Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw aelod o'ch teulu neu un o'ch ffrindiau yn y carchar, mae help ar gael i chi - er enghraifft sefydliadau cymorth a llinellau cymorth. Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y mae rhywun wedi'i drin yn y carchar, gallwch gwyno hefyd. Mynnwch wybod sut i gael y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnoch.
Ffôn: 0808 808 2003
Mae Gweithredu dros Deuluoedd Carcharorion yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth i deuluoedd carcharorion.
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth i berthnasau neu ffrindiau pobl sydd yn y carchar yng Nghymru a Lloegr. Mae rhestr lawn o sefydliadau cymorth eraill ar ei wefan.
Mae un sefydliad - Grŵp Cymorth Partneriaid a Theuluoedd Carcharorion - yn rhedeg y Llinell Gymorth i Deuluoedd Troseddwyr. Gallwch ffonio 0808 808 2003 am ddim. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am ac 8.00 pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10.00 am a 3.00 pm.
Os ydych yn poeni am rywun rydych yn ei adnabod yn y carchar, gallwch:
Mae gan rai carchardai linellau cymorth Cadwraeth Fwy Diogel cyfrinachol, a gallwch eu defnyddio i adael neges yn esbonio unrhyw bryderon. Gallwch ddweud wrth y carchar am unrhyw beth a fyddai'n helpu staff y carchar i gefnogi'r carcharor yn eich barn chi.
Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt carcharorion unigol.
Dylai gwybodaeth fod ar gael mewn nifer o ieithoedd am fywyd y carchar.
Os nad yw teulu'r carcharor yn siarad Saesneg, mae gwybodaeth am fywyd yn y carchar ar gael mewn sawl iaith dramor.
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai i lawrlwytho'r 'Llyfr Gwybodaeth i Garcharorion'.
Mae sawl ffordd y gall carcharor gwyno am ei driniaeth yn y carchar. Mae'n rhaid iddo gwyno ei hun, er enghraifft drwy:
Mae'r Bwrdd Monitro Annibynnol yn gorff ar wahân i'r Gwasanaeth Carchardai a'r cyhoedd yw'r aelodau. Mae'n monitro sut y caiff carchardai lleol eu rhedeg.
Os ydych yn adnabod rhywun yn y carchar, gallwch ysgrifennu at gyfreithiwr y carcharor neu Aelod Seneddol ar ei ran.
Gweler 'Hawliau carcharorion a chwyno am garchar' i gael mwy o wybodaeth.
Mae sut a phryd y caiff carcharorion eu rhyddhau o'r carchar yn dibynnu ar eu dedfryd. Efallai y bydd yn rhaid iddynt ddilyn rheolau penodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Er enghraifft, ynghylch ble maent yn byw ac â phwy y caniateir iddynt gysylltu â nhw.
Gall hyn effeithio ar eu teuluoedd a'u ffrindiau o bryd i'w gilydd.
Mae Nacro yn elusen sy'n helpu pobl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar - er enghraifft, i ddod o hyd i dai.
Mae Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai yn gorff ar wahân i'r Gwasanaeth Carchardai ac efallai y bydd yn gallu helpu hefyd os ydych yn poeni am driniaeth rhywun yn y carchar.
Ni all helpu mewn achosion o gollfarnu ar gam a phan fydd rhywun am apelio yn erbyn ei gollfarn.