Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r math o garchar y caiff troseddwyr eu hanfon iddo yn dibynnu ar eu trosedd a'u dedfryd. Mae'r risg o niwed i'r cyhoedd a pha mor debygol ydyw y bydd troseddwyr yn ceisio dianc hefyd yn ffactorau pwysig i'w hystyried. Mynnwch wybod mwy am y mathau gwahanol o garchardai a'r categorïau diogelwch.
Mae lefelau gwahanol o ddiogelwch mewn carchardai caeedig ac agored
Mae dau brif fath o garchardai - rhai caeedig a rhai agored.
Carchardai caeedig - sut maent yn gweithio
Mae perimedr diogel (ffens uchel neu wal) gan garchardai caeedig er mwyn atal carcharorion rhag dianc.
Mae staff y carchar yn rheoli symudiadau'r carcharorion yn y carchar. Caiff carcharorion eu cloi yn eu celloedd yn ystod y nos ac weithiau yn ystod rhannau o'r dydd.
Carchardai agored - sut maent yn gweithio
Nid oes perimedr diogel gan garchardai agored ac mae mwy o ryddid i'r carcharorion symud o gwmpas.
Efallai y bydd gan garcharorion eu celloedd a'u hallweddi eu hunain neu efallai y byddant yn byw mewn ystafelloedd cysgu.
Efallai y gall rhai carcharorion adael y carchar am gyfnodau penodol yn ystod y dydd - er enghraifft, er mwyn mynd i'r gwaith.
Gallai hyn fod yn rhan o'u 'cynllun adsefydlu' ac mae'n helpu'r carcharorion i ddod i arfer â bod yn ôl yn y gymuned, cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Symud o garchar caeedig i garchar agored
Gall carcharorion gael eu symud o garchar caeedig i garchar agored os yw staff y carchar o'r farn:
Carchardai hyfforddi
Dosberthir rhai carchardai caeedig neu garchardai agored yn 'garchardai hyfforddi'. Maent yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant i helpu carcharor i beidio â throseddu pan gaiff ei ryddhau. Gall carcharorion wneud pethau fel:
Mae'n bosibl y bydd yn rhaid trosglwyddo carcharor i garchar gwahanol er mwyn cael yr hyfforddiant neu'r rhaglen gywir.
Carchardai diogelwch uchel
Mae carchardai diogelwch uchel ar gyfer carcharorion y rhoddir dosbarthiad diogelwch categori A neu B iddynt.
Mae'r carchardai canlynol yn garchardai diogelwch uchel:
Rhoddir categori diogelwch i garcharorion ar sail:
Mae'r categori yn penderfynu ar y math o garchar y cânt eu hanfon iddo.
Y math o garcharor a'i oedran |
Y math o garchar |
Categori diogelwch |
---|---|---|
Byddai'n beryglus iawn i'r cyhoedd, yr heddlu neu ddiogelwch y wladwriaeth pe bai'r carcharor yn dianc a'r nod yw sicrhau bod dianc yn amhosibl |
Caeedig – diogelwch uchel |
Categori A |
Carcharorion gwrywaidd sy'n oedolion (dros 21 oed) sy'n peri risg i'r cyhoedd ond nad oes angen y lefel uchaf o ddiogelwch arnynt, a'r nod yw ceisio sicrhau bod dianc yn anodd iawn |
Caeedig |
Categori B |
Carcharorion gwrywaidd rhwng 15 ac 21 oed a charcharorion benywaidd sy'n peri risg ddifrifol i'r cyhoedd |
Caeedig |
Statws cyfyngedig |
Carcharorion gwrywaidd sy'n oedolion na ellir ymddiried ynddynt mewn carchar agored ond y mae'n annhebygol y byddant yn ceisio dianc |
Caeedig |
Categori C |
Carcharorion ifanc rhwng 18 ac 21 oed a charcharorion benywaidd sy'n oedolion na ellir ymddiried ynddynt mewn carchar agored |
Caeedig |
Amodau cyfyngedig |
Carcharorion gwrywaidd sy'n oedolion sy'n peri risg isel ac y mae'n annhebygol y byddant yn dianc |
Agored |
Categori D |
Carcharorion gwrywaidd ifanc rhwng 18 ac 21 oed a charcharorion benywaidd sy'n oedolion sy'n peri risg isel ac y mae'n annhebygol y byddant yn dianc |
Agored |
Amodau agored |
Gall staff y carchar newid categori diogelwch carcharor
Gall staff y carchar newid categori diogelwch carcharor os byddant o'r farn bod y carcharor bellach yn fwy diogel neu'n fwy peryglus. Yn ogystal, gall carcharorion ddefnyddio gweithdrefn gwyno os byddant o'r farn bod eu categori diogelwch yn anghywir.
Os yw dedfryd carcharor rhwng un a phedair blynedd, bydd staff y carchar yn adolygu'r categori diogelwch bob chwe mis.
Os yw dedfryd carcharor yn fwy na phedair blynedd, bydd staff y carchar yn adolygu'r categori diogelwch bob blwyddyn.
Fel arfer ni chaiff categori diogelwch carcharorion mewn carchardai agored eu hadolygu oni bai bod eu hymddygiad yn golygu bod angen dychwelyd y carcharor i garchar caeedig.
Trosglwyddo carcharor i garchar gwahanol
Os bydd categori diogelwch carcharor yn newid, gall gael ei drosglwyddo i garchar gwahanol. Er enghraifft, os bydd carcharor yn ceisio dianc, efallai y caiff ei symud i garchar mwy diogel.
Mae'n rhaid rhoi gwybod i garcharor pam ei fod yn cael ei drosglwyddo. Oherwydd rhesymau diogelwch, efallai y gwneir hyn ar ôl i'r carcharor gyrraedd y carchar newydd.
Mae 11 o garchardai a gaiff eu rhedeg gan gwmnïau yn y sector preifat (a elwir yn garchardai 'dan gontract'). Gall carcharor gael ei anfon i garchar dan gontract yn dibynnu ar ble mae'n byw a'i gategori diogelwch.
Cânt eu rhedeg a'u rheoli yn yr un ffordd â charchardai a gaiff eu rhedeg gan y Gwasanaeth Carchardai.