Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar

Mae carcharorion yn cael cysylltu â phobl y tu allan i'r carchar drwy lythyrau a galwadau ffôn - ond mae defnyddio ffonau symudol a'r rhyngrwyd wedi'u gwahardd. Mynnwch wybod beth y gallwch ac na allwch ei anfon at garcharor a'r rheolau ynglŷn â hawl carcharor i breifatrwydd.

Defnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn y carchar

Nid yw carcharorion yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd tra eu bod yn y carchar

Nid yw carcharorion yn cael defnyddio cyfrifiaduron na'r rhyngrwyd i anfon neu dderbyn negeseuon e-bost.

Nid ydynt yn cael defnyddio na diweddaru unrhyw wefannau rhwydweithio cymdeithasol ychwaith (er enghraifft, Facebook neu Twitter) tra eu bod yn y carchar:

  • drwy ei wneud eu hunain
  • drwy ofyn i chi neu rywun arall y tu allan i'r carchar ei wneud ar eu rhan

Cael llythyrau gan rywun yn y carchar

Gall carcharorion anfon cymaint o lythyrau ag y mynnant os ydynt yn talu i'w postio eu hunain - ond mae'r gwasanaeth carchardai yn talu i bostio nifer fach.

Gall carcharor ar remand (sy'n aros am ei dreial) gael dau lythyr 'y telir amdano' bob wythnos.

Gall carcharor a gollfarnwyd (rhywun sydd wedi cael dedfryd o garchar) gael un llythyr 'y telir amdano' bob wythnos.

Anfon llythyrau at rywun yn y carchar

Fel arfer, nid oes cyfyngiad ar faint o lythyrau gall carcharor eu cael.

Weithiau, efallai y bydd carchar yn rhoi cyfyngiad ar nifer y llythyrau.

Gweler 'Ymweld â rhywun yn y carchar' i gael gwybod mwy am gysylltu â charchardai unigol a'u rheolau.

Beth y gellir ac na ellir ei roi mewn llythyrau a pharseli

Os ydych am anfon llythyr neu barsel i rywun yn y carchar, cysylltwch â'r carchar. Bydd yn gallu dweud wrthych beth y gellir ac na ellir ei gynnwys yn y llythyr neu'r parsel.

Bydd hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr eitemau y gellir eu hanfon at garcharor, gan gynnwys arian.

Mae'r mathau o bethau na chaniateir i chi eu rhoi mewn llythyrau i'r carchar (neu o'r carchar) yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw beth anweddus neu anllad
  • unrhyw beth a allai gynorthwyo neu annog trosedd
  • unrhyw beth sy'n ymwneud â chynlluniau dianc neu sy'n bygwth diogelwch y carchar
  • unrhyw beth sydd wedi'i ysgrifennu mewn cod
  • unrhyw beth y mae'r carcharor wedi'i ysgrifennu er mwyn ei gyhoeddi a chael tâl amdano
  • unrhyw beth sy'n rhoi disgrifiad manwl o drosedd y carcharor a allai ddatgelu hunaniaeth y dioddefwyr, staff y carchar neu garcharorion eraill

Bydd staff y carchar yn cadw llygad am y pethau hyn.

Llythyrau y gall staff y carchar eu hagor neu eu darllen

Bydd staff y carchar yn agor y rhan fwyaf o lythyrau sy'n cael eu derbyn (a'u hanfon) gan garcharorion er mwyn cadarnhau nad ydynt yn cynnwys unrhyw beth sydd wedi'i wahardd.

Ni fydd pob llythyr yn cael ei ddarllen o reidrwydd - bydd staff y carchar yn penderfynu p'un ai i ddarllen llythyrau yn seiliedig ar y carcharor, ei gategori diogelwch a'i drosedd. Er enghraifft, efallai y bydd staff y carchar yn darllen pob llythyr at a gan garcharor os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

  • mae'n garcharor 'Categori A' (rhywun a fyddai'n peri llawer o berygl i'r cyhoedd pe bai'n dianc)
  • mae ar remánd am drosedd aflonyddu neu wedi'i gollfarnu o drosedd aflonyddu
  • mae staff y carchar yn credu bod y carcharor yn ceisio dianc

Mathau o lythyrau na fyddant yn cael eu hagor

Ni fydd llythyrau gan gyfreithwyr, llysoedd a rhai sefydliadau preifat eraill yn cael eu hagor. Bydd staff y carchar yn gallu egluro i'r carcharor pa lythyrau sy'n gyfrinachol.

Anfon arian at garcharor

Os byddwch am roi arian i garcharor gallwch anfon naill ai siec neu archeb bost yn daladwy i 'Gwasanaeth Carchardai EM'. Peidiwch ag anfon arian parod.

Dylai gael ei anfon at Lywodraethwr y carchar lle mae'r unigolyn dan sylw. Dylech gynnwys y canlynol:

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • enw'r carcharor a'i rif carcharor

Wedyn bydd yr arian yn cael ei dalu i mewn i gyfrif y carcharor.

Carchardai sy'n cael eu rhedeg yn breifat

Os byddwch am anfon arian at rywun mewn carchar sy'n cael ei redeg yn breifat dylech gysylltu â'r carchar yn uniongyrchol. Os na fyddwch yn siŵr pa fath o garchar mae'r unigolyn ynddo, chwiliwch am y manylion gan ddefnyddio'r 'adnodd chwilio am garchar' isod.

Gwneud galwadau ffôn yn y carchar

Rhaid i garcharorion roi manylion i staff y carchar ynglŷn ag unrhyw un y maent am ei ffonio

I wneud galwadau, rhaid i garcharorion ddefnyddio ffonau'r carchar. Ni chaniateir ffonau symudol.

Cyn cael caniatâd i wneud unrhyw alwadau, rhaid i garcharor roi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y bobl y mae am eu ffonio. Rhaid i'r carchar gytuno ar y rhestr.

Efallai y bydd gan garchardai gwahanol rheolau gwahanol o ran pryd gall carcharorion wneud galwadau ffôn.

Creu cyfrif a thalu am alwadau ffôn

Mae pob carchar yn defnyddio ffonau PIN (rhif adnabod personol). Mae pob carcharor yn cael cyfrif â rhif PIN i'w gofnodi cyn gwneud galwad.

Mae modd prynu 'credyd' yn siop y carchar a chaiff cost pob galwad ffôn a wneir ei didynnu o gyfrif y carcharor.

Galwadau ffôn a gaiff eu recordio a siarad yn breifat

Mae staff y carchar yn cael gwrando ar y rhan fwyaf o fathau o alwadau ffôn gan garcharorion - a gall y galwadau gael eu recordio.

Fel arfer, ni fydd hynny'n digwydd oni bai bod staff y carchar o'r farn bod rheswm da dros fonitro galwadau. Er enghraifft, os ydynt o'r farn bod diogelwch y carchar o dan fygythiad.

Galwadau y gellir eu gwneud yn breifat

Ni fydd staff y carchar yn gwrando ar rai mathau o alwadau, na'u recordio, gan gynnwys galwadau i'r canlynol:

  • cynghorydd cyfreithiol y carcharor
  • y Samariaid (elusen sydd â phrofiad o roi cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl)
  • y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol - er enghraifft, os bydd y carcharor yn apelio yn erbyn ei gollfarn

Bydd staff y carchar yn gallu egluro'r mathau eraill o sefydliadau y gall carcharor siarad â nhw yn breifat, heb gael ei recordio.

Additional links

Chwilio am garchar

Adnodd chwilio am garchar – chwilio gan ddefnyddio’r rhestr A i Y neu yn ôl rhanbarth

Allweddumynediad llywodraeth y DU