Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bywyd yn y carchar - trosolwg

Pan fydd rhywun yn mynd i'r carchar, mae'n rhaid iddo ddilyn llawer o reolau a gweithdrefnau - ond mae ganddo hawliau penodol hefyd. Mynnwch wybod mwy am fywyd yn y carchar, beth y gall carcharorion ei ddisgwyl pan fyddant yno a beth fydd yn digwydd os byddant yn torri rheolau.

Beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn cyrraedd y carchar

Pan gaiff rhywun ei gollfarnu a'i anfon i'r carchar gan lys, caiff ei anfon yn gyntaf i garchar yn agos i'r llys lle cafodd ei gollfarnu.

Pan fydd yn cyrraedd, caiff archwiliadau eu cynnal er mwyn sicrhau bod ganddo bopeth sydd ei angen arno a nodi unrhyw broblemau, fel cyflwr meddygol.

Penderfynu ym mha garchar y caiff rhywun ei gadw

Caiff y carcharor ei asesu yn y carchar cyntaf y bydd yn ei gyrraedd. Ar sail yr asesiad, penderfynir ym mha fath o garchar y bydd yn bwrw ei ddedfryd.

Hawliau carcharorion

Mae gan bob carcharor hawliau penodol, gan gynnwys cael ei ddiogelu rhag bwlio

Mae gan bob carcharor hawliau penodol. Ymhlith y rhain mae:

  • yr hawl i gael bwyd a dŵr
  • cael ei ddiogelu rhag bwlio ac aflonyddu hiliol
  • y gallu i gysylltu â chyfreithiwr
  • gofal iechyd - gan gynnwys cymorth i garcharorion sydd â chyflwr iechyd meddwl

Beth y gall carcharor ei gadw yn ei gell

Mae gan bob carchar ei reolau ei hun am beth y gall carcharor ei gadw yn ei gell. Efallai y byddant yn gallu cadw pethau fel:

  • papurau newydd, llyfrau a chylchgronau
  • stereo, neu ddyfais sy'n chwarae cerddoriaeth, a chlustffonau
  • deunyddiau ysgrifennu a gwneud llun

Gall staff y carchar chwilio cell unrhyw bryd yn ddirybudd. Gallant gosbi carcharor os caiff eitemau sydd wedi'u gwahardd eu darganfod - er enghraifft cyffuriau anghyfreithlon neu alcohol.

Ysmygu mewn cell

Caniateir i garcharorion ysmygu yn eu celloedd eu hunain, ond ni chaniateir iddynt ysmygu unrhyw le arall y tu mewn i adeilad y carchar.

Nid oes rhaid i garcharor nad yw'n ysmygu rannu cell â charcharor sy'n ysmygu.

Treulio amser y tu allan i adeilad y carchar

Dylai pob carcharor gael y cyfle i dreulio rhwng 30 munud ac awr y tu allan yn yr awyr agored bob dydd.

Mae'r union amser a ganiateir yn wahanol ar gyfer pob carchar.

Cael arian yn y carchar

Ni all carcharorion gadw arian parod gyda nhw tra eu bod yn y carchar.

Mae'r carchar yn cadw arian er eu rhan mewn cyfrif arian parod preifat. Gall perthnasau neu ffrindiau'r carcharor anfon arian i'r cyfrifon hyn.

Staff y carchar sy'n penderfynu faint o arian y gall carcharor ei wario, yn dibynnu ar ba mor dda y mae'r carcharor yn ymddwyn.

Os oes arian ar gael yn ei gyfrif arian parod preifat, gall carcharor a gollfarnwyd gael gafael ar un o'r symiau canlynol bob wythnos:

  • £4
  • £15.50
  • £25.50

Os oes arian ar gael yn ei gyfrif arian parod preifat, gall carcharor ar remánd (sy'n aros am ei dreial) gael gafael ar un o'r symiau canlynol bob wythnos:

  • £22
  • £47.50
  • £51

Mae bod ‘ar remánd’ yn golygu bod y carcharor yn aros am ei dreial.

Siopau carchardai

Mae siop sy'n gwerthu pethau fel past dannedd, diaroglyddion, byrbrydau a stampiau ar gael yn y rhan fwyaf o garchardai.

Annog ymddygiad da mewn carchardai

Gall carcharorion sy'n dilyn y rheolau ennill breintiau os byddant yn ymddwyn yn dda. Gelwir hyn yn 'Cynllun Cymhellion a Breintiau a Enillir’.

Er enghraifft, efallai y bydd carcharor yn gallu:

  • cael mwy o ymweliadau gan ei deulu neu ffrindiau
  • cael gwario mwy o arian bob wythnos

Mae breintiau yn wahanol ym mhob carchar - gall staff y carchar esbonio i'r carcharor sut mae'r cynllun yn gweithio.

Beth fydd yn digwydd os bydd carcharor yn torri'r rheolau

Fel arfer caiff carcharor sy'n torri rheolau'r carchar - er enghraifft drwy ymosod ar rywun neu gael eitem sydd wedi'i gwahardd yn ei gell - ei gosbi. Bydd y gosb yn dibynnu ar y drosedd.

Os caiff carcharor ei ddyfarnu'n euog o dorri rheolau'r carchar, gall:

  • gael ei gadw yn ei gell am hyd at 21 diwrnod (oedolion) neu ddeg diwrnod (troseddwyr ifanc)
  • hyd at 42 diwrnod ychwanegol yn y carchar gael ei ychwanegu at ei ddedfryd wreiddiol

Gall y carchar dynnu breintiau'r carcharor yn ôl hefyd drwy, er enghraifft:

  • atal ymweliadau ychwanegol gan deulu a ffrindiau
  • tynnu teledu allan o’i gell
  • didynnu tâl y mae’r carcharor yn ennill wrth weithio yn y carchar

Sut i gadw mewn cysylltiad â charcharor

Mae sawl ffordd o gadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar, gan gynnwys:

  • anfon llythyrau
  • gwneud galwadau ffôn
  • ymweliadau

Dysgu a gweithio yn y carchar

Gall carcharor ddysgu sgiliau a chyflawni cymwysterau yn y carchar

Gall carcharor ddysgu sgiliau a chyflawni cymwysterau tra ei fod yn y carchar. Gall y rhain ei helpu i gael swydd pan fydd yn gadael y carchar. Gallai cyrsiau a chynlluniau gwaith gynnwys:

  • dysgu darllen neu ysgrifennu
  • gwaith coed
  • peirianneg
  • garddio

Mae'n bosibl i garcharor gael ei dalu am ei waith tra ei fod yn y carchar hefyd.

Cael eich rhyddhau o’r carchar

Mae pryd y caiff carcharor ei ryddhau o'r carchar yn dibynnu ar y math o ddedfryd a roddwyd iddo.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU