Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help i garcharorion sydd â chyflwr iechyd meddwl

Os oes gennych ffrind neu aelod o'r teulu sydd yn y carchar ac sydd â chyflwr iechyd meddwl, mae help ar gael iddo. Mynnwch wybod pa help y gall y carchar ei roi os ydych yn poeni am rywun rydych yn ei adnabod - a sut i gysylltu â'r carchar.

Gofal iechyd meddwl yn y carchar

Gall carcharorion gael gwiriad iechyd meddwl yn y carchar

Pan fydd carcharorion yn cyrraedd y carchar gyntaf, gofynnir iddynt am eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl. Maent yn cael y cyfle i ddweud wrth dîm gofal iechyd y carchar ar unwaith pa gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae'r canlynol ymhlith y cwestiynau y gofynnir iddynt:

  • a oeddent yn cael triniaeth am gyflwr iechyd meddwl cyn dod i'r carchar
  • a ydynt wedi treulio amser mewn ysbyty oherwydd cyflwr iechyd meddwl
  • a ydynt yn poeni am eu hiechyd meddwl - er enghraifft, os ydynt yn teimlo'n isel neu'n teimlo fel niweidio eu hun

Yn dibynnu ar yr asesiad, gall y carcharorion gael archwiliad iechyd meddwl llawn. Gwneir hyn yn y carchar.

Mae timau iechyd meddwl lleol y GIG yn gweithio mewn carchardai i roi cymorth arbenigol i bob carcharor sydd ei angen.

Gweler 'Gofal iechyd yn y carchar' i gael mwy o wybodaeth am dimau gofal iechyd, cofnodion iechyd a'r hyn sy'n digwydd os bydd carcharor yn gwrthod triniaeth.

Beth sy'n digwydd os bydd carcharor yn symud i ysbyty seiciatrig

Os yw cyflwr iechyd meddwl carcharor yn ddifrifol, gellir ei symud i ysbyty seiciatrig diogel er ei ddiogelwch ei hun. Bydd hyn ond yn digwydd os yw'n bodloni gofynion penodol ('meini prawf') o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Unwaith y bydd y carcharor yn well, bydd yn dychwelyd i'r carchar (os oes amser ar ôl ar ei ddedfryd).

Cysylltu â'r carchar os ydych yn poeni am rywun

Os ydych yn poeni am rywun sy'n mynd i'r carchar neu sydd eisoes yno, gallwch:

  • ddweud wrth aelod o staff y carchar pan fyddwch yn ymweld â'ch ffrind neu aelod o'r teulu
  • cysylltu â'r 'Tîm Cadwraeth Fwy Diogel' neu'r 'Llywodraethwr ar Ddyletswydd' yn y carchar yn ystod oriau arferol
  • cysylltu â'r swyddog ar ddyletswydd ('Orderly Officer') y tu allan i oriau

Mae gan rai carchardai linellau ffôn Cadwraeth Fwy Diogel cyfrinachol, a gallwch eu defnyddio i adael neges yn esbonio eich pryderon. Gallwch ddweud y canlynol wrth y carchar:

  • unrhyw beth a fyddai'n helpu staff y carchar i gefnogi'r carcharor yn eich barn chi
  • os ydych yn credu bod y carcharor wedi ystyried niweidio (neu ladd) ei hun yn y gorffennol

Llinell Gymorth i Deuluoedd Troseddwyr

Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth i Deuluoedd Troseddwyr am gyngor a chymorth. Caiff ei rhedeg gan Grŵp Cymorth Partneriaid a Theuluoedd Carcharorion (neu POPS yn Saesneg).

Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth i Deuluoedd Troseddwyr am ddim ar 0808 808 2003. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10.00 am a 3.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Diogelu carcharorion sy'n peri risg i'w hunain

Rhoddir cymorth i garcharorion a allai niweidio eu hunain

Caiff staff carchardai eu hyfforddi i adnabod carcharorion sydd mewn perygl o hunanladdiad neu niweidio eu hunain yn fwriadol (sef 'hunan-niweidio').

Os credir bod carcharor mewn perygl o hyn, rhoddir 'rheolwr achos' penodol iddo. Mae'r unigolyn hwn yn gyfrifol am sicrhau bod y carcharor yn cael y cymorth sydd ei angen arno.

Gallai hyn gynnwys:

  • sicrhau bod gan y carcharor gwmni yn ôl yr angen - megis cyd-garcharor neu aelod o staff
  • sicrhau bod y carcharor yn cael cymorth rheolaidd gan arbenigwr iechyd
  • sicrhau bod y carcharor yn cael help gydag unrhyw beth y mae'n gaeth iddo - er enghraifft cyffuriau neu alcohol
  • sicrhau bod y carcharor yn mynd ar gyrsiau addysg a hyfforddiant - er enghraifft i ddysgu sgil newydd

Help gan garcharorion eraill

Mae gan y rhan fwyaf o garchardai gynlluniau lle mae carcharorion yn rhoi cymorth emosiynol cyfrinachol i garcharorion eraill. Gelwir y sesiynau hyn yn gynlluniau gwrando.

Mae elusen y Samariaid yn hyfforddi carcharorion i gyflawni'r rôl hon.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU