Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae gwrandawiadau'r Bwrdd Parôl yn gweithio

Mae'r Bwrdd Parôl yn gorff annibynnol sy'n penderfynu pryd y dylid rhyddhau carcharorion penodol o'r carchar. Mae'r Bwrdd hefyd yn adolygu achosion carcharorion sy'n dychwelyd i'r carchar ar ôl mynd yn groes i'r amodau dros eu rhyddhau. Cael gwybod sut y caiff rhywun ei ystyried ar gyfer parôl a sut mae gwrandawiadau'r Bwrdd Parôl yn gweithio.

Pa ddedfrydau o garchar y mae Bwrdd Parôl yn eu hadolygu

Nid yw'r Bwrdd Parôl yn adolygu achosion pob carcharor sy'n gymwys i gael ei ryddhau.

Bydd Bwrdd Parôl ond yn adolygu achos:

  • os oes gan y carcharor ddedfryd amhenodol (tymor amhenodol)
  • os oes gan y carcharor ddedfryd benodol (tymor penodol) o fwy na pedair blynedd, a roddwyd am drosedd dreisgar neu rywiol ddifrifol a gyflawnwyd cyn 4 Ebrill 2005
  • os yw'r carcharor wedi'i ailalw (ei anfon yn ôl) i'r carchar am gyflawni trosedd arall neu dorri amodau'r drwydded yn ystod ei gyfnod ar brawf

Gweler 'Mathau o ddedfrydau o garchar' a 'Beth fydd yn digwydd os byddwch yn torri rheolau eich cyfnod ar brawf' i gael rhagor o wybodaeth.

Cael gwrandawiad gerbron Bwrdd Parôl

Bydd rhai carcharorion yn cael gwrandawiad parôl yn awtomatig

Yn dibynnu ar ei ddedfryd:

  • bydd y carcharor yn cael ei gyfeirio at y Bwrdd Parôl ar adeg benodol
  • bydd yn rhaid i'r carcharor 'wneud cais' am barôl

Gall carcharor ofyn i oruchwylydd troseddwyr ei garchar neu ei gyfreithiwr os nad yw'n siŵr pryd y gall wneud cais am barôl.

Gweler 'Pryd y gall carcharor fod yn gymwys i gael ei ryddhau o'r carchar' i gael gwybodaeth o ran pryd y gall carcharor adael y carchar o bosibl.

Pa wybodaeth y mae'r Bwrdd Parôl yn ei hystyried

Mae'r carchar yn llunio ffeil ar gyfnod y carcharor yn y carchar a'r cynlluniau ar gyfer ei ryddhau, yn ogystal â manylion fel:

  • ei hanes troseddu
  • ei ymddygiad yn y carchar
  • unrhyw gyrsiau a gwblhawyd ganddo
  • asesiadau seicolegol
  • datganiadau gan ddioddefwyr neu ddatganiadau personol

Pan fydd y ffeil yn barod, bydd y carcharor yn cael cyfle i'w darllen ac ychwanegu unrhyw beth yn ysgrifenedig. Gall gael cyfreithiwr i'w helpu â hyn.

Sut mae'r Bwrdd Parôl yn adolygu achos y carcharor

Os yw'r carcharor yn gwneud cais i gael ei ryddhau o'r carchar, bydd tri aelod o'r Bwrdd Parôl yn cyfarfod i adolygu ei achos. Fel arfer, ni ofynnir i'r carcharor fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

Bydd y Bwrdd Parôl yn trafod a fyddai'r carcharor yn peri risg i'r cyhoedd, neu'n debygol o gyflawni mwy o droseddau, os caiff ei ryddhau.

Yna anfonir copi o'r penderfyniad i'r carcharor.

Os yw'r carcharor yn gwneud cais i gael ei ryddhau ar drwydded bywyd, mae'n debygol y caiff ei achos ei ystyried mewn gwrandawiad gerbron Bwrdd Parôl.

Beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad gerbron Bwrdd Parôl

Gofynnir i garcharorion siarad yn eu gwrandawiadau gerbron bwrdd parôl

Bydd barnwr neu aelod annibynnol o'r Bwrdd Parôl yn cadeirio'r gwrandawiad gyda dau aelod arall o'r bwrdd.

Gallai pobl eraill fod yn y gwrandawiad, megis:

  • cyfreithiwr y carcharor
  • rheolwr troseddwyr y carcharor
  • seicolegydd carchar y carcharor

Gallai'r dioddefwr (neu un o'i berthnasau) fod yn bresennol ar ddechrau'r gwrandawiad i ddarllen 'datganiad personol y dioddefwr'. Mae hwn yn ddatganiad ynghylch sut mae'r drosedd wedi effeithio arno, ac os yw am i'r carcharor gael ei ryddhau o dan amodau penodol.

Hefyd, gofynnir i'r carcharor siarad yn y gwrandawiad a gofynnir iddo pam ei fod yn addas i gael ei ryddhau, yn ei farn ef.

Yna bydd y Bwrdd Parôl yn ysgrifennu at y carcharor gyda'i benderfyniad.

Beth fydd yn digwydd os caiff y carcharor ei ryddhau

Os caiff y carcharor ei ryddhau, caiff ei oruchwylio gan reolwr troseddwyr a bydd yn rhaid iddo ddilyn amodau penodol.

Gall yr amodau hyn gynnwys:

  • cydymffurfio â chyrffyw (gorfod bod gartref ar adegau penodol)
  • monitro neu 'dagio' electronig
  • gorchmynion gwahardd (gwaharddiad rhag mynd i leoliad penodol)

Bydd y carcharor yn cael cyfarfodydd rheolaidd â'i reolwr troseddwyr i sicrhau ei fod yn bodloni'r amodau dros ei ryddhau. Os bydd yn torri'r amodau, gall gael ei 'ailalw' (ei anfon yn ôl) i'r carchar.

Beth fydd yn digwydd os caiff y carcharor ei ailalw i'r carchar

Unwaith y caiff y carcharor ei ryddhau o'r carchar, gall gael ei ailalw o hyd os bydd yn cyflawni trosedd arall neu'n torri amodau ei drwydded.

Ar ôl iddo gael ei ailalw, gofynnir i'r Bwrdd Parôl adolygu ei achos.

Beth fydd yn digwydd os na chaiff y carcharor ei ryddhau

Os na chaiff y carcharor ei ryddhau, caiff ei achos ei adolygu eto o fewn blwyddyn neu ddwy, neu'n gynt na hynny os yw ei ddedfryd yn un fer.

Bydd y Bwrdd Parôl ond yn penderfynu rhyddhau'r carcharor os yw o'r farn nad yw'n peri risg i'r cyhoedd.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU