Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall ymweliadau â'r carchar eich helpu i gadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar sydd naill ai'n bwrw dedfryd neu'n aros am ei dreial. Gall pob carchar fod â rheolau ychydig yn wahanol ynghylch pryd y gallwch ymweld a pha mor aml y gallwch wneud hynny. Mynnwch wybod beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld â rhywun yn y carchar.
Gall carchardai fod â rheolau ychydig yn wahanol ynghylch pethau fel pryd y gallwch ymweld â rhywun yn y carchar a pha mor aml y gallwch wneud hynny.
Gall staff carchar roi gwybod i chi am bethau fel:
Os ydych yn ansicr am y rheolau, cysylltwch â'r carchar.
Caniateir o leiaf ddau ymweliad 60 munud bob pedair wythnos i garcharor a gollfarnwyd
Gall carcharor ar remánd (sy'n aros am ei dreial) gael tri ymweliad 60 munud bob wythnos.
Caniateir o leiaf ddau ymweliad 60 munud bob pedair wythnos i garcharor a gollfarnwyd.
Mae rhai carchardai'n caniatáu mwy o ymweliadau fel gwobr am ymddygiad da.
Os ydych yn byw ymhell o'r carchar, gall y carcharor ofyn am gael 'cronni' ymweliadau. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud ymweliadau hwy, ond yn llai aml.
Hefyd gall carcharorion ofyn am drosglwyddiad dros dro fel y caiff ymweliadau eu cynnal mewn carchar sy'n agosach at eu cartref - efallai y bydd y carchar yn cytuno ar hyn.
Fel arfer, ni all mwy na thri oedolyn ymweld â charcharor ar yr un pryd.
Os ydych am ymweld gyda mwy o bobl (gan gynnwys plant), dylech ddweud wrth y carchar pan fyddwch yn trefnu eich ymweliad.
Plant sydd am ymweld â'u rhieni yn y carchar
Fel arfer gall plant carcharorion ymweld â nhw. Fel arfer rhaid i unrhyw un o dan 18 oed ymweld â'r carchar gydag oedolyn.
Fel arfer gall plant nad ydynt yn perthyn i'r carcharor ymweld hefyd, ond efallai y bydd rheolau mewn perthynas â hyn yn dibynnu ar y carcharor a'r carchar.
Dim ond os yw'r carcharor yn dymuno i chi ymweld ag ef y gallwch wneud hynny.
Cyn y gallwch ymweld â charcharor a gollfarnwyd, bydd y carcharor yn gwneud cais am ddogfen benodol, sef 'gorchymyn ymweld'. Yna caiff hwn ei anfon atoch gan y carchar.
Dylai'r gorchymyn ymweld nodi rhif ffôn trefnu ymweliad y carchar. Mae rhai carchardai'n caniatáu i chi drefnu ymweliadau drwy e-bost.
(Os byddwch yn ymweld â charcharor ar remánd - sy'n aros am ei dreial - ni fydd angen gorchymyn ymweld arnoch.)
Rhaid i chi fynd â'r gorchymyn ymweld a phrawf adnabod gyda chi pan fyddwch yn mynd i'r carchar
Rhaid i chi fynd â'r gorchymyn ymweld gyda chi pan fyddwch yn mynd i'r carchar. Dylai gynnwys:
Rhaid i chi hefyd fynd â phrawf adnabod gyda chi, er enghraifft eich:
Os nad oes gennych yr un o'r rhain, cysylltwch â'r carchar.
Eich eiddo eich hun
Pan fyddwch yn cyrraedd, fel arfer bydd yn rhaid i chi adael eitemau fel eich ffôn symudol, eich bag ac unrhyw feddyginiaeth mewn locer yn ardal ymwelwyr y carchar.
Mae carchardai gwahanol yn caniatáu i chi fynd â phethau gwahanol i'w rhoi i garcharor - er enghraifft, fel arfer ni chaniateir bwyd na diod.
Dylech holi'r carchar cyn eich ymweliad.
Rhaid rhoi unrhyw beth rydych am fynd ag ef i mewn i'r carchar i'r swyddog sy'n gyfrifol am ymweliadau gael golwg arno pan fyddwch yn cyrraedd.
Gallech gael eich chwilio hefyd. Os byddwch yn gwrthod, ni fyddwch yn cael gweld y carcharor.
Pethau na allwch fynd â nhw gyda chi i'r carchar
Os byddwch yn ceisio mynd ag eitemau sydd wedi'u gwahardd i mewn i'r carchar gallwch gael eich gwahardd rhag ymweld â'r carchar am sawl mis neu hyd yn oed eich arestio.
Mae mynd ag eitemau penodol, gan gynnwys y canlynol, i mewn i unrhyw garchar yn drosedd:
Pan fyddwch yn ymweld â rhywun yn y carchar, byddwch yn siarad ag ef yn 'ystafell ymweliadau' y carchar.
Fel arfer, ystafell â chadeiriau a byrddau yw hon lle mae carcharorion eraill hefyd yn cyfarfod ymwelwyr. Weithiau bydd sgriniau rhyngoch chi a'r unigolyn rydych yn ymweld ag ef. Gwneir hyn er mwyn eich atal rhag rhoi eitemau sydd wedi'u gwahardd i'r carcharor.
Bydd staff y carchar yn yr ystafell ond byddant ddigon pell fel y gallwch gael sgwrs breifat.
Os ydych dros 18 oed ac yn cael incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda chost ymweld â pherthynas agos neu bartner yn y carchar.
Gwneir hyn drwy'r 'Cynllun Cymorth Ymweliadau â Charchardai'. Er mwyn gallu gwneud hyn, rhaid i chi fod yn hawlio budd-dal(iadau) penodol, fel:
I ddysgu mwy am y cynllun, cysylltwch â'r carchar neu'r Uned Cymorth Ymweliadau â Charchardai.
Os oes rhywun rydych yn ei adnabod yn y carchar, ond nad ydych yn gwybod ym mha un, gall y Gwasanaeth Lleoli Carcharor eich helpu i ddod o hyd iddo.
Y ffordd hawsaf yw drwy lenwi'r ffurflen ymholiad isod. Rhaid i chi lenwi rhai meysydd (er enghraifft, eich enw, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad) fel y gall y Gwasanaeth Lleoli Carcharor wirio eich manylion. Byddant yn gofyn i'r carcharor a yw'n dymuno bod mewn cysylltiad â chi.