

Mynnwch fwy o wybodaeth am dagio electronig drwy ddilyn y ddolen 'Pobl ifanc: beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn bwrw dedfryd gymunedol' isod.

Beth yw remandio yn y ddalfa?

Remandio yn y ddalfa yw pan fyddwch yn cael eich cadw dan glo hyd nes eich dyddiad yn y llys, yn hytrach na gadael i chi fynd adref.

Ni fyddwch yn cael eich anfon i garchar ar gyfer oedolion, ond i ganolfan ddiogel i bobl ifanc.

Gall y llys eich remandio yn y ddalfa os ydych eisoes wedi cyflawni llawer o droseddau, neu os yw'r drosedd rydych wedi cael eich cyhuddo ohoni yn ddifrifol iawn. Bydd y tîm troseddau ieuenctid yn cadw mewn cysylltiad â chi tra byddwch ar remánd yn y ddalfa.

Os oes rhaid i chi ymddangos yn y llys fwy nag unwaith

Gallwch hefyd gael eich remandio ar fechnïaeth neu yn y ddalfa ar ôl i chi ymddangos yn y llys. Mae hyn yn digwydd gan na fydd y llys bob amser yn gallu delio â'ch achos yn y gwrandawiad cyntaf.

Efallai y bydd angen iddo gasglu mwy o wybodaeth, neu efallai y bydd angen i gyfreithiwr yr amddiffyniad baratoi achos yr amddiffyniad. Dyma pam efallai y bydd angen i'r llys 'ohirio' achos (ei symud i ddyddiad arall). Fodd bynnag, hyd yn oed yn yr achosion hyn, dewis olaf y llys fydd eich remandio yn y ddalfa fel arfer.

Gallwch hefyd gael eich remandio os ydych wedi'ch dyfarnu'n euog a bod yn rhaid i chi aros i gael eich dedfrydu.

Y cyngor lleol yn gofalu amdanoch

Efallai y bydd y llys yn penderfynu bod yn rhaid i'r cyngor lleol ofalu amdanoch. Dyma fath arall o remandio yn y ddalfa. Gall y llys ddweud wrth y cyngor lleol bod yn rhaid iddo wneud pethau penodol, fel rhoi math penodol o dŷ i chi. Weithiau, gall hyn gynnwys cael eich cadw mewn canolfan ddiogel a gaiff ei rhedeg gan y cyngor. Fodd bynnag, ni all y cyngor eich anfon i ganolfan ddiogel oni fydd y llys yn caniatáu iddo wneud hynny.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU