Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd rhywun yn cyrraedd y carchar, caiff nifer o archwiliadau eu cynnal. Mae'r rhain yn cadarnhau manylion personol yr unigolyn, yn archwilio ei iechyd ac yn sicrhau ei fod yn deall rheolau a rheoliadau'r carchar. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn cyrraedd y carchar i fwrw ei ddedfryd neu i aros am ei dreial.
Rhoddir rhif carcharor i garcharorion pan fyddant yn cyrraedd gyntaf. Mae'r rhif yn helpu staff y carchar i gadw trefn ar ffeiliau carchar yr unigolyn ac unrhyw eiddo personol, fel dillad.
Mae rhif y carcharor yn aros yr un peth - hyd yn oed os bydd y carcharor yn symud i garchar arall.
Pan fydd carcharor yn cyrraedd y carchar gyntaf, caiff ei eiddo ei gofnodi a'i roi mewn man diogel. Efallai y bydd carcharorion yn gallu cadw rhai o'u heitemau, ond caiff yr eitemau eraill eu dychwelyd pan fyddant yn gadael y carchar.
Mae pob carcharor yn cael archwiliad iechyd pan fydd yn cyrraedd
Mae pob carcharor yn cael archwiliad sylfaenol pan fydd yn cyrraedd gyntaf. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn sicrhau:
Mae'r archwiliad iechyd hefyd yn edrych ar unrhyw gyflwr iechyd meddwl a all fod gan y carcharor.
Pan fydd carcharor yn cyrraedd, caiff gyfweliad ag aelod o staff y carchar.
Mae'r cyfweliad cychwynnol yn rhoi cyfle arall i'r carcharor siarad am unrhyw broblemau a all fod ganddo - fel dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Efallai y bydd staff yna'n gallu helpu i ddelio â'r problemau hyn yn ystod cyfnod y carcharor yn y carchar.
Gall carcharorion ofyn am gopi o'r 'Llyfr Gwybodaeth i Garcharorion' pan fyddant yn cyrraedd y carchar. Mae'r llawlyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth am fywyd yn y carchar a hawlio'r unigolyn tra ei fod yno.
Mae'r carcharor hefyd yn cael 'sesiwn sefydlu' i'w gyflwyno i fywyd fel carcharor. Mae'n esbonio sut mae'r carchar yn gweithio ac yn helpu'r carcharor i feddwl am sut mae am ddefnyddio ei amser yn y carchar.
Os bydd carcharor am ddysgu sgil tra ei fod yn y carchar, mae'n gallu dweud wrth staff y carchar yn ystod ei sesiwn sefydlu.
Caiff cynllun ei lunio ar gyfer y rhan fwyaf o garcharorion ar ddechrau eu dedfryd sy'n nodi nodau penodol.
Gallai'r rhain fod at ddiben:
Rhaglenni Ymddygiad Troseddwyr
Gall carcharor fod yn rhan o un neu fwy o 'Raglenni Ymddygiad Troseddwyr' tra ei fod yn y carchar. Nod y rhaglenni yw newid y ffordd y mae'r carcharor yn meddwl am faterion penodol, ac maent yn cynnwys:
Bydd rhaglenni sy'n delio â'u hymddygiad ar gael i unigolion sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol (er enghraifft trosedd dreisgar neu rywiol).
Gall cyrraedd y carchar fod yn brofiad anodd. Os bydd gan garcharor bryderon neu broblemau pan fydd yn cyrraedd, gall siarad â rhywun.
Mae pobl ar gael yn y carchar sy'n gallu rhoi cymorth i garcharorion, gan gynnwys:
Mae carcharor hefyd yn gallu siarad â rhywun yn y carchar sydd wedi cael ei hyfforddi gan y Samariaid. Gelwir y sesiynau siarad hyn yn 'Cynlluniau Gwrando'.