Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn atal eich plentyn rhag mynd i drafferth gyda'r heddlu, mae'n bwysig deall y rhesymau pam bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn troseddu yn y lle cyntaf.
Rhieni person ifanc yw eu modelau rôl pwysicaf
Gall plentyn droseddu am lawer o resymau, ond dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin:
Efallai mai'r peth pwysicaf i'w gofio yw bod rhieni person ifanc yw'r modelau rôl cyntaf a phwysicaf y bydd yn eu cael yn ei fywyd. Os bydd rhieni plentyn yn gosod esiampl dda o ran ymddygiad ac yn parchu eraill, mae'n fwy tebygol y bydd y plentyn yn gwneud yr un peth.
Nid dim ond rhieni sy'n gallu gosod esiampl dda. Mae unrhyw un arall y mae plant a phobl ifanc yn teimlo cysylltiad â nhw yn gallu dylanwadu arnynt. Felly gall pobl fel athrawon, aelodau eraill o'r teulu fel ewythrod, modrybedd neu neiniau a theidiau, a hyd yn oed bobl adnabyddus yn y gymuned gael effaith arnynt. Ceisiwch feddwl am bobl â gwerthoedd moesol sy'n parchu eraill, ac anogwch eich plentyn i dreulio amser gyda nhw ac ymddwyn fel nhw.
Yn ôl ymchwil, mae'r rhan fwyaf o droseddau y mae pobl ifanc yn eu cyflawni yn digwydd rhwng 3.00 pm a 6.00 pm. Gall bod yn anodd ceisio atal eich plentyn rhag cymdeithasu â ffrindiau ar ôl yr ysgol, ond dylech wybod pryd y maent yn debygol o droseddu.
Mae help a chyngor ymarferol ar gael i rieni y mae eu plant mewn perygl o droseddu. Mae rhaglenni rhianta yn cynnig cyngor a chymorth un-i-un, ac yn helpu rhieni i wella eu sgiliau wrth ymdrin â phroblemau o ran ymddygiad. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen rianta, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Os yw eich plentyn mewn perygl o droseddu, efallai y bydd eich Tîm Troseddau Ieuenctid yn awgrymu y dylech gymryd rhan mewn rhaglen rianta. Os byddwch yn gwrthod, efallai y bydd yn eich gorfodi i gymryd rhan drwy gyflwyno Gorchymyn Rhianta.
Os ydych yn destun Gorchymyn Rhianta, efallai y bydd yn rhaid i chi gael sesiynau cwnsela neu gymryd rhan mewn rhaglen rianta am hyd at dri mis.
Gellir erlyn rhiant neu ofalwr am fethu â chyflawni amodau Gorchymyn Rhianta.
Gweler 'Beth all ddigwydd i chi os bydd eich plentyn yn mynd i drafferth' am fwy o wybodaeth am Orchmynion Rhianta.
Mae mentor yn wirfoddolwr sy'n cymell ac yn cefnogi person ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Mae mentoriaid yn meithrin cydberthynas â phobl ifanc ar sail ymddiriedaeth a chyfrinachedd dros gyfnod hir o amser. Caiff pobl ifanc eu hannog hefyd i weld eu mentor fel person cydradd. Dros amser, gall mentoriaid helpu pobl ifanc i gyflawni nodau cymdeithasol ac addysgol y maent wedi'u pennu gyda'i gilydd, a lleihau'r risg o droseddu.
Am fwy o wybodaeth am fentoriaid, cysylltwch â'ch cyngor lleol.