Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd ddifrifol, neu os ydych wedi cyflawni llawer o droseddau o'r blaen, gellid rhoi dedfryd o gyfnod yn y ddalfa i chi. Mynnwch wybod am y gwahanol fathau o ddedfrydau yn y ddalfa y gall y llys eu rhoi i chi.
Os ydych o dan 18 oed ac yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, gallech gael dedfryd sy'n golygu y cewch eich rhoi dan glo - dedfryd 'yn y ddalfa'. Gall y llys roi'r math hwn o ddedfryd:
Rhestrir y mathau gwahanol o ddedfrydau yn y ddalfa yn yr adrannau isod.
Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd lai difrifol, neu eich trosedd gyntaf, efallai y cewch ddedfryd gymunedol.
I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen 'Dedfrydau cymunedol ar gyfer pobl ifanc' isod.
Byddwch yn cwblhau cyrsiau hyfforddi neu addysg i wella eich sgiliau
Gellir rhoi Gorchymyn Cadw a Hyfforddiant i chi os ydych rhwng 12 a 17 oed. Gall hyd y ddedfryd fod rhwng pedwar mis a dwy flynedd.
Os rhoddir Gorchymyn Cadw a Hyfforddiant i chi, byddwch yn bwrw'r ddedfryd mewn dwy ran:
Felly er enghraifft, os rhoddir Gorchymyn Cadw a Hyfforddiant i chi am flwyddyn, byddwch yn:
Beth fydd yn digwydd yn ystod eich dedfryd
Rhoddir cynllun manwl i chi am yr hyn fydd yn digwydd yn ystod eich dedfryd, a beth fydd yn rhaid i chi ei wneud. Gelwir hwn yn Gynllun Hyfforddiant a Goruchwyliaeth.
Yn ystod eich amser yn y ddalfa, byddwch yn cwblhau cyrsiau hyfforddi neu addysg i wella eich sgiliau. Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau rhaglenni sy'n eich helpu i wella eich ymddygiad hefyd. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc a'r ddalfa' isod.
Yn ystod y rhan o'r ddedfryd yn y gymuned, cewch eich goruchwylio gan y tîm troseddau ieuenctid lleol. I gael gwybod beth mae cael eich goruchwylio yn ei olygu, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc: beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn bwrw dedfryd gymunedol' isod.
Mae rhai dedfrydau y gallwch eu cael am y troseddau mwyaf difrifol, fel llofruddiaeth neu drais rhywiol. Dim ond Llys y Goron all rhoi'r rhain.
Dedfrydau ar gyfer llofruddiaeth
Os cewch eich dyfarnu'n euog o lofruddiaeth, rhoddir dedfryd 'Adran 90' i chi.
Bydd y llys yn pennu'r cyfnod gofynnol y byddwch yn ei dreulio yn y ddalfa, ac ni fyddwch yn gallu gwneud cais am barôl cyn diwedd y cyfnod hwn.
Dim ond pan fo'r Bwrdd Parôl o'r farn nad oes risg fawr y byddwch yn cyflawni trosedd arall y cewch eich rhyddhau.
Pan gewch eich rhyddhau, cewch eich cadw dan oruchwyliaeth am weddill eich oes.
Dedfrydau ar gyfer troseddau difrifol eraill
Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd ddifrifol nad yw'n llofruddiaeth, gallech gael dedfryd 'Adran 91'.
Os bydd y llys yn rhoi'r ddedfryd hon i chi, byddwch yn treulio'r cyfnod cyfan yn y ddalfa.
Bydd y llys yn penderfynu pa mor hir fydd y ddedfryd. Gallai fod yn unrhyw beth hyd at yr uchafswm ar gyfer oedolion am yr un drosedd. Mae hyn yn golygu os gall oedolyn gael pum mlynedd am yr un drosedd, ni all y llys eich dedfrydu am fwy na phum mlynedd.
Fodd bynnag, weithiau gall hyd y ddedfryd fod am oes.
Dedfrydau ar gyfer troseddau treisgar neu rywiol
Ar gyfer troseddau difrifol iawn - rhai treisgar neu rywiol fel arfer - gellir rhoi dedfryd 'Adran 226' neu 'Adran 228' i chi hefyd. Gallwch hefyd gael y dedfrydau hyn os bydd y llys yn penderfynu bod angen diogelu'r cyhoedd.
Gelwir y rhain yn 'ddedfrydau estynedig' a gallent olygu eich bod yn treulio cyfnod hir yn y ddalfa.
Hyd yn oed pan gewch eich rhyddhau, byddwch dan oruchwyliaeth fanwl am gyfnod hir.
Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim ar ddedfrydu a'r ddalfa gan y sefydliadau a restrir isod.