Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd timau troseddau ieuenctid yn eich helpu os byddwch yn mynd i drafferth gyda'r heddlu. Byddant yn ystyried eich problemau cefndirol ac yn helpu i roi'ch bywyd nôl ar y trywydd iawn. Mynnwch wybod beth mae timau troseddau ieuenctid yn ei wneud a sut y gallant eich helpu.
Os byddwch yn mynd i drafferth gyda'r heddlu, bydd eich tîm troseddau ieuenctid lleol yno i'ch cefnogi a'ch goruchwylio.
Bydd hefyd yn helpu eich teulu, os bydd angen. Bydd yn gwneud hyn mewn ffyrdd gwahanol, a gall gysylltu â chi os:
Fel arfer bydd gweithiwr achos yn y tîm troseddau ieuenctid fel mai dim ond gydag un person y byddwch chi a'ch teulu yn delio.
Mae timau troseddau ieuenctid yn rhan o'r cyngor lleol
Pwy yw timau troseddau ieuenctid
Mae timau troseddau ieuenctid yn rhan o'r cyngor lleol ac ar wahân i'r heddlu a'r llysoedd.
Maent yn gweithio gyda:
Un o'r pethau cyntaf y bydd tîm troseddau ieuenctid yn ei wneud fydd rhoi asesiad i chi.
Bydd yn ystyried eich cefndir i weld a oes unrhyw broblemau sy'n achosi i chi fynd i drafferth, fel:
Bydd y tîm yn siarad â chi, eich teulu ac unrhyw un sy'n gofalu amdanoch - fel gwasanaethau cymdeithasol neu'ch ysgol. Defnyddir yr asesiad hwn i sicrhau y delir ag unrhyw broblemau sydd gennych. Er enghraifft, os oes gennych unrhyw broblemau iechyd, bydd y tîm yn cysylltu â gwasanaethau iechyd lleol i sicrhau eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch.
Bydd timau troseddau ieuenctid weithiau'n cysylltu â chi os bydd yn edrych fel pe gallech fynd i drafferth gyda'r heddlu.
Er enghraifft, efallai eich bod yn cymryd cyffuriau neu'n yfed pan ddylech fod yn yr ysgol. Hyd yn oed os na chewch eich arestio, gallai ymddwyn fel hyn olygu y gallech ddechrau troseddu.
Yn yr achosion hyn, gall y tîm roi help i chi roi'r gorau i gyflawni troseddau.
Er enghraifft, efallai eich bod yn methu'r ysgol yn fwriadol gan eich bod yn meddwl bod y gwersi'n anodd, neu am fod gennych gydberthynas wael â rhywun yno.
Gall y tîm troseddau ieuenctid ddarparu mentor i chi i'ch helpu gyda'ch gwersi neu siarad am broblemau yn yr ysgol.
Os cewch eich arestio, fel arfer bydd yr heddlu yn ffonio rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid lleol.
Ni all roi cyngor cyfreithiol i chi, ond gall eich cefnogi chi a'ch teulu drwy ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd a beth fydd yn digwydd nesaf.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen 'Os caiff person ifanc ei anfon i orsaf heddlu' isod. Fel arfer, dyma pryd y bydd y tîm troseddau ieuenctid yn cysylltu â chi am y tro cyntaf os byddwch yn mynd i drafferth gyda'r heddlu.
Os cewch eich cyhuddo o drosedd, bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys. Efallai y bydd y tîm troseddau ieuenctid yn llunio adroddiad i'r llys, sef 'adroddiad cyn dedfrydu'. Bydd y llys yn defnyddio'r adroddiad hwn i'w helpu i wneud penderfyniad am y ddedfryd. Efallai y bydd y tîm hefyd yn eich cefnogi chi a'ch teulu drwy gydol y broses o fynd i'r llys.
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, efallai y bydd y llys yn rhoi dedfryd gymunedol i chi.
Gall dedfrydau cymunedol gynnwys gwaith fel glanhau graffiti neu wneud iawn am yr hyn rydych wedi'i wneud.
Fel arfer bydd y tîm troseddau ieuenctid yn eich goruchwylio os cewch ddedfryd gymunedol. Mae hyn yn golygu y bydd yn sicrhau eich bod yn dilyn y rheolau a bennir yn eich dedfryd.
Gallai hyn gynnwys cyfarfod â chi'n rheolaidd i weld sut rydych yn ymddwyn. I gael mwy o wybodaeth am gael eich goruchwylio, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc: beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn bwrw dedfryd gymunedol' isod.
Os bydd y llys yn eich anfon i'r ddalfa, mae'n golygu y cewch eich rhoi dan glo. I gael gwybod sut beth fydd hyn, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc a'r ddalfa' isod.
Pan fyddwch yn y ddalfa, bydd y tîm troseddau ieuenctid yn cysylltu â chi'n rheolaidd.
Bydd yn gweithio gyda chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd normal pan fyddwch yn gadael y ddalfa. Gallai hyn olygu sicrhau bod gennych rywle diogel i fyw, neu y gallwch ddychwelyd i addysg.