Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pobl ifanc: mynd i'r llys ar ôl cael eich cyhuddo o drosedd

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, bydd yn rhaid i chi fynd i lys ieuenctid, sy'n llai ffurfiol na llys oedolion. Bydd y llys yn penderfynu a ydych yn euog neu'n ddieuog ac yn penderfynu ar ddedfryd. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd mewn llys ieuenctid.

Os oes rhaid i chi ymddangos mewn llys

Mae'n rhaid i chi fynd i'r llys pan ofynnir i chi wneud hynny neu byddwch mewn trafferth ddifrifol

Os cewch eich cyhuddo o drosedd a bod yn rhaid i chi fynd i'r llys, bydd eich rhieni yn cael 'gwŷs'.

Mae hon yn ddogfen ffurfiol sy'n rhoi'r dyddiad a'r amser y mae'n rhaid i chi fod yno. Mae'n rhaid i chi fynd i'r llys pan ofynnir i chi wneud hynny. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch mewn trafferth ddifrifol ac anfonir yr heddlu i ddod i chwilio amdanoch.

Os na allwch fynd i'r llys am unrhyw reswm, mae'n rhaid i chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, ddweud wrth y llys cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae’r systemau llys ar gyfer pobl ifanc yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.

Cyn i chi fynd i'r llys

Os oes rhaid i chi aros am eich ymddangosiad yn y llys, bydd yr heddlu wedi gwneud un o'r canlynol:

  • gadael i chi fynd adref ar 'fechnïaeth'
  • eich cadw yn y ddalfa

Penderfynu a ddylid cyfaddef neu wadu'r drosedd

Bydd angen i chi benderfynu p'un a fyddwch yn cyfaddef i chi wneud yr hyn rydych wedi'ch cyhuddo o'i wneud ai peidio, sef eich 'ple'. Mewn llysoedd ieuenctid, eich ple fydd 'gwadu' neu 'gyfaddef' y drosedd.

Efallai y byddwch chi neu'ch rhieni am gael cyngor gan gyfreithiwr cyn i chi benderfynu.

Gwrandawiadau llysoedd ieuenctid - beth fydd yn digwydd

Mae llys ieuenctid yn llai ffurfiol na llys ynadon neu Lys y Goron ar gyfer oedolion. Ni chaniateir aelodau'r cyhoedd yn y llys.

Pan fyddwch yn cyrraedd y llys, mae'n rhaid bod rhiant neu warcheidwad a chyfreithiwr yr amddiffyniad (os oes gennych un) yno gyda chi. Bydd rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid lleol yno gyda chi hefyd.

Bydd tywysydd llys yn eich galw i mewn i'r llys ar adeg eich achos. Bydd cynghorydd cyfreithiol y llys yn darllen y drosedd rydych wedi cael eich cyhuddo ohoni. Yna gofynnir i chi a ydych am gyfaddef neu wadu'r cyhuddiad - dyma eich 'ple'.

Fel arfer bydd tri ynad yn gwrando eich achos, ond weithiau bydd barnwr rhanbarth yn gwneud hyn yn eu lle.

Bydd yr ynadon neu'r barnwr yn:

  • gwrando ar yr holl dystiolaeth
  • penderfynu p'un a ydych yn euog neu'n ddieuog (nid oes rheithgor)
  • os ydych yn euog, penderfynu pa ddedfryd i'w rhoi i chi

Ar gyfer troseddau difrifol, efallai y bydd y llys ieuenctid yn penderfynu bod yn rhaid i'r achos fynd i Lys y Goron. Os bydd hyn yn digwydd, pennir dyddiad newydd ar gyfer eich achos. Yn y cyfamser, cewch eich rhoi ar 'remánd', a byddwch naill ai'n cael mynd adref (ar 'fechnïaeth') neu'n cael eich cadw yn y ddalfa.

Os byddwch yn cyfaddef y drosedd

Os byddwch yn cyfaddef i chi gyflawni'r drosedd, bydd y llys yn delio â'ch achos yn gyflym.

Darllenir y dystiolaeth yn eich erbyn yn uchel. Os bydd y llys yn cytuno eich bod yn euog, bydd yn penderfynu pa ddedfryd i'w rhoi i chi. Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar lawer o bethau gwahanol.

Mae'r dolenni isod yn rhoi mwy o wybodaeth am sut y penderfynir ar ddedfrydau, a beth yw'r dedfrydau.

Os byddwch yn gwadu'r drosedd

Bydd y llys yn gofyn am dystiolaeth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Bydd cyfreithiwr yr erlyniad - yr unigolyn sy'n ceisio profi i chi gyflawni'r drosedd - yn cyflwyno'r dystiolaeth.

Efallai y gelwir ar rai tystion i ddweud wrth y llys beth rydych wedi'i wneud, a bydd y cyfreithiwr yr erlyniad yn gofyn cwestiynau iddynt. Yna bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn gofyn cwestiynau i gadarnhau bod y tystion yn sicr o'u ffeithiau.

Wedi hyn, bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn galw unrhyw dystion ar eich cyfer. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ateb cwestiynau gan eich cyfreithiwr, yr ynadon neu'r barnwyr, a chyfreithiwr yr erlyniad.

Pan fyddant wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth gan y ddwy ochr, bydd yr ynadon neu'r barnwyr yn penderfynu a ydych yn euog neu'n ddieuog.

Weithiau caiff eich achos ei ohirio fel y gall cyfreithiwr yr erlyniad a chyfreithiwr yr amddiffyniad gasglu tystiolaeth a thystion. Os bydd hyn yn digwydd, cewch eich rhoi 'ar remánd'. Gallai hyn olygu y gallwch fynd adref ar fechnïaeth, neu y cewch eich cadw yn y ddalfa.

Os cewch eich dyfarnu'n ddieuog

Os bydd y llys yn penderfynu eich bod yn ddieuog, byddwch yn rhydd i fynd, sef y byddwch yn cael eich 'rhyddfarnu', fel y'i gelwir weithiau.

Os cewch eich dyfarnu'n euog

Os cewch eich dyfarnu'n euog, bydd angen i'r llys benderfynu pa fath o ddedfryd i'w rhoi.

Gallwch naill ai gael dedfryd gymunedol, neu ddedfryd y byddwch yn ei bwrw yn y ddalfa.

Bydd y math o ddedfryd a gewch yn dibynnu ar lawer o bethau gwahanol. Mae'r dolenni isod yn rhoi mwy o fanylion am sut y bydd llys yn penderfynu pa ddedfryd i'w rhoi, a beth yw'r dedfrydau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU